Mwy o Newyddion
Carwyn Jones yn galw am £30m ychwanegol i BBC Cymru Wales
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi pwysleisio heddiw fod yn rhaid i BBC Cymru Wales dderbyn cyllid ychwanegol. Ar hyn o bryd dim ond “y lefel dderbyniol isaf bosibl o ddarpariaeth” sy’n cael ei chynnig ar gyfer rhaglenni Saesneg.
Mewn llythyr at yr Arglwydd Tony Hall, sef Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, tynnodd y Prif Weinidog sylw at y bwlch cynyddol o ran cyllid rhwng Cymru a gweddill y DU a nododd fod angen £30m ychwanegol er mwyn sicrhau bod y rhaglenni a gaiff eu cynhyrchu yn adlewyrchu bywydau pobl Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog: “Oni fydd y BBC yn rhoi rhagor o gyllid i Gymru mae’n bosibl mai cynulleidfaoedd Cymru fydd yn cael y fargen waethaf o blith holl wledydd y DU. Dyma’r gwir plaen ac nid wyf yn teimlo ei bod hi’n deg bod Cymru ar ei hôl hi fel hyn.
“Nid oes modd i BBC Wales bellach ddarparu rhaglenni comedi na dramâu o safon uchel ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru yn sgil prinder adnoddau. Dyma raglenni a ddylai adlewyrchu ein bywydau ynghyd â’n diwylliant unigryw.
“Cydnabu adolygiad blynyddol diweddar Cyngor Cynulleidfa Cymru y BBC fod ‘toriadau wedi golygu bod darpariaeth deledu BBC Wales ac eithrio rhaglenni newyddion mewn sefyllfa fwy bregus nag erioed o’r blaen’. Ni all y sefyllfa hon barhau – ac yn arbennig gan fod y sefyllfa yn yr Alban, er enghraifft, mor wahanol. Nid yw Cymru’n derbyn ei chyfran haeddiannol.
“Mae BBC Wales wedi creu cryn enw iddo’i hun am gynyrchiadau o’r radd flaenaf sydd wedi’u darlledu a’u canmol ar draws y byd gan gynnwys Dr Who, Sherlock a Hinterland. Yn amlwg, hoffem weld y llwyddiant hwn yn parhau ond mae’n hollbwysig nad yw hyn yn digwydd ar draul buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol.
“Am y rheswm hwn rwy’n galw ar y BBC i ddarparu cyllid digonol ar gyfer rhaglenni newyddion a rhaglenni eraill nad ydynt yn rhai newyddion yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae o leiaf £30m yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd Cymru’n derbyn y cynnwys cenedlaethol safonol y maent yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu.”
Pwysleisiodd y Prif Weinidog yn ogystal na ddylai cyllid gael ei ddarparu ar gyfer rhaglenni Saesneg ar draul toriadau i’r cyllid ar gyfer S4C a rhaglenni Cymraeg: “Hoffwn bwysleisio eto nad yw cyllid ychwanegol ar gyfer rhaglenni Saesneg yn golygu y dylai’r cyllid a gaiff ei roi i S4C neu BBC Cymru ar gyfer rhaglenni Cymraeg gael ei frigdorri. Mae gan y BBC swyddogaeth hollbwysig o safbwynt creu cynnwys Cymraeg ei iaith ac mae’n hollbwysig fod y gwaith hwn yn parhau.”