Mwy o Newyddion
-
Carwyn Jones yn galw am £30m ychwanegol i BBC Cymru Wales
17 Awst 2015Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi pwysleisio heddiw fod yn rhaid i BBC Cymru Wales dderbyn cyllid ychwanegol. Ar hyn o bryd dim ond “y lefel dderbyniol isaf bosibl o ddarpariaeth” sy’n cael ei chynnig ar gyfer rhaglenni Saesneg. Darllen Mwy -
Rhaid i'r Llywodraeth wneud mwy i daclo cyflogau prif weithredwyr
17 Awst 2015Mae Jonathan Edwards AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, wedi beirniadu Llywodraeth y DU am fethu gwneud digon i daclo cyflogau prif weithredwyr wrth i ffigyrau newydd gan yr High Pay Centre ddangos fod cyflog prif weithredwr ar gyfartaledd 183 gwaith yn fwy na chyflog gweithwyr. Darllen Mwy -
Steve Coogan, Mark Ronson a James Morrison yng Ngŵyl Rhif 6
14 Awst 2015MAE trefnwyr Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion wedi cyhoeddi y bydd y comedïwr poblogaidd Steve Coogan yn ymddangos yn yr ŵyl fis nesaf. Darllen Mwy -
Buddsoddi £3.5m mewn gwasanaethau iechyd lleol i ddod â gofal yn nes at gartrefi pobl
14 Awst 2015Heddiw, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford, wedi dweud bod buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru mewn gwasanaethau iechyd lleol ledled y wlad yn helpu'r GIG i ddarparu mwy o ofal yn nes at gartrefi pobl a lleihau pwysau ar wasanaethau ysbyty. Darllen Mwy -
Llywodraeth Cymru a Microsoft yn lansio peilot Greenshoots yng Nghymru
14 Awst 2015Bydd prosiect treialu i gefnogi datblygwyr gemau newydd yng Nghymru yn neilltuo grant o £25,000 i bedwar cwmni llwyddiannus i greu teitlau newydd – ac i fanteisio ar gyngor arbenigol... Darllen Mwy -
Camau gweithredu yn erbyn gwylanod niwsans yn Abertawe
13 Awst 2015Mae preswylwyr yn Abertawe wedi croesawu camau gweithredu gan y cyngor a busnesau lleol i helpu i leihau nifer y gwylanod yng nghanol y ddinas. Darllen Mwy -
Perchnogion cŵn yn wynebu dirwyon ar draethau lle na chaniateir cŵn
13 Awst 2015Gallai swyddogion gorfodi sydd ar batrol yr wythnos hon roi eu hysbysiadau cyntaf o gosb benodol o £60 i berchnogion cŵn sy'n caniatáu i'w hanifeiliaid anwes grwydro ar draethau lle na chaniateir cŵn. Darllen Mwy -
Trawsnewidiad gwerth £50,000 i Dŷ Newydd ym mlwyddyn dathlu ei chwarter canrif
13 Awst 2015Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd yn adnoddau Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy. Darllen Mwy -
Cais Cynllunio i ehangu Swyddfa Wylfa Newydd gwerth £1m
13 Awst 2015Mae Pŵer Niwclear Horizon wedi cyflwyno cais cynllunio i ymestyn swyddfa safle Wylfa Newydd i fod dair gwaith yn fwy nag y mae ar hyn o bryd Darllen Mwy -
Dicter at gau canghennau Nat West
13 Awst 2015Mae Elin Jones, AC lleol Plaid Cymru dros Geredigion, wedi mynegi ei dicter at benderfyniad grwp bancio RBS i gau ei changhennau NatWest yn Aberaeron a Thregaron. Darllen Mwy -
Diddordeb mawr mewn ffoledd hanesyddol yn Sgeti
13 Awst 2015Mae dros 50 o ymholiadau wedi'u derbyn am ffoledd hanesyddol yn Abertawe ers i'r adeiledd fynd ar y farchnad gyntaf yn gynharach yn yr haf. Darllen Mwy -
Galw am wahardd anifeiliaid gwyllt o syrcasau wrth i sioe llewod dadleuol ddod i Gaernarfon
11 Awst 2015Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros etholaeth Arfon, Hywel Williams, wedi galw eto ar wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a sioeau. Darllen Mwy -
Hwb £1 biliwn Plaid Cymru i fusnesau Cymru
10 Awst 2015Mae Plaid Cymru wedi galw eto am i fwy o gontractau’r sector cyhoeddus i fynd i gwmniau Cymreig, yn dweud y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau bod y sector cyhoeddus Cymreig yn gwella eu harferion pwrcasu ac yn anelu at sicrhau bod £1 biliwn ymhellach yn cael ei bwmpio i gwmniau Cymreig. Darllen Mwy -
Lansio CD emynau karaoke
07 Awst 2015Wrth i gynulleidfaoedd fynd yn llai, mae capeli ac eglwysi yn aml yn cael eu hunain heb organydd i gyfeilio gwasanaethau. Darllen Mwy -
Protest addysg – Hen gar wedi’i adael wrth uned Llywodraeth Cymru
07 Awst 2015Wrth gynnal protest wrth uned Llywodraeth Cymru heddiw mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi gadael hen gar gyda’r geiriau “Cymraeg Ail Iaith” arno o flaen stondin llywodraeth Cymru. Darllen Mwy -
Llywodraeth Cymru am barhau i gyllido Rali Cymru GB tan 2018
07 Awst 2015Mae’r International Motor Sports (IMS) Ltd wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cefnogaeth ar gyfer Rali Cymru tan ddiwedd 2018. Darllen Mwy -
Cyflwyno ceisiadau amcanol ar gyfer safleoedd datblygu canol y ddinas
07 Awst 2015Mae dyluniadau cychwynnol a lluniadau technegol bellach wedi'u cyflwyno gan arbenigwyr adfywio sy'n cystadlu am y cyfle i drawsnewid canol dinas Abertawe. Darllen Mwy -
Twristiaeth yn werth dros £390 miliwn y flwyddyn i economi Bae Abertawe
04 Awst 2015Mae ffigurau newydd hynod gadarnhaol yn dangos y bu twristiaeth yn werth mwy na £390 miliwn i economi Bae Abertawe y llynedd. Darllen Mwy -
Galw am ddatrysiad brys i helpu ffermwyr sy'n dioddef yn sgil prisiau llaeth ansefydlog
04 Awst 2015Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi galw am bob cymorth posib i ffermwyr llaeth yng Nghymru oherwydd y gwahaniaeth yn y prisiau llaeth a delir i ffermwyr o’i gymharu â’r pris ar y silff yn yr archfarchnadoedd. Darllen Mwy -
Ymgyrchwyr Powys: "Hen bryd i ni gael addysg Gymraeg i bawb'
04 Awst 2015MAE angen brys am addysg Gymraeg ar drigolion sir Powys, dyna fydd neges ymgyrchwyr iaith wrth y cyngor sir mewn protest ar faes yr Eisteddfod heddiw. Darllen Mwy