Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Awst 2015

Llywodraeth Cymru a Microsoft yn lansio peilot Greenshoots yng Nghymru

Bydd prosiect treialu i gefnogi datblygwyr gemau newydd yng Nghymru yn neilltuo grant o £25,000 i bedwar cwmni llwyddiannus i greu teitlau newydd – ac i fanteisio ar gyngor arbenigol gan Microsoft.
 
Partneriaeth yw hon rhwng Llywodraeth Cymru a Microsoft i lansio fersiwn Gymreig o Greenshoots, prosiect datblygu gemau, er lles cwmnïau newydd.
 
Rhaglen ‘ddeori’ yw Greenshoots.  Mae Microsoft wedi bod yn ei chynnal ar y cyd â Creative England dros y ddwy flynedd ddiwethaf i roi nawdd a chefnogaeth i ddatblygwyr gemau i greu gemau sy’n fasnachol lwyddiannus.
 
Mae Microsoft wedi gweithio gyda llawer o stiwdios llwyddiannus yng Nghymru yn y gorffennol, ac yn awr, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae am dreialu’r rhaglen yng Nghymru.
 
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cymryd rhan yn rhaglen BizSpark Microsoft a chael manteisio ar gyfoeth o feddalwedd datblygu a chyngor arbenigol a thechnegol a chael eu cyflwyno i fuddsoddwyr.
 
O dan y prosiect treialu, bydd datblygwyr gemau’n gorfod ceisio am gyllid a bydd y pedwar datblygwr gorau yn cael grant o hyd at £25,000 yr un i ddatblygu teitlau newydd ar gyfer Xbox One, cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol.
 
Bydd y cwmnïau’n cadw eu hawl ar eu heiddo deallusol ac er y bydd disgwyl iddynt ddatblygu gemau ar gyfer platfform Microsoft i wneud y gorau o fuddiannau technegol y rhaglen, byddan nhw’n cael eu hannog i ddatblygu apps ar gyfer platfformau eraill hefyd.
 
Meddai Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Mae’r diwydiant gemau’n werth rhyw £1 biliwn i economi’r DU ac mae’n sector sy’n tyfu’n gyflym o fewn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, gan gynnig swyddi cynaliadwy bras.
 
“Rydym yn cefnogi’r sector trwy nifer o gynlluniau gan gynnwys y peilot hwn gyda Microsoft sy’n cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr llwyddiannus weithio gydag un o fawrion y diwydiant a manteisio ar eu harbenigedd.”
 
Meddai Liam Kelly, Rheolwr Cyffredinol Profiadau Datblygwyr gyda Microsoft UK: “Mae Microsoft yn dibynnu ar dwf y diwydiant gemau yn y DU ac yn bwysicach na hynny, ar lwyddiant masnachol y gymuned o Ddatblygwyr Gemau annibynnol.  Testun cyffro inni yw cael dod â Greenshoots i Gymru i weld cymuned Datblygwyr Gemau Cymru’n cael budd o’r rhaglen ac rwy’n disgwyl ymlaen at weld gemau newydd yn cael eu rhyddhau.”
 
Bydd Llywodraeth Cymru a Microsoft yn pwyso a mesur ceisiadau gyda’i gilydd ac yn cytuno rhyngddynt ar yr ymgeiswyr llwyddiannus.  Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 25 Medi a bydd angen cyflenwi’r gemau erbyn Mawrth 2016 er mwyn gallu eu harddangos ym mis Mai 2016.
 
Cysylltwch â www.creative.Industries@wales.gov.uk i ofyn am ffurflen gais a rhagor o wybodaeth. 
 

Rhannu |