Mwy o Newyddion
Diddordeb mawr mewn ffoledd hanesyddol yn Sgeti
Mae dros 50 o ymholiadau wedi'u derbyn am ffoledd hanesyddol yn Abertawe ers i'r adeiledd fynd ar y farchnad gyntaf yn gynharach yn yr haf.
Y diffiniad cyffredinol o ffoleddau yw adeiladau diswyddogaeth a gafodd eu codi i wella tirlun naturiol.
Mae'r ffoledd yn Abertawe sydd ar werth, oddi ar Ffordd Saunders yn Sgeti ac a adwaenid yn wreiddiol fel y Belvedere, yn dŵr rhestredig Gradd II a adeiladwyd rhwng 1820 a 1830.
Mae Cyngor Abertawe bellach wedi trefnu mwy na 25 o ymweliadau â'r safle. Hefyd, anfonir pecynnau gwybodaeth i 15 o bartïon â diddordeb.
Bydd angen cyflwyno ceisiadau terfynol am y safle 0.45 erw erbyn canol dydd, ddydd Gwener, 28 Awst.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, "Bu graddau'r diddordeb yn y ffoledd hanesyddol yn Sgeti'n galonogol iawn, felly rydym yn disgwyl nifer o geisiadau swyddogol am yr eiddo y byddwn yn eu hystyried yn gynnar ym mis Medi. Mae'r ffoledd yn un o nifer mawr o adeiladau a darnau o dir y mae'r cyngor yn berchen arnynt a adolygir yn barhaus wrth i ni geisio gwneud y defnydd gorau o'n heiddo. Mae enghreifftiau eraill o eiddo ar y farchnad yn cynnwys safleoedd y Ganolfan Ddinesig ym Mhenllergaer a chanol y ddinas. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i ddod yn symlach ac yn fwy effeithlon wrth i ni geisio lleihau'r diffyg yn y gyllideb a diogelu cynifer o wasanaethau â phosib i breswylwyr ar draws y ddinas.
"Mae safle'r ffoledd wedi'i esgeuluso ers peth amser, felly gallai ei werthu a'i drawsnewid helpu i adfywio golwg a naws y gymuned gerllaw hefyd."
Bellach, mae Cyngor Abertawe hefyd wedi cytuno i werthu'r safle ym Mhenplas lle roedd Leo's gynt i ddatblygwr gyda chysylltiadau agos â chadwyn archfarchnadoedd rhad. Y gobaith yw y bydd y gwerthiant yn creu hyd at 80 o swyddi ac arwain at dafarn a bwyty newydd ar y safle hefyd.
Mae gwerthiannau diweddar eraill y cytunwyd arnynt yn cynnwys safle hen ffatri Alberto Culver yn Llansamlet. Mae trafodaethau â buddsoddwr a allai arwain at 100 o swyddi newydd yn parhau.
Cymerwch gipolwg ar yr adran tir ac eiddo yn www.abertawe.gov.uk am fwy o wybodaeth am holl dir ac eiddo'r cyngor sydd ar werth.