Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Awst 2015

Galw am wahardd anifeiliaid gwyllt o syrcasau wrth i sioe llewod dadleuol ddod i Gaernarfon

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros etholaeth Arfon, Hywel Williams, wedi galw eto ar wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a sioeau. Daw hyn ar ôl ymgyrch hir-dymor trwy’r DU, sydd wedi derbyn llawer o gefnogaeth leol, yn galw am y fath waharddiad. 

Daw galwad Hywel Williams AS ar drothwy ymweliad sioe llewod a teigrod â Chaernarfon, sydd i’w chynnal rhwng Awst 13eg – 22ain. Mae’r sioe newydd orffen cyfnod o 2 wythnos ym Mae Penrhyn, Conwy, lle cafwyd deiseb gyda dros 63,000 o enwau yn gwrthwynebu ei hymweliad â’r sir.  

Dywedodd Hywel Williams: “Mae’r dyddiau o gludo anifeiliaid gwyllt yng nghefn loriau o gwmpas trefi a phentrefi wedi hen ddod i ben. Dengys ymgynghoriad gan y Llywodraeth fod 94% o’r cyhoedd yn cefnogi gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y fath sioeau.

"Mae’n ddyletswydd ar y Prif Weinidog gadw at ei air a chyflwyno’r gwaharddiad heb unrhyw oedi pellach, gan wireddu un o addewidion Maniffesto’r Ceidwadwyr.

"Mae’r sioe sy’n ymweld â Chaernarfon wedi ei thrwyddedu yn ne ddwyrain Lloegr, sef cartref parhaol y cwmni. Mae gan Gyngor Gwynedd bolisi hir-sefydlog o wrthod caniatad i gynnal y fath sioeau ar eu tir nhw. Ond gan fod y sioe yma yn cael ei chynnal ar dir preifat, does gan y Cyngor ddim grym i’w gwahardd.

"Mae’r Cyngor wedi fy sicrhau eu bod am ddefnyddio y pwerau sydd ganddynt i sicrhau llês yr anifeiliaid a diogelwch y cyhoedd. 

"Hyderaf y bydd pobl leol ynghyd ag ymwelwyr i’r ardal yn cadw draw a gwrthod cefnogi’r sioe yma.” 

Mae Hywel Williams AS hefyd yn galw ar y Llywodraeth i symud ymlaen a chyflwyno deddfwriaeth i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn sioeau, ymarferiad sydd erbyn heddiw yn cael ei gysidro’n greulon ac wedi ei ddyddio. Mae Mr Williams wedi rhoi ei enw i gynnig swyddogol traws-bleidiol yn y Senedd (EDM192) sy’n galw ar y Llywodraeth i gadw at eu hymrwymiad Maniffesto i ddod a gwaharddiad i rym ar ôl yr etholiad cyffredinol.    

Rhannu |