http://www.y-cymro.comY CymroMike a Jules Peters yn paratoi am her 130+ o filltiroedd
MAE Mike a Jules Peters yn cychwyn ar daith gerdded ar draws gogledd Cymru heddiw, 15 Mehefin, fel rhan o raglen brysur o weithgareddau codi arian er budd eu hymgyrch Wrth Dy Ochr.

Sefydlwyd yr elusen gofal canser Wrth Dy Ochr gan y canwr roc rhyngwladol Mike Peters yn Nhachwedd 2014 gydag Awyr Las, elusen GIG Gogledd Cymru.

Bydd yr ymgyrch yn cyrraedd ei huchafbwynt y mis hwn gyda thaith gerdded 130 milltir ar draws gogledd Cymru dan arweiniad Mike a’i wraig Jules.

Ar hyd y daith bydd ciniawau codi arian, cyd-ganu, Ras Fawr Gwthio Gwely Awyr Las a nifer o ddigwyddiadau cymunedol.

Bydd Mike a Jules yn cyrraedd terfyn yr her ar gopa’r Wyddfa yn ystod gŵyl gerdd a cherdded Snowdon Rocks, sef deuddydd llawn hwyl i’r teulu cyfan yn Llanberis ar 24 a 25 Mehefin.

Meddai Mike Peters, sydd wedi goroesi canser ei hun; “Pan wnes i lansio ymgyrch gofal canser Wrth Dy Ochr gydag Awyr Las dros ddwy flynedd yn ôl, roedd gen i weledigaeth gref iawn.

"Ro’n i eisiau helpu pobl eraill fel fi i gael yr ansawdd uchaf bosibl o driniaeth a gofal yma yng ngogledd Cymru; ro’n i’n gobeithio annog pobl i gadw’n actif; ac ro’n i eisiau dathlu popeth sy’n wych am ein GIG.

“Pa ffordd well o godi arian na mynd allan a mwynhau’r golygfeydd cwbl wefreiddiol sydd ganddon ni yn y rhan yma o’r byd?

"Rydyn ni’n gwybod y bydd yn waith caled, ond dydyn ni ddim yn bobl sy’n troi ein cefnau ar her.

"Yn bwysicaf oll, rydyn ni’n credu mor daer yn yr achos.

"Bydd pob ceiniog y llwyddwn ni i’w chodi drwy’r ymgyrch Wrth Dy Ochr yn cefnogi pobl gyda chanser a’u teuluoedd, ar stepen ein drws yma yng ngogledd Cymru.”

Ers ei lansio, mae’r ymgyrch wedi codi dros £270,000 ar gyfer offer newydd a gwell cyfleusterau, rhwydweithiau cefnogi a gyfer cleifion a hyfforddiant ychwanegol ar gyfer staff y GIG.

Mae hyn wedi cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl sy’n byw gyda chanser yng ngogledd Cymru.

Y nod yw codi £351,120, sef punt am bob cam sydd rhwng tri prif ysbyty gogledd Cymru yn Wrecsam, Bodelwyddan a Bangor.

Bydd y rheiny wnaeth wylio’r rhaglen ddogfen ddiweddar ar BBC One, Mike and Jules: While We Still Have Time yn ymwybodol bod y cwpl wedi cael blwyddyn anodd gan i Jules dderbyn diagnosis o ganser hefyd.

Meddai Mike: “Rydyn ni’n gryfach a mwy penderfynol nag erioed.

"Rydyn ni’n dau yn dal yn ymwybodol iawn bod ganddon ni lawer i fod yn ddiolchgar amdano ac mae’n gweledigaeth yn parhau i fod yr un fath: rydyn ni eisiau helpu, rydyn ni eisiau annog pobl i fod yn obeithiol ac rydyn ni eisiau dathlu.

"Dyna pam ein bod ni’n mynd ar y daith wefreiddiol yma fel rhan o’n gweithgareddau ehangach dan yr ymgyrch Wrth Dy Ochr.

"Byddwn yn codi arian, byddwn yn canu, byddwn yn cofio am ffrindiau a gollwyd a byddwn yn cael andros o hwyl.”

Gellir cofrestru i gymryd rhan a dod o hyd i’r rhaglen lawn o weithgareddau ar http://www.byyoursideappeal.org

Gellir cyfrannu’n ariannol at ymgyrch Wrth Dy Ochr drwy gysylltu â Thîm Awyr Las neu yn http://www.justgiving.com/campaigns/charity/algc/byyourside neu drwy decstio BYYS17 £5 i 70070

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5266/
2017-06-15T00:00:00+1:00Dyfodol yr Wyddfa: Galw am ymateb
Heddiw, (Dydd Iau, 15 Mehefin), mae Partneriaeth yr Wyddfa, sy'n cynnwys ystod o sefydliadau sy'n gofalu ac yn gyfrifol am ddyfodol yr Wyddfa, yn dechrau ymgynghori ar Gynllun Partneriaeth Yr Wyddfa.

Mae Cynllun Partneriaeth Wyddfa yn nodi sut y bydd aelodau'r bartneriaeth yn cyflawni eu gwaith yn ardal yr Wyddfa mewn ffordd gydlynol.

Mae'n tynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd gan y bartneriaeth hyd yn hyn, yn rhoi gwybod i bobl am yr hyn y mae'r bartneriaeth yn ceisio ei gyflawni a bydd yn cael ei ddefnyddio i fynd ar drywydd mwy o fuddsoddiad yn yr ardal er mwyn cyflawni gweledigaeth y bartneriaeth.

Dywedodd Helen Pye, rheolwr partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae safbwyntiau a syniadau pobl yn hynod o bwysig i ni a dyna pam ein bod yn darparu'r cyfle hwn i bobl a mudiadau roi eu adborth ar y Cynllun drafft.

"Mae sicrhau mewnbwn gan eraill mor bwysig i ni fedru cynhyrchu’r cynllun gorau posib ar gyfer yr ardal, a bydd y cynllun yn sgil hyn yn esblygu ac yn cael ei addasu fel y bo'n briodol."

Bydd ymgynghoriad ar-lein yn dechrau heddiw ar http://www.parteriaethyrwyddfa.co.uk ac yn parhau tan 7 Gorffennaf.

Mae sesiwn galw heibio hefyd wedi cael ei drefnu ar gyfer 4 Gorffennaf rhwng 2:00 a 7.30yh yn y Mynydd Gwefru, Llanberis.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5267/
2017-06-15T00:00:00+1:00Meistr Merseysound i chwarae mewn gŵyl awyr agored fawr yng ngogledd Cymru
Bydd Ian Broudie o The Lightning Seeds, meistr sîn gerddorol Lerpwl, yn dod â sain fywiog Glannau Merswy i ŵyl chwaraeon a cherddoriaeth mwyaf newydd Cymru yr haf hwn.

Mae Broudie yn adnabyddus fel y dyn y tu ôl i Three Lions, yr anthem bêl-droed a fu mor agos at ysbrydoli Lloegr i ennill Pencampwriaeth bêl-droed Ewrop 21 mlynedd yn ôl, ond mae ei yrfa mewn cerddoriaeth wedi bod yn llawer mwy na hynny.

Bydd yn perfformio rhai o’i hen ffefrynnau ym mis Awst yng Ngŵyl Awyr Agored Eryri yn y Bala, yn erbyn cefndir hyfryd dyfroedd Llyn Tegid a mynyddoedd mawreddog y Berwyn.

Mae’r Ŵyl sy’n rhedeg o ddydd Gwener, Awst 11 tan ddydd Sul, 13 Awst yn cyfuno yr awyr agored gyda pop o’r safon uchaf – oherwydd yn ogystal â’r Lightning Seeds, bydd Scouting for Girls, a Toploader a Cast hefyd yn ymddangos.

Bydd y rhaglen lawn yn cynnwys llwybrau rhedeg, heicio, canŵio, byrddio padlo, nofio, dringo, beicio mynydd a mwy gyda gwersylla ar gyfer dros dair mil bobl ar safle Fferm Gwernhefin, wrth ymyl y llyn, ac mae disgwyl 10,000 o bobl i ymweld â’r ŵyl dros y penwythnos.

Y gerddoriaeth fydd un o’r prif atyniadau a dywed Broudie, 58 oed, ei fod yn edrych ymlaen yn eiddgar: “Bydd yn wych i fod yng Nghymru,” meddai. “Roeddwn i’n arfer treulio gwyliau’r haf yn Abersoch gyda fy mam a ‘nhad ac yn ddiweddarach fe wnes i lot o waith mewn stiwdio gerddoriaeth yn Wrecsam.

“Mae yna lawer o resymau, pam ei fod mor arbennig. Mae digon o gysylltiadau rhwng Lerpwl a Chymru a bydd yn dda mynd ar y llwyfan a chwarae reit wrth ymyl y dŵr. Mae’n edrych yn wych yno ac mi ddylai fod yn ŵyl arbennig.

“Mae yn yr awyr agored ac rwyf wrth fy modd gyda’r digwyddiadau hyn. Mae pawb yn benderfynol o gael amser da felly maen nhw’n wych.”

Daeth Broudie i amlygrwydd ar ddiwedd y 1970au gyda’r band Big in Japan a oedd yn cynnwys Holly Johnson, o Frankie Goes I Hollywood, ar y bas ac mae wedi cynhyrchu sawl albwm ar gyfer llu o enwau mawr Merseysound o Echo and the Bunnymen i The Coral a The Zutons.

Dechreuodd gyfansoddi fel The Lightning Seeds ar ddiwedd y 1980au ac erbyn 1994 roedd yn rhaid creu band i deithio gyda’r rhestr gynyddol o ganeuon roedd wedi ei chreu yn y stiwdio. Ar ôl toriad ar ddechrau’r 2000au mae wedi ailafael ynddi gan ailddechrau teithio yn 2009 gyda band newydd sy’n cynnwys ei fab Riley ar y gitâr.

Mae Broudie yn mynd nôl yn aml i Lerpwl – mae ganddo docyn tymor yn Anfield ac mae’n gefnogwr selog i’r Cochion ac mae wrth ei fodd gyda’r hyn y mae gŵr angerddol arall, Jurgen Klopp, wedi ei roi i’r clwb.

“Mae wedi bod yn ardderchog. Pan edrychwch ar ein gwariant net yn ystod y ddwy flynedd diwethaf mae’n ffigwr rhywbeth tebyg i £7 miliwn ac mae lle rydym wedi cyrraedd yn wych. Rydym wir yn cyflawni’n well na’r disgwyl.

“Mae Klopp yn gwneud gwaith anhygoel. Mae bod nôl yng Nghynghrair y Pencampwyr yn wych a’r flwyddyn nesaf mi ddylem fod yn rym go iawn.

“Mae’r cae wedi newid gyda’r eisteddle newydd a phan mae’n siglo mae’r awyrgylch yn drydanol.”

Mae Broudie ei hun, fel dinas gerddorol Lerpwl, yn dal i fod yn dipyn o rym hefyd ac meddai: “Dw i’n gweithio ar albwm newydd ar hyn o bryd a ddylai gael ei rhyddhau y flwyddyn nesaf, ond byddaf yn cadw’n bennaf at yr hen ddeunydd yn yr ŵyl sef beth rwy’n meddwl y mae pobl am ei glywed.

“Mae’n amser hir ers i mi ddechrau chwarae mewn bandiau, ond mae Lerpwl yn dal i fod yn dref gerddorol ac mae yna fandiau newydd yn codi drwy’r amser.

“Mae llawer o ddinasoedd wedi colli tipyn o’u cymeriad a’u natur unigryw am fod ganddyn nhw i gyd yr un siopau a bariau, ond bydd gan Lerpwl ei hunaniaeth ei hun bob amser.

“Rwy’n gwrando ar lawer o gerddoriaeth a gyda lawrlwytho mae gennych fynediad i bopeth drwy’r amser - mae’n amser gwych i fod mewn i gerddoriaeth.

“Iawn, roedd yn hwyl mynd i siopau recordiau flynyddoedd yn ôl, ond erbyn hyn gallwch gael popeth drwy bwyso botwm a gwrando ar gymaint o gerddoriaeth ag y dymunwch - boed yn orsaf radio yn Los Angeles neu gerddoriaeth o bob cwr o’r byd.

“Rwy’n credu fod hynny’n cael effaith fawr ar sut y mae bandiau ifanc yn swnio ac o’r hyn rwyf wedi ei weld o gwmpas Lerpwl yn arbennig, mae yna lawer o amrywiaeth a llawer yn digwydd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr y Digwyddiad Nicola Meadley: “Rydym wrth ein boddau i gael Ian Broudie a’r Lightning Seeds yn ein Gŵyl Awyr Agored Eryri gyntaf ac rwy’n siŵr y bydd y lleoliad a’r awyrgylch ar lan y llyn yn hollol hudol.

“Mae’n wych bod Ian wedi sôn am hynny a gyda Scouting for Girls, Toploader a Cast eisoes wedi eu cadarnhau a mwy o gyhoeddiadau i ddod yn fuan, dylai naws yr ŵyl fod yn rhyfeddol.

“Mae’r ffaith y bydd cymaint o bobl yn gwersylla ar lan y llyn yn ychwanegu at yr awyrgylch. Rydym yn edrych ymlaen at barti go iawn ym mis Awst. “

Yn ogystal â’r prif faes lle bydd y llwyfan yn cael ei gosod ar lan y llyn a nifer o weithgareddau ac arddangosiadau yn cael eu cynnal, bydd arlwyo ar gael hefyd ynghyd â mannau gwersylla a pharcio helaeth gan fod y trefnwyr yn disgwyl tua 5,000 o bobl i ymweld â’r ŵyl bob dydd.

Bydd y rhan fwyaf yn gwersylla am y penwythnos gyda rhaglen o gystadlaethau chwaraeon awyr agored, siaradwyr a sesiynau blasu a cherddoriaeth fyw o’r prynhawn tan 10.30yh bob nos.

Bydd rhywbeth at ddant pawb gyda rhestr o weithgareddau a digwyddiadau chwaraeon eisoes wedi ei llunio ac sy’n cynnwys ambell her go iawn fel llwybr rhedeg 30 cilomedr a nofio dŵr agored 1500 metr ar Lyn Tegid sy’n plymio i ddyfnder o 138 troedfedd.

Bydd yno hefyd her beicio mynydd a sportive eiconig tra bod y gweithgareddau awyr agored yn cael eu cynllunio i fod yn addas i deuluoedd ac yn cynnwys heicio, canŵio, byrddio padlo, cerdded ceunentydd, hwylio, hwylfyrddio, rafftio, nofio, dringo, cerdded a beicio mynydd gyda waliau dringo a bagiau aer a sgyrsiau byw yn y gwyllt a gweithgareddau ymarferol eraill hefyd ar gael.

I brynu tocyn a chael rhagor o wybodaeth, dylai darllenwyr fynd i www.snowdonia-outdoorfestival.co.uk

Llun: Ian Broudie o’r Lightning Seeds sydd i berfformio yng Ngŵyl Awyr Agored cyntaf Eryri ym mis Awst eleni.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5256/
2017-06-01T00:00:00+1:00Cwmni trelars yn helpu’r arwr roc Bono i hedfan fry dros Burma
Helpodd gwneuthurwr trelars gorau Ewrop y seren roc Bono i weld golygfeydd cofiadwy mewn balŵn aer dros lyn Burma, sydd yn ôl y sôn yn un o lefydd harddaf y byd.

Mae gan y cwmni a drefnodd y daith fythgofiadwy i’r canwr Gwyddelig a’i deulu gasgliad o drelars Ifor Williams a ddefnyddiwyd i gludo dwsin o’u balwnau a’u hoffer ar draws y wlad yn y Dwyrain Pell – sy’n cael ei hadnabod bellach fel Myanmar.

Yn ôl prif beilot Prydeinig y cwmni, Mark ‘Nobby’ Simmons, ni allent feddwl am ddim trelar gwell i wneud y gwaith.

Mae Mark wedi bod yn hedfan balwnau am y 30 mlynedd diwethaf, gan ddechrau yn syth o’r ysgol a dod yn beilot masnachol ifancaf y wlad pan oedd ond yn 21 oed.

Sefydlodd ei gwmni ei hun, Hot Skies Ltd (www.hotskies.co.uk), yng nghanol y 1990au. Mae’r cwmni yn trefnu teithiau balŵn i deithwyr ac yn hysbysebu ar draws de orllewin Lloegr o’i bencadlys ger Caerfaddon.

Yn 2007 ymunodd Mark, sy’n 48 oed, â chwmni o’r enw Balloons over Bagan, y mae eu pencadlys yn ardal Mandalay yn Burma, ac yn y pendraw daeth yn brif beilot y cwmni.

Ers dechrau gydag un balŵn yn 1999, mae Balloons over Bagan bellach yn cludo dros 20,000 o deithwyr y flwyddyn ar deithiau ar draws gwlad sy’n frith o demlau hynafol a llynnoedd syfrdanol.

Yn eu plith yr oedd Bono, ei wraig Alison a’u pedwar o blant a gafodd eu cludo mewn dau falŵn dros olygfeydd godidog Llyn Inle y gaeaf diwethaf.

Dywedodd Mark: “Roedd y chwech ohonynt ar wyliau yn y wlad am y tro cyntaf ac wedi penderfynu mynd ar daith falŵn dros y llyn, sydd yn ôl y sôn yn un o lefydd harddaf y byd, ac mae’n hollol wefreiddiol i’w weld o’r awyr.

“Hedfanodd Bono a’i wraig gyda mi, gyda’i bedwar o blant, Eve, Eliza, Jordan a John, yn dilyn y tu ôl i ni mewn balŵn arall a hedfanwyd gan gydweithiwr.

“Roeddent yn deulu hyfryd a’u traed ar y ddaear. Pleser oedd hedfan gyda nhw.

“Yn ystod fy 30 mlynedd fel peilot rwyf wedi cludo sêr enwog eraill, fel y Spice Girls a’r gantores Beverley Knight, a Brenhines Butan a Phrif Weinidog Gwlad Thai yn Burma.”

Dywedodd Mark mai trelars Ifor Williams yw’r unig drelars a ddefnyddir gan ei ddau gwmni yn Lloegr a’r cwmni y mae’n hedfan iddynt yn Burma.

“Nôl yn y DU mae fy nghwmni yn defnyddio trelar gwastad 18 troedfedd i symud ein balŵn sengl, ac yn Burma mae gennym saith trelar ar hyn o bryd, gyda phump arall wedi eu harchebu,” meddai.

“Maen nhw’n cael eu cludo yn arbennig i ni o Ganolfan Trelars Devizes, sef dosbarthydd Ifor Williams yn ardal Wiltshire.

“Rydym angen iddynt fod ychydig yn hirach na’r 18 troedfedd safonol, felly mae Canolfan Devizes yn ychwanegu darn ar y cefn i’w wneud yn 20 troedfedd.”

Ychwanegodd Mark: “Mae’r daith falŵn gyffredin i deithwyr yn dibynnu ar faint o danwydd y gellir ei gludo, ac mae’n parhau am oddeutu awr. Gallwn hedfan i uchder o hyd at 2,000 o droedfeddi, ond fel arfer rydym yn teithio ar uchder o ryw 300 troedfedd, gan hedfan yn union uwchben toeau’r temlau, er mwyn cael golygfa well.

“Mae 12 balŵn yn y casgliad sy’n medru cludo 16 o deithwyr, ac mae gan bob un dîm o weithwyr lleol i gynnal a chadw’r balŵn. Mae 10 i 12 o lanciau ifanc yn gyrru tractor yn tynnu trelars Ifor Williams ac yn ein dilyn i ble bynnag rydym yn glanio, er mwyn dod i’n nôl ac i bacio’r balŵn.

“Mae’n rhaid i’r trelars allu cludo oddeutu tunnell a hanner o offer gan gynnwys y balŵn, a’r hyn rydym yn ei alw yn ‘amlen’, sef y fasged sy’n mynd o dan y balŵn yn ogystal â’r llosgwr a’r ffan.

“Maen nhw’n teithio ar diroedd eithaf garw felly mae’n rhaid iddynt fod yn wydn ac yn gryf.

“Rydym yn defnyddio trelars Ifor Williams gan mai nhw yw’r trelars mwyaf amlbwrpas a hawsaf i’w tynnu o bell ffordd, ond hefyd gan mai nhw yw safon y diwydiant ar gyfer cwmnïoedd balwnau yn y DU, ac yn sicr yn Burma lle nad oes yn unman yn cynhyrchu trelars.

“Mae’n sicr yn werth trefnu iddyn nhw gael eu hanfon draw o Ganolfan Trelars Devizes.”

Dywedodd Philippa Gunthorp, pennaeth gweinyddu Canolfan Trelars Devizes: “Mae cydweithio gyda Balloons over Bagan wedi bod yn gyfle gwych i gael trelars Ifor Williams i rywle newydd a gwahanol.

“Mae’n annhebygol y byddai neb yn disgwyl eu gweld yn cael eu defnyddio mewn gwlad mor bell i ffwrdd â Burma, ond mae wedi bod yn wych cyflenwi’r cwmni gyda chymaint o drelars gwastad 18 troedfedd dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae ganddyn nhw saith trelar draw yno eisoes, a byddwn yn eu cyflenwi â phump arall yr haf hwn.

“Mewn gwirionedd mae’n broses eithaf astrus i’w cludo draw i Burma oherwydd maint a chymhlethdod y gwaith papur, ond yn sicr mae wedi bod werth yr ymdrech.

“Rydym yn addasu pob un o’r trelars drwy ychwanegu dwy droedfedd ychwanegol at yr hyd gwreiddiol er mwyn cyrraedd anghenion penodol Balloons over Bagan.”

Dywedodd Andrew Reece-Jones, Rheolwr Dylunio Peirianneg Ifor Williams Trailers: “Rwy’n dal i gael fy synnu gyda’r amrywiaeth o ddefnydd sydd gan bobl i’n trelars, a does dim llawer o lefydd ar y blaned lle na welwch chi un.

“Rwy’n credu eu bod mor amlbwrpas oherwydd nodweddion cadarn ein trelars, ac oherwydd eu cryfder parhaus maent yn addas i’r tiroedd mwyaf anhygyrch, yn ogystal â phriffyrdd a chulffyrdd y byd datblygedig.”

I wybod mwy ewch i: http://www.hotskies.co.uk

LLUNIAU

Yr arwr roc Bono yn dathlu llwyddiant ei daith i weld golygfeydd yn Burma gyda Mark Simmons, prif beilot Balloons over Bagan.

Mae Burma yn llawn temlau hynafol y gellir eu gweld o’r awyr ar deithiau awyr syfrdanol Balloons over Bagan.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5257/
2017-06-01T00:00:00+1:00Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ethol Arweinydd
Mae Gareth Jones (Plaid Cymru) wedi ei ethol fel arweinydd Cyngor Conwy.

Mewn cyflwyniad i’r Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Jones: “O dan fy arweinyddiaeth byddai’r Cabinet yn wirioneddol ddemocrataidd a chynhwysol.

“Gofynnaf i chi fod â ffydd yn fy uniondeb ac yn f’ymdrech wirioneddol i fod yn arweinydd cyfrifol ac ymrwymedig a fyddai'n fwy na pharod i fod yn atebol nid i un neu ddau o grwpiau yn unig, ond i bob un ohonoch chi, gynghorwyr, yn eich ymdrechion, a dyna lle mae’n cyfrif, o fewn eich wardiau i wasanaethu eich etholwyr a’r siambr hon ac i wasanaethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

“Rhannwch y weledigaeth o newid gyda mi. Os ydym am wynebu’r heriau sydd o’n blaenau dros y pum mlynedd nesaf, mae arnom angen eich sgiliau i gyd – nid sgiliau rhai ohonoch yn unig.

“Gyda’ch cefnogaeth gallaf newid pethau er gwell.”

Mae’r Cynghorydd Jones yn briod â Myra ac yn dad i Eleri, Dylan, Gwenno a’r diweddar Ffion.

Symudodd i’r ardal o Gricieth yn 1976 ar ôl cael ei benodi yn bennaeth Ysgol John Bright yn Llandudno.

Mae wedi cynrychioli Craig-y-Don ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ers 1996 ac yn y cyfnod hwnnw wedi gwasanaethu mewn amrywiol rolau gan gynnwys Dirprwy Arweinydd, Aelod Cabinet a Chefnogwr Pobl Hŷn.

Mae wedi treulio dau gyfnod fel Aelod Cynulliad hefyd – rhwng 1999 a 2003, yn cynrychioli cyn etholaeth Conwy, a rhwng 2007 a 2011, yn cynrychioli Aberconwy.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5258/
2017-06-01T00:00:00+1:00Mared o Forfa Nefyn yn Ennill y Fedal Ddrama
Mared Llywelyn Williams, sydd yn 24 oed ac yn wreiddiol o Forfa Nefyn, yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái yn 2017.

Mae gwaith buddugol Mared ‘Lôn Terfyn’ o dan y ffug enw ‘Dwnad’, yn mynd i’r afael â byd sy’n llawn tensiynau bregus gwleidyddol.

Mae Mared ar hyn o bryd yn gweithio i Wasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd yn Nefyn.

Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Theatr, cyn mynd ymlaen i wneud M.A Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.

Yn ystod ei blwyddyn M.A dechreuodd ysgrifennu o ddifri. Y theatr yw ei phrif ddiddordeb, ac yn gynharach yn y flwyddyn ffurfiodd Cwmni Tebot gyda’i ffrindiau, cwmni theatr amatur lleol.

Mae wedi bod yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a’r Urdd ers blynyddoedd gydag Ysgol Botwnnog, Aelwyd Chwilog ac Aelwyd Pantycelyn.

Dywedodd: “Mae yna nifer fawr o bobl sydd wedi fy ysbrydoli a’m herio dros y blynyddoedd; megis Nia Plas yn Ysgol Morfa, Delyth Roberts a Mair Gruffydd yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Roger Owen o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth, Mihangel Morgan, Huw Meirion Edwards a phawb oll yn Adran y Gymraeg ond diolch yn arbennig i Esyllt Maelor.”

Roedd y beirniad, Alun Saunders a Sian Summers, yn gweld y ddrama hon “nid yn unig yn ymateb yn gyffrous i’r briff a osodwyd, ond mae iddi’r holl elfennau sy’n creu drama lwyfan afaelgar.”

Aethant ymlaen i ddweud: “Mae’r iaith - fel mynegiant o agweddau’r cymeriadau - yn eofn ac hyderus wrth fynd i’r afael â byd yn llawn tensiynau bregus gwleidyddol.

"O’r cychwyn cyntaf cawn ein cyflwyno i fyd a pherthynas gyfareddol y cymeriadau - mae’r ddawn gan y Dramodydd i blannu gwirioneddau’r cymeriadau hyn yn yr is-destun gan ymddiried yn y darllenydd neu’r gynulleidfa i archwilio a darganfod eu dehongliad.

“Yn ein barn ni, mae safon ac uchelgais y ddrama hon yn llawn haeddiannol o’r Fedal Ddrama."

Chwaer fach Mared, Lois Llywelyn Williams, enillodd y Fedal Ddrama yn 2016 gyda Mared yn drydydd yr adeg hynny.

Eleni, yn ail yn y gystadleuaeth roedd Arddun Arwel o Aelwyd JMJ ac yn drydydd roedd Sara Hughes o Gylch Alaw Cybi. Rhoddir y fedal eleni gan Mari George.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5259/
2017-06-01T00:00:00+1:00Pêl swyddogol Euro 2016 i’w gweld fel rhan o arddangosfa bêl-droed newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae un o beli ‘Beau Jeu’ swyddogol adidas, a ddefnyddiwyd yn ystod buddugoliaeth enwog Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn rownd gogynderfynol Euro 2016, yn un o’r prif wrthrychau sydd i’w gweld mewn arddangosfa newydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am hanes clybiau pêl-droed Cymru yn Ewrop.

Mae nifer o bêl-droedwyr Cymreig wedi gwneud eu marc ym mhêl-droed clybiau Ewrop ac mae’r arddangosfa newydd hon, sy’n cyd-fynd â rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd, yn dathlu eu cyfraniad.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys pum chwaraewr sydd wedi ennill y gystadleuaeth enwog – Jayne Ludlow, Joey Jones, Ian Rush, Ryan Giggs a Gareth Bale – ac ymysg yr eitemau mae crysau a wisgwyd gan Jones a Giggs, crys wedi’i lofnodi gan Bale, rhaglenni, penynnau a chapiau.

Caiff rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA ei chynnal yng Nghaerdydd hefyd, ac mae’r arddangosfa’n edrych ar hanes a datblygiad gêm y merched yma yng Nghymru.

Jayne Ludlow yw Rheolwr Tîm Merched Cenedlaethol Cymru a hi oedd capten y tîm Arsenal - y clwb cyntaf y tu allan Almaen a Llychlyn i gystadlu, ac ennill rownd terfynol UWCL yn 2007.

Hi hefyd yw llysgennad swyddogol ar gyfer rownd terfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA Merched 2017.

Dywedodd: "Mae'r twf mewn pêl-droed menywod yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf wedi bod yn anhygoel ac wrth gwrs mae eleni yn flwyddyn fawr i ni.

“Mae rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ddigwyddiad enfawr i ni i gynnal yng Nghaerdydd, yn arddangos chwaraewyr o’r lefel uchaf ar stepen drws. I bobl ifanc, mae hwn yn gyfle i weld y chwaraewyr gorau ar y blaned, a fydd gobeithio yn eu hysbrydoli yn y dyfodol. "

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Dyma arddangosfa hanfodol i ymwelwyr sydd am wybod mwy am rôl Cymru ym mhêl-droed clybiau Ewrop.

“Ac wrth gwrs, rydym ni’n hapus iawn ein bod wedi caffael un o beli swyddogol adidas Euro 2016 ar gyfer y casgliad cenedlaethol. Fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ein rôl ni yw casglu gwrthrychau ac atgofion sy’n coffáu adegau arwyddocaol yn ein hanes fel cenedl.”

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Fel gwlad fach, rydym yn hynod o lwcus i fod wedi cynhyrchu rhai o bêl-droedwyr gorau’r byd, ac mae’n wych i weld yr arddangosfa hon sy’n dathlu llwyddiant rhai ohonynt.

“Cawsom ein difetha llynedd gan berfformiad arwrol ein tîm cenedlaethol yn Ffrainc, ac unwaith eto bydd sylw Cymru gyfan ar y bêl gron, wrth i rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA gyrraedd Caerdydd yr wythnos hon.

"Mae’r atgofion hyn yn werth eu trysori a byddwn yn annog i unrhyw gefnogwr pêl-droed fynd draw i gael golwg.”

Ar ddydd Sul 4 Mehefin, bydd cyfle i ymwelwyr fwynhau sgiliau anhygoel pêl-droedwyr dull rhydd yn y brif neuadd, yn ogystal â rhoi cynnig ar grefftau a chreu set bêl-droed bwrdd.

Mae’r arddangosfa i’w gweld ym mhrif neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 18 Mehefin 2017 ac mae mynediad am ddim.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5260/
2017-06-01T00:00:00+1:00Casia Wiliam yw Bardd Plant Cymru 2017-2019
Cyhoeddwyd yn Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái mai Casia Wiliam yw Bardd Plant Cymru 2017-2019.

Daeth y cyhoeddiad o lwyfan y Brifwyl gan Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Casia fydd y 15fed Bardd Plant, a bydd yn dechrau ar y gwaith yn swyddogol ym mis Medi eleni, gan gymryd yr awenau gan Anni Llŷn a ddechreuodd y rôl yn 2015.

Mae cynllun Bardd Plant Cymru yn sicrhau fod plant ym mhob cwr o Gymru yn cael y cyfle i arbrofi â geiriau.

Drwy weithdai, perfformiadau a gweithgareddau mae’r cynllun yn cyflwyno llenyddiaeth i blant mewn modd bywiog, deinamig a chyffrous.

Mae Casia yn 29 oed a daw’n wreiddiol o Nefyn ym Mhen Llŷn, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Mae wedi cyhoeddi dau lyfr i blant, wedi addasu dwy o nofelau Michael Morpurgo i’r Gymraeg ac mae’n aelod o dîm Y Ffoaduriaid ar gyfres radio Talwrn y Beirdd.

Meddai Casia: “Dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy at gael crwydro ledled Cymru yn cyfarfod yr holl blant, y rhai sy’n cael modd i fyw wrth sgwennu a’r sgwennwyr anfoddog!

“Mi fydd yn bleser pur clywed eu syniadau, tanio eu dychymyg, ac annog pawb i roi cynnig ar sgwennu cerdd.

“Yn ystod fy nghyfnod fel Bardd Plant Cymru dwi'n gobeithio dangos i blant bod pawb yn gallu sgwennu cerdd, bod barddoniaeth yn rhywbeth sy'n byw yn y glust nid dim ond ar bapur, a bod darllen a sgwennu barddoniaeth yn ffyrdd gwych o weld a phrofi bywyd trwy lygaid rhywun, neu rywbeth arall.”

Gyda chyfnod Anni Llŷn yn dod i ben, mae’n hyderus bod y cynllun yn cael ei drosglwyddo i olynydd cymwys.

Dywedodd Anni am Casia: “Mae hi’n fardd ac awdur gwych. Mae ganddi ddychymyg arbennig ac mae hi’n saff o fynd â Phlant Cymru ar antur.”

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Anni wedi torri tir newydd gan ymweld â phob sir yng Nghymru, 83 ysgol, 10 castell a chyd-weithio ag 20 o bartneriaid allanol mewn gweithdai a gweithgareddau amrywiol gan ddiddanu, ysbrydoli ac ymgysylltu â dros 6,000 o blant.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys gweithdai, taith Siarter Iaith, sioe Cbeebies, perfformiadau yn ystod Gŵyl Llên Plant Caerdydd, dathliadau Roald Dahl 100 Cymru, creu a pherfformio sioe yng Ngŵyl Hanes Cymru i Blant, dathliadau pen-blwydd Y Senedd a phrosiect Neges Ewyllys Da yr Urdd i enwi dim ond rhai.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru am y cyhoeddiad: “Rydym wrth ein boddau fod Casia yn cymryd yr awenau, a hoffem ddiolch i Anni am ei holl waith a’i brwdfrydedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Mae pob Bardd Plant Cymru wedi perchnogi a datblygu’r cynllun ac rydym yn edrych ymlaen at weld i ba gyfeiriad y bydd Casia yn ei arwain.

"Mae hi’n lenor talentog dros ben, ac rydym fel partneriaid yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y cynllun yn torri tir newydd a chyffrous. Mynnwch weithdy ac ymweliad ganddi!”

Bydd Anni a Casia yn cynnal rhai digwyddiadau ar y cyd rhwng nawr a diwedd yr Haf, gan gynnwys Talwrn y Beirdd Bach yn ffair Tafwyl 2017 ar 1 Gorffennaf, cyn i Casia ddechrau ar y gwaith yn unigol o fis Medi ymlaen.

Mae Llenyddiaeth Cymru, sy’n gweinyddu’r cynllun, yn annog unrhyw ysgol, sefydliad, llyfrgell neu glwb ieuenctid sy’n dymuno gwneud cais am ymweliad gan Bardd Plant Cymru gysylltu drwy ebostio: barddplant@llenyddiaethcymru.org neu ffonio 029 2047 2266 – y dyddiad cau i wneud cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2017/2018 yw 1 Rhagfyr 2017.

Cynllun ar y cyd yw Bardd Plant Cymru rhwng Llenyddiaeth Cymru, Yr Urdd, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5263/
2017-06-01T00:00:00+1:00Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA yn ysbrydoli menywod a merched
Cyn i Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA gael ei chynnal heno, mae Gweinidogion wedi dweud bod ganddi'r gallu i ysbrydoli menywod a merched o Gymru ac o bedwar ban byd i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Bydd deiliaid y cwpan, Lyon, yn wynebu Paris Saint-Germain yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 19:45.

Mae'r gêm yn cael ei chynnal yn yr un ddinas â gêm derfynol y dynion, sy'n golygu bod Caerdydd wedi'i gweddnewid yn ganolfan sy’n rhoi cryn fri ar chwaraeon.

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans, yn ymuno â'r llu o gefnogwyr y disgwylir iddynt fynd i'r gêm.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Mae Caerdydd a Chymru gyfan yn llawn cyffro wrth inni ddechrau ar ddathliadau Cynghrair Pencampwyr UEFA.

"Mae cefnogwyr o bedwar ban byd i'w gweld yn y ddinas yn barod, ac mae Sbaeneg, Eidaleg a Ffrangeg i'w clywed ar y strydoedd.

"Heddiw, bydd Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA yn hoelio sylw'r byd ar bêl-droed menywod.

"Mae gan y digwyddiad gwych hwn y gallu i ysbrydoli menywod a merched o Gymru ac o bedwar ban byd i gymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig pêl-droed.”

Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans, sy'n gyfrifol am chwaraeon ar lawr gwlad: "Mae rhyw 40,000 o fenywod a merched ledled Cymru yn chwarae pêl-droed yn rheolaidd.

"Mae denu rhagor o fenywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon yn parhau'n un o'n prif flaenoriaethau, ac mae Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru am gynyddu'r niferoedd sy'n chwarae pêl-droed i 100,000 erbyn 2024.

"Mae Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA yn gyfle gwych i hoelio sylw ar bêl-droed menywod a bydd yn ein helpu i wireddu'r uchelgais honno."

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething, hefyd yn rhoi cymeradwyaeth i'r 1,500 o fenywod a merched o bob cwr o Gymru a fydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Pêl-droed Genedlaethol Cymdeithas Pêl-droed Cymru i Fenywod a Merched.

Bydd yn cael ei chynnal ym Meysydd Chwarae Prifysgol Caerdydd yn Llanrhymni ac mae'n rhan o Raglen Cymdeithas Pêl-droed Cymru i Ymgysylltu â'r Gymuned.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal bob blwyddyn a bydd timau o bob cwr o Gymru yn cystadlu o dan 8, 10, 12, 14, 16 ac mewn grwpiau oedran hŷn.

Bydd pawb a fydd yn cymryd rhan ynddo eleni yn cael dau docyn rhad ac am ddim i wylio Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA.

Llun: Stadiwm Dinas Caerdydd

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5264/
2017-06-01T00:00:00+1:00Dau ddigywddiad yn Aber yn cyd-weithio
MAE dau o brif ddigwyddiadau blynyddol Aberystwyth am ddod at ei gilydd i gynnig cystadleuaeth i blant a myfyrwyr ysgol leol.

Bydd FfotoAber, yr ŵyl flynyddol ffotograffiaeth a GŵylSeicloAber yn cyd-weithio, ynghyd â Chlwb Rotari Aberystwyth a Chwmni Theatr Arad Goch i dynnu sylw at y gweithgareddau cyffrous y gellir eu gweld yn Aberystwyth dros y misoedd nesaf.

Dros y saith mlynedd diwethaf mae cystadleuaeth ysgolion FfotoAber ar gyfer disgyblion yn ardal Aberystwyth wedi bod yn hynod boblogaidd, ond eleni maent yn gofyn i ffotograffwyr brwd i gofnodi cyffro digwyddiad beicio unigryw’r dref.

Eglurodd Deian Creunant o FfotoAber y datblygiad newydd: “Mae ein cystadleuaeth ysgolion a cholegau wedi bod yn boblogaidd iawn ac, mewn partneriaeth â Chlwb Rotari Aberystwyth a Chwmni Theatr Arad Goch, wedi bod yn datblygu’n gyson dros y blynyddoedd.

“Mae’n gam naturiol i ni gydweithio â phrif ddigwyddiad arall er mwyn tynnu sylw at y gweithgareddau parhaus all Aber ei gynnig.”

Gofynnir i gystadleuwyr gyflwyno hyd at dri llun sy’n crynhoi holl gyffro’r gwahanol weithgareddau a gynhelir yn ystod wythnos yr ŵyl seiclo.

Shelley Childs yw un o brif gydlynwyr GŵylSeicloAber: “Fel FfotoAber nod GŵylSeicloAber yw hyrwyddo Aberystwyth fel cyrchfan ddeniadol a thynnu sylw at yr hyn all y dref gynnig yn ogystal ag adeiladu ar y diddordeb cynyddol mewn beicio.

“Mae ein digwyddiadau wedi datblygu yn gyson dros y blynyddoedd ac mae’r bartneriaeth newydd hyn yn ddilyniant naturiol ac edrychwn ymlaen at weld y canlyniadau.”

Jeremy Turner yw cyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Arad Goch sy’n cynnal eu digwyddiad mawr eu hunain yn yr haf: “Mae gweithio gyda FfotoAber yn ein galluogi i arddangos rhai o weithiau rhagorol y myfyrwyr lleol yn ein hardal arddangos broffesiynol.

“Mae ganddom ninnau ein Gŵyl Hen Linell Bell ym mis Gorffennaf, un o’n prosiectau mwyaf uchelgeisiol erioed a bydd yn hybu Aberystwyth ymhellach fel canolfan gweithgareddau diwylliannol.”

Cred Geraint Thomas o Glwb Rotari Aberystwyth fod hyn yn cynnig her newydd i’r cystadleuwyr.

Meddai: “Mae diddordeb mawr wedi bod yn y gystadleuaeth ysgolion a cholegau o’r cychwyn cyntaf ac mae wedi datblygu yn gyson.

“Mae gweithio gyda GŵylSeicloAber yn cynnig dimensiwn arall i’r gystadleuaeth ac rwy’n edrych ymlaen at weld y lluniau a sut mae cyffro’r digwyddiadau yn cael ei arddangos.”

Yn ogystal â’r gystadleuaeth ysgolion bydd y ffotomarathon yn dychwelyd eto gyda’r her ffotograffig chwe awr yn digwydd ar 28 Hydref.

I ddysgu mwy am yr ŵyl ewch i http://www.ffotoaber.cymru Gallwch hefyd ei dilyn ar Twitter (@FfotoAber) a Facebook.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5250/
2017-05-15T00:00:00+1:00Cyfle i glywed gig Jarman am ddim!
MAE uchafbwyntiau Gŵyl Cefni wedi cael eu gyhoeddi ac mae’r ymateb eisoes wedi bod yn frwd.

Eicon o’r sîn Gymraeg, Geraint Jarman, fydd uchafbwynt y Gig Mawr ger y Bull yn Llangefni, gyda llu o fandiau poblogaidd i’w gefnogi ar brynhawn a nos Sadwrn, 10 Mehefin.

Y newyddion da yw fod Pwyllgor Gŵyl Cefni, gyda nawdd y Cyngor Celfyddydau a’r Loteri Genedlaethol, am fod yn medru cynnig mynediad am ddim i’r Gig Fawr.

Dywedodd Nia Thomas, swyddog ieuenctid Menter Iaith Môn sydd ar Bwyllgor Gŵyl Cefni: “Dwi wedi cyffroi’n arw fod Geraint Jarman wedi cytuno i ddod draw i Ŵyl Cefni.

“Fe glywais i o yn Eisteddfod Meifod ac mi oedd o’n briliant!

“Dwi’n hoffi’r ffync yn ei gerddoriaeth ac mae’n un o’r cerddorion yna sy’n llwyddo creu awyrgylch gwych i gynulleidfa o bob oed!”

“Mae am fod yn ŵyl ffantastig gyda chymaint o amrywiaeth a rhywbeth at ddant pawb: noson gwis yn y Railway ar nos Fercher (7 Mehefin); gweithdy celf i blant yn Oriel Môn ar brynhawn Iau; gig y rhyfeddol Alys Williams a’r band gyda Gwilym yn cefnogi ar y nos Wener yn Theatr Fach; bore Sadwrn o hwyl a sioe i’r teulu yng Nghapel Ebeneser gyda chymeriadau S4C; ac yna’r Gig Fawr gyda mwy na 10 o fandiau rhwng 12 a 8pm ar y dydd Sadwrn, heb anghofio y bydd Menter Gymdeithasol Llangefni yn trefnu gweithgareddau i deuluoedd a bwyd ar safle’r farchnad hefyd.”

Un sy’n brofiadol yn mentora bandiau ifanc drwy’r prosiect Bocsŵn yw Huw Owen, aka y cerddor ‘Mr Huw’, a ddywedodd: “Tra bod gan Geraint Jarman wreiddiau teuluol ym Môn, mae ei wreiddiau cerddorol yn fyd-eang gan gynnwys profiadau reggae cynnar yn Jamaica.

“Tacsi i’r Tywyllwch, Ethiopia Newydd, Atgof fel Angor, mae’r boi yn athrylith… ac am fod yn denu cynulleidfa o bob cefndir i fod yn gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg yn Llangefni.

“A chyda phrofiad o hanner canrif o angerdd dros gerddoriaeth Cymraeg fodern, pwy gwell i ysbrydoli rhai o’r bandiau ifanc o Fôn fydd yn perfformio, fel Carma gyda’u sain cyffrous, ac (An)naearol gyda’u caneuon bachog, gan roi hwb i fandiau newydd wrth ehangu eu gorwelion daearyddol a cherddorol.”

Ychwanegodd Nia Thomas: “Diolch i waith diflino’r pwyllgor ers 17 mlynedd, mae Gŵyl Cefni yn ddyddiad sefydlog yng nghalendr yr ynys ac mae bob amser yn braf cael denu cynulleidfaoedd newydd a chroesawu pobl o bell ac agos.

“Mae cymaint am fod yn digwydd eleni ac mi fyddwn yn rhyddhau mwy o fanylion wrth fynd yn ein blaenau ond yn y cyfamser rwyf am bwyso ar bawb i’n dilyn ar facebook Gŵyl Cefni neu ar trydar @moniaith.”

“Er y bydd y Gig Mawr yn rhad ac am ddim, mae’n bwysig archebu rhai o’r digwyddiadau eraill rhagflaen, gan y bydd tocynnau a llefydd yn mynd yn sydyn.”

Medrwch ffonio Menter Iaith Môn ar 01248 725700 i archebu tocyn i gig Alys Williams a’r band/Gwilym, yn Theatr Fach gyda bar 9/6/17 (am £7 /£5 dan 18), neu ar gyfer gweithdy celf Oriel Môn 4-6pm 8/6/17 i wneud addurniadau ar gyfer yr orymdaith 10/6/2017 (gweithdy am ddim ond nifer cyfyngedig i 25 plentyn).

Yn ogystal, er bod y Bore o Hwyl i’r Teulu am ddim, mae mynediad drwy ddangos ‘tocyn’ sydd ar ffurf band garddwrn sydd ar gael rhagflaen o siop Cwpwrdd Cornel Llangefni (01248 750218).

Gan gofio mai cymeriadau poblogaidd S4C i blant fydd yn ymddangos, mi fydd y tocynnau i’r gweithgaredd yma yn mynd yn sydyn hefyd.

Trefnir yr Ŵyl flynyddol gan Bwyllgor Gŵyl Cefni a derbynnir cefnogaeth mewn da neu nawdd gan Menter Iaith Môn, Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Loteri Genedlaethol, Oriel Môn, Cyngor Sir Ynys Môn, The Sign Factory, a Menter Gymdeithasol Llangefni.

Llun: Geraint Jarman (Iolo Penri)

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5251/
2017-05-15T00:00:00+1:00Ffarwelio â chyfarwyddwr cerdd Eisteddfod Llangollen
AR ôl chwe blynedd yn swydd cyfarwyddwr cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, fe fydd Eilir Owen Griffiths yn ymddiswyddo o’i rôl yn dilyn dathliadau 70ain yr Eisteddfod eleni.

Bydd cyfarwyddwr cerdd ieuengaf erioed yr Eisteddfod yn gadael ar ôl yr ŵyl ym mis Gorffennaf, gan roi cyfle iddo ganolbwyntio ar ddatblygiadau newydd o fewn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, prosiectau cyfansoddi a threulio amser gyda’i deulu ifanc.

Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, fe wnaeth Eilir gyflwyno cystadlaethau Côr Plant y Byd, Llais y Dyfodol a Llais Sioe Gerdd i raglen yr Eisteddfod, yn ogystal â datblygu’r prosiectau Allanol a Chynhwysiant – wnaeth ennill Gwobr Gymunedol Scottish Power yn ddiweddar.

Mae ei ddawn arbennig i greu rhaglenni uchelgeisiol hefyd wedi arwain at lwyfannu cyngherddau enfawr gan gynnwys Sweeny Todd gyda chast o 150 a Carmen y llynedd.

Buodd yn allweddol wrth ddenu cynulleidfaoedd cenedlaethol o du hwnt i’r ffîn a hefyd wrth sicrhau perfformiadau gan artistiaid rhyngwladol fel Status Quo, UB40, Burt Bacharach, Jools Holland, Caro Emerald a Rufus Wainwright.

Yn bluen arall yn ei het, fe lwyddodd i gael artistiaid fel Syr Bryn Terfel, Joseph Calleja, Catrin Finch, Noah Stewart, Alison Balsom, Nicola Benedetti a Karl Jenkins i ddychwelyd i’r Eisteddfod dro ar ôl tro.

Cyn derbyn y swydd yn 2011, fe wnaeth Eilir fynychu’r Eisteddfod fel cystadleuwr a pherfformio ar lwyfan enwog y Pafiliwn Brenhinol Cenedlaethol yn 1998 gydag Ysgol Glan Clwyd ac eto gyda’i gôr CF1 yn 2010.

Dywedodd Eilir: “Mae’n anodd i mi grynhoi chwe blynedd mor ardderchog.

“Rwy’n falch fy mod yn gorffen fy amser gydag Eisteddfod Llangollen hefo gymaint o atgofion braf ac mae’n fraint i fod yn camu i lawr ar ôl y dathliadau 70ain.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld gwaith caled y tîm yn cyrraedd uchafbwynt yn y dathliadau bendigedig.

“Rwy’n lwcus bod fy amser fel cyfarwyddwr cerdd wedi caniatáu i mi weithio ar brosiectau rwy’n teimlo’n angerddol iawn amdanyn nhw.

“O’r dechrau, roeddwn yn awyddus i greu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc o fewn yr ŵyl – a dyma oedd tarddiad cystadlaethau Côr Plant y Byd, Llais y Dyfodol a chystadlaethau Cerddorion Ifanc.

“Rwy’n gobeithio bydd hyn yn rhan o’m gwaddol.

“Mae swydd y cyfarwyddwr cerdd yn un heriol iawn ac yn un na fyddwn i wedi medru ei gwneud heb gefnogaeth y staff, partneriaid, noddwyr ac wrth gwrs y gwirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi gweithio wrth fy ochr am y chwe blynedd ddiwethaf.”

Wrth drafod ei hoff atgofion o’i amser gyda’r Eisteddfod, ychwanegodd Eilir: “Mae ‘na bron gormod o adegau i grybwyll lle roeddwn i eisiau pinsio fy hun!

“Un ohonyn nhw oedd gweld cynhyrchiad Sweeny Todd hefo Syr Bryn Terfel yn 2014 ac un arall oedd pan wnaeth y tenor Noah Stewart berfformiad fy nhrefniant i o Calon Lân yn Gymraeg.

“I goroni’r cyfan, lle arall ond Llangollen fedrwch chi eistedd a chael diod gyda Burt Bacharach, Paul Mealor a Terry Waite?

“Rwy’n teimlo’n falch iawn wrth edrych yn ôl ar y chwe mlynedd dw i wedi eu cael fel cyfarwyddwr cerdd Llangollen.

“Mae gen i nifer o atgofion melys ac rwy’n gobeithio y bydda i’n dychwelyd yn y blynyddoedd nesa’ fel un ai aelod o’r gynulleidfa neu hyd yn oed i gystadlu!

“Ond cyn i mi roi’r ffidil yn y tô, mae dathliadau eleni i’w mwynhau.

“Mae cymaint o uchafbwyntiau yn rhaglen yr ŵyl ac rwyf i yn bersonol yn edrych ymlaen at fwynhau Gregory Porter nos Wener, 7 Gorffennaf.”

Ychwanegodd cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Dr Rhys Davies:

“Mae brwdfrydedd Eilir yn heintus ac mae wedi bod yn bleser gweithio gydag o am y chwe blynedd ddiwethaf, yn creu digwyddiadau unigryw a chofiadwy bob blwyddyn.

“Mae cyfraniad Eilir i raglen yr Eisteddfod, o ran yr artistiaid y cafodd i berfformio a hefyd yr elfen gystadleuol a chymunedol a ddatblygodd, yn waddol deilwng iawn.

“Yn ystod ei amser gyda ni, mae wedi glynu i egwyddorion craidd yr Eisteddfod Ryngwladol – gan uno pobl trwy heddwch, cyfeillgarwch, cerddoriaeth a dawns.

“Fe fydd ei Eisteddfod olaf yn dilyn yr union yr un trywydd a’r rhai blaenorol ac yn cynnig perfformiadau amrywiol a chyfoes yn llawn enwogion.

“Nid yw perswadio’r Manic Street Preachers, Huw Stephens, Kristine Opolais, Gregory Porter, Syr Bryn Terfel, Christopher Tin a Reverend and The Makers i ddod i’r Eisteddfod wedi bod yn hawdd.

“Allwn ni wir ddim aros i weld diweddglo mawr Eilir yn dod at ei gilydd.”

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cychwyn y broses o recriwtio cyfarwyddwr cerdd newydd, i gychwyn yr haf hwn. Os hoffech wneud cais am y swydd, cysylltwch â’r prif swyddog gweithredu Sian Eagar yn swyddfa Eisteddfod Llangollen ar 01978 862 000.

I brynu ticedi ar gyfer dathliadau 70ain Eisteddfod Llangollen, gan gynnwys gŵyl Llanffest, ewch i: http://www.Llangollen.net

Llun: Eilir Owen Griffiths

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5252/
2017-05-15T00:00:00+1:00Pobl ifanc yn galw i’w llais gael ei glywed yn Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2017
Bydd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd, sydd yn cael ei chyhoeddi ar 18 Mai, yn galw eleni am gydraddoldeb i bobl ifanc ac i lais pobl ifanc gael ei glywed.

Eleni am y tro cyntaf, mae’r neges wedi ei llunio gan Fwrdd Syr IfanC, sef fforwm genedlaethol Urdd Gobaith Cymru ar gyfer eu haelodau 16 – 24 oed.

Yn y neges, maent yn galw am gydraddoldeb o ran hawliau i bobl ifanc ar draws y byd, ac yn galw am i’w lleisiau gael eu clywed, ‘gan ofyn i eraill siarad gyda ni, cyn siarad ar ein rhan ni’. Maent hefyd yn galw am yr hawl i bobl ifanc dros 16 oed gael bwrw eu pleidlais.

Ar ffurf fideo fydd y neges eleni, yn hytrach na pherfformiad llafar, er mwyn hwyluso’r gwaith o’i lledaenu dros gyfryngau cymdeithasol. Bydd yn cael ei chyfieithu i 17 iaith, gan gynnwys Rwsieg, Macedonian, Swahili ac Arabeg.

Bydd y fideo yn cael ei ddangos am y tro cyntaf mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd, dan nawdd Llywydd y Cynulliad Elin Jones, dydd Mercher 17 Mai am 12:30pm ac yna ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd dydd Mercher, 31 Mai am 2:35pm.

Mae’r Urdd hefyd yn annog pobl ifanc ar draws y byd i ymateb i’r neges eleni, gyda’r ymatebion yn cael eu cynnwys ar wefan yr Urdd.

Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da, a anfonwyd am y tro cyntaf ym 1922 gan y Parchedig Gwilym Davies o Gwm Rhymni, yn draddodiad blynyddol sy’n ysgogi ac yn ysbrydoli gweithgarwch dyngarol.

Meddai Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn un o draddodiadau pwysica’r Urdd, sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru estyn dwylo i bobl ifanc ym mhedwar ban byd.

“Mae’r neges yn un amserol iawn eleni, gyda Chomisiwn y Cynulliad newydd lansio ymgynghoriad ar greu Senedd Ieuenctid i Gymru a’r etholiadau yn prysur agosáu.

“Mae’n dangos pa mor gryf mae ein haelodau yn teimlo o ran y cyfraniad sydd ganddynt i’w gynnig.”

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5253/
2017-05-15T00:00:00+1:00Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd S4C
Mae S4C wedi cyhoeddi fod Owen Evans wedi ei benodi yn Brif Weithredwr S4C i olynu Ian Jones.

Mae Owen Evans yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, gyda chyfrifoldeb am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Yn ei swydd bresennol mae’n gyfrifol am gyllideb o £6.6 biliwn ac am arwain 1,200 o staff.

Ymunodd â’r gwasanaeth sifil yn 2010 fel Cyfarwyddwr Addysg Uwch, Sgiliau a Dysgu Gydol Oes i’r Llywodraeth gan dderbyn cyfrifoldebau ychwanegol yn 2012 ac eto yn 2015.

Rhwng 2008 a 2010 roedd yn Gyfarwyddwr elusen Busnes yn y Gymuned yng Nghymru lle tyfodd yr aelodaeth, yn ystod ei gyfnod yno, i gynrychioli dros 20% o’r gweithlu yng Nghymru.

Am 10 mlynedd cyn hynny, bu’n gweithio i BT gan gynnwys cyfnod fel aelod o dîm Prydeinig BT ar ddatblygu eu strategaeth band-eang.

Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth cyn graddio mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe. Bu’n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 2005 a 2010. Ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd ymgynghorol elusen Marie Curie yng Nghymru.

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “Rydym yn ffodus iawn i fedru penodi arweinydd i S4C ar gyfer y blynyddoedd nesaf sydd wedi profi ei allu mewn cymaint o feysydd.

"Mae Owen wedi dangos fwy nag unwaith yn ei yrfa'r ddawn i addasu a derbyn cyfrifoldebau mawr a newydd, gan gynnwys ym meysydd cyfathrebu technegol a’r iaith Gymraeg.

"Mae’n arweinydd uchel ei barch gyda phrofiad arbennig o adeiladu partneriaethau.

"Gyda’r unigolion talentog sydd eisoes yn gweithio i S4C, gallwn edrych ymlaen i’r dyfodol yn hyderus”.

Bydd Owen Evans yn cymryd drosodd fel Prif Weithredwr ar 1 Hydref 2017.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5254/
2017-05-15T00:00:00+1:00Ethol arweinydd newydd grŵp Plaid Cymru Gwynedd
Etholwyd Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Dolgellau yn Arweinydd newydd Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd mewn cyfarfod ym Mhorthmadog yr wythnos hon (8 Mai).

Mae Dyfrig Siencyn yn Gynghorydd Sir dros Ward Gogledd Dolgellau.

Llwyddodd Plaid Cymru Gwynedd i sicrhau mwyafrif o Gynghorwyr, 41 Cynghorydd, yn yr Etholiadau Lleol sy’n golygu y bydd Plaid Cymru yn parhau i arwain a llywodraethu Cyngor Gwynedd dros y bum mlynedd nesaf. Mae’n adeiladu ar lwyddiant y Blaid dros y blynyddoedd diwethaf ac yn 4 Cynghorydd yn fwy nac a etholwyd yn 2012, a 6 Chynghorydd yn fwy nac yn Etholiad 2008.

Meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Mae hi’n fraint ac yn anrhydedd cael fy ethol i swydd arweinydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd.

"Mae hi’n swydd bwysig sy’n gosod y tir ar gyfer y gwaith caboledig sy’n cael ei wneud o fewn Gwynedd gan dîm cyfan o gynghorwyr, staff, asiantaethau, gwirfoddolwyr a chymunedau.

Mae gan Blaid Cymru weledigaeth a chyfraniad sylweddol i’w gwneud, nid yn unig i ddyfodol y sir yma, ond i ddyfodol Cymru a'r Gymraeg hefyd.

“Diolch i bob ymgeisydd sydd wedi mentro i’r cylch gwleidyddol ar ran Plaid Cymru yn yr Etholiadau Lleol.

"Diolch i gynghorwyr profiadol sydd wedi gweithio’n ddiflino gan gyfrannu’n hael i’r gwaith dros y blynyddoedd.

"Estynnwn groeso twymgalon i Gynghorwyr newydd Plaid Cymru. Gyda’n gilydd, gallwn barhau i fod yn uchelgeisiol dros ein cymunedau gan sicrhau tegwch i’n trigolion.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r cyn Gynghorydd Dyfed Edwards, Penygroes am ei gyfraniad.

"Bu’n arwain grŵp Plaid Cymru Gwynedd a Chyngor Gwynedd am naw mlynedd, y cyfnod hiraf i unrhyw arweinydd yn y sir.

"Mae wedi bod yn fraint cydweithio â Dyfed ac rydym yn diolch iddo am ei broffesiynoldeb, ei gyfeillgrawch, ei brofiad a’i ddoethineb dros y blynyddoedd. Fel aelodau Plaid Cymru, dymunwn bob llwyddiant iddo i’r dyfodol,”

Bydd grŵp y Blaid yn enwebu’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn i swydd Arweinydd Cyngor Gwynedd yn y Cyngor llawn yng Nghaernarfon ddydd Iau y 18 o Fai.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5248/
2017-05-09T00:00:00+1:00Elin Fflur i gloi Llwyfan y Maes yn Eisteddfod Môn
Mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi’r lein-yp ar gyfer Llwyfan y Maes yn yr ŵyl eleni.

Eden sydd wedi hawlio slot holbwysig nos Wener ar y Llwyfan, ac mae’r merched wedi addo perfformiad bythgofiadwy a hollwych, wrth iddyn nhw ddathlu 21 mlynedd ers rhyddhau’u halbwm cyntaf.

Uchafbwynt arall nos Wener fydd perfformiad ‘Lleden’, sef Tara Bethan, Sam Roberts, Rhys Jones, Heledd Watkins a Wil Roberts.

Bydd y grŵp yn perfformio set arbennig fel rhan o ddathliadau #maesb20, yn llawn caneuon gan fandiau o bob oed dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, gydag anthemau gan sêr fel Yws Gwynedd, Genod Droog, Sibrydion, Swci Boscawen, Euros Childs a Jarman i gyd yn cael eu gwau drwy’i gilydd i greu perfformiad pop perffaith i ddathlu pen-blwydd pwysig Maes B.

Mae digon o flas lleol yn yr amserlen hefyd, gyda chorau a grwpiau o Fôn fel Fleur de Lys a Cordia i’w gweld yn perfformio, a phwy well i gloi Llwyfan y Maes yn Eisteddfod Môn nos Sadwrn nag Elin Fflur a’i band.

Yn wreiddiol o Lanfairpwll, ffrwydrodd Elin ar y sîn wrth ennill Cân i Gymru nôl yn 2002. Ers hynny, mae wedi rhyddhau dau albwm poblogaidd arall; ac mae’i dawn berfformio naturiol a’i llais unigryw wedi sicrhau’i lle fel un o ddoniau mawr ei chenhedlaeth, a hi yw’r dewis perffaith i ddod â’r ŵyl i ben eleni.

Wrth gwrs, mae ffefrynnau mawr Llwyfan y Maes yn mynd i fod yn perfformio - Geraint Lovgreen, Band Pres Llareggub a Cowbois Rhos Botwnnog, heb anghofio cyflwynwyr a chymeriadau Cyw oddi ar S4C ar gyfer y plantos lleiaf.

Mae’r trefnwyr hefyd wedi cryfhau’r lein-yp ar y penwythnos cyntaf, ac mae’r dydd Sadwrn yn sicr o apelio at gefnogwyr cerddoriaeth Gymraeg. Moniars, John ac Alun, Wil Tân a Calfari fydd i’w gweld ar y Llwyfan gan sicrhau dechrau gwych i’r wythnos.

Roedd Maffia Mr Huws yn un o fandiau Cymraeg mwyaf eu cyfnod yn yr 80au, gan ysbrydoli cenhedlaeth o gerddorion.

Ac maen nhw’n ôl eleni, gyda’u prif leisydd gwreiddiol, Hefin Huws - cyfle i’w gweld nhw ar eu gorau felly ac ail-fyw'r dyddiau da gyda thalp go fawr o nostalgia ar y pnawn Sadwrn olaf.

Gyda rhai o enwau mwyaf cyffrous y sîn hefyd yn perfformio, gan gynnwys Candelas, Sŵnami, Alys Williams, Alun Gaffey a HMS Morris, mae’n sicr o fod yn ddathliad eclectig o gerddoriaeth ar ei gorau, a hyn oll yn awyrgylch unigryw'r Eisteddfod. Dewch atom i ymlacio yn haul a hwyl y Maes mewn tri mis.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5242/
2017-05-08T00:00:00+1:00Llwybr eiconig Arfordir Cymru yn dathlu ei bumed pen-blwydd
MAE’R Llwybr eiconig o amgylch Arfordir Cymru, y llwybr di-dor cyntaf o’i fath yn y byd ar hyd arfordir cenedlaethol, wedi dathlu ei bumed pen-blwydd.

Mae’r llwybr sy’n ymestyn am 870-milltir yn cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru a gwariodd cerddwyr arfordir Cymru £84.7 miliwn yn 2014, gan gynnal 1,000 o swyddi.

Yn ogystal roedd 43.4 miliwn o ymweliadau undydd ag arfordir Cymru yn cynnwys cerdded fel gweithgaredd.

Roedd hyn yn amrywio o bobl leol yn mynd am dro bach hamddenol ar y traeth i ymwelwyr yn cerdded y llwybr cyfan (870 milltir) dros gyfnod o 100 neu fwy o ddyddiau.

Meddai Emyr Roberts, prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae Llwybr Arfordir Cymru yn manteisio’n llawn ar yr adnodd naturiol ardderchog yr ydym yn gofalu amdano ac mae’n enghraifft ragorol o sut y gall yr amgylchedd helpu cymaint o wahanol rannau o gymdeithas.

“Mae’n rhoi hwb i’n heconomïau gwledig a threfol drwy dwristiaeth, mae’n gwella iechyd a lles ac yn annog pobl i fynd allan i gerdded ac yn cysylltu pobl â’r natur ryfeddol sy’n byw ar hyd ein harfordir ysblennydd.

“Mae’r pum mlynedd cyntaf wedi rhoi dechrau ardderchog inni, ond mae cymaint mwy y gallwn ei wneud.

“Yn ystod y flwyddyn nesaf byddwn yn gweithio’n galed i geisio cael mwy o bobl fyth i fanteisio ar yr adnodd naturiol rhyfeddol hwn.”

Ychwanegodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: “Roedd Cymru’n torri cwys newydd yn 2012 – hi oedd y wlad gyntaf yn y byd i gael llwybr arbennig ar hyd ei harfordir cyfan.

“Ers hynny, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi darparu manteision amgylcheddol, iechyd ac economaidd i gerddwyr di-rif.

“Rwyf wedi mwynhau darganfod adrannau ohono fy hun.

“Dros y flwyddyn newydd cerddedais llwybr arfordirol Ynys Môn ac edrychaf ymlaen i gerdded adrannau pellach yn y dyfodol.

“Wrth i ni ddathlu ei phen-blwydd, ac edrych i’r dyfodol, rwyf yn siŵr y bydd Llwybr Arfordir Cymru yn parhau i fod yn boblogaidd iawn ymhlith y cymunedau lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cynnig rhywbeth yma at ddant pawb, – o gerdded hamddenol gyda theulu ifanc i deithiau cerdded dramatig ac arswydus ar hyd y clogwyni, beth bynnag sy’n apelio atoch.

Beth am ddathlu y pumed pen-blwydd drwy gymryd y cyfle i ddarganfod pa ran yw eich ffefryn chi?

Mae digon o syniadau ar gyfer y darganfyddiadau teuluol bythgofiadwy neu teithiau mwy heriol ar gael ar http://www.naturalresources.wales/days-out/wales-coast-path/?lang=cy

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5243/
2017-05-08T00:00:00+1:00Lansio rhestr statudol gyntaf y DU o enwau lleoedd hanesyddol
Mae adnod ar-lein newydd, sydd eisoes wedi cofnodi bron 350,000 o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru gan gadw eu pwysigrwydd hanesyddol am genedlaethau, yn cael ei lansio heddiw gan Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.

Nod Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru yw hyrwyddo etifeddiaeth gyfoethog Cymru o enwau lleoedd drwy’r oesoedd ac annog eu defnydd cyfoes.

Y rhestr statudol yw’r cyntaf o’i fath yn y DU ac mae’n cael ei lansio gan Ysgrifennydd yr Economi mewn digwyddiad yn yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd.

Mae’r rhestr ar-lein yn tynnu enwau lleoedd ynghyd a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol.

Mae’n rhoi cipolwg diddorol iawn ar ddefnydd tir, archaeoleg a hanes Cymru ac yn adlewyrchu sut mae enwau lleoedd wedi datblygu dros ganrifoedd o fywyd Cymru.

Dywedodd Ken Skates: “Mae enwau lleoedd hanesyddol Cymru yn rhan bwysig o’n hanes a’n diwylliant a dyna pam roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am restr statudol yn ei Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

“Mae’n un o gyfres o fentrau hanesyddol arloesol a gyflwynwyd gan y Ddeddf ar gyfer Cymru ac mae’n bwysig pwysleisio bod y rhestr rydyn ni’n ei lansio heddiw, gyda bron 350,000 o gofnodion eisoes, yn ddim ond y dechrau.

"Gyda chymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru, bydd y rhestr yn parhau i dyfu i gofnodi etifeddiaeth gyfoethog o enwau lleoedd hanesyddol ein gwlad.

"Bydd yn helpu i bwysleisio eu gwerth i’n treftadaeth ac yn annog unigolion a chyrff cyhoeddus i gadw’r enwau gwerthfawr hyn yn fyw.”

Dywedodd Dr Eurwyn Wiliam, Cadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a gasglodd yr enwau ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn falch iawn o gael lansio’r wefan arloesol heddiw.

"Gwerth aruthrol enwau lleoedd hanesyddol yw y gallant gofnodi pobl, arferion, henebion, neu ddigwyddiadau’r gorffennol, sydd weithiau wedi mynd yn angof, a’u gosod mewn amser ar y dirwedd.

“Mae astudio’r enwau hyn yn rhoi gwybodaeth am amgylchiadau, brwydrau, goresgyniadau, a chwyldroadau diwydiannol ac amaethyddol y gorffennol.

"Maen nhw’n elfen hynod bwysig o amgylchedd hanesyddol Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd llawer o bobl yn mwynhau defnyddio’r wefan newydd hon i ddysgu mwy am enwau lleoedd hanesyddol Cymru a chydnabod eu gwerth.”

Ceir Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru yma: https://historicplacenames.rcahmw.gov.uk/

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5244/
2017-05-08T00:00:00+1:00Hollt enfawr yn ysgafell iâ Larsen C yn yr Antarctig wedi ffurfio ail gangen
MAE’R hollt yn ysgafell iâ Larsen C yn yr Antarctig bellach wedi ffurfio ail gangen sy’n symud i gyfeiriad blaen yr iâ, yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe sydd wedi bod yn astudio’r data diweddaraf o loerenni.

Ar hyn o bryd, mae’r prif hollt yn Larsen C, sy’n debygol o greu un o’r mynyddoedd iâ mwyaf a gofnodwyd erioed, yn 180km o hyd.

Mae cangen newydd yr hollt yn 15km o hyd.

Y llynedd, dywedodd ymchwilwyr o Brosiect Midas y DU, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe, fod yr hollt yn tyfu’n gyflym.

Erbyn hyn, dim ond 20km o iâ sy’n rhwystro’r darn 5,000 o km sgwâr rhag arnofio i ffwrdd.

Wrth ddisgrifio’r canfyddiadau diweddaraf, meddai’r Athro Adrian Luckman o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, sy’n bennaeth Prosiect Midas: “Er nad yw blaen yr hollt blaenorol wedi symud ymhellach, mae cangen newydd wedi cael ei chreu.

“Mae hyn tua 10km y tu ôl i’r blaen blaenorol, ac yn symud tuag at flaen yr iâ.

“Dyma’r newid sylweddol cyntaf yn yr hollt ers mis Chwefror eleni.

“Er nad yw hyd yr hollt wedi newid ers sawl mis, mae wedi bod yn ehangu’n gyson fesul mwy na metr bob dydd.

“Mae’n aeaf ar hyn o bryd yn yr Antarctig, felly mae arsylwadau gweledol uniongyrchol yn brin ac â chydraniad isel.

“Mae ein harsylwadau ar yr hollt yn seiliedig ar interferometreg radar agorfa synthetig (SAR) o loerenni Sentinel-1 yr Asiantaeth Gofod Ewropeaidd.

“Mae interferometreg radar o loerenni yn caniatáu i ni fonitro datblygiad yr hollt yn fanwl gywir.”

Dywed ymchwilwyr y bydd colli darn sy’n cyfateb i chwarter maint Cymru’n gadael yr ysgafell gyfan yn agored i chwalu yn y dyfodol.

Mae Larsen C tua 350m o drwch ac mae’n arnofio ar y moroedd ar ymyl Gorllewin yr Antarctig, gan ddal llif y rhewlifoedd sy’n ei bwydo yn ôl.

Meddai’r Athro Adrian Luckman: “Pan fydd yn ymrannu, bydd ysgafell iâ Larsen C, yn colli mwy na 10% o’i harwynebedd a fydd yn gadael blaen yr iâ yn y safle pellaf yn ôl a gofnodwyd erioed.

“Bydd y digwyddiad hwn yn golygu newid sylfaenol yn nhirwedd Penrhyn yr Antarctig.

“Rydym wedi dangos o’r blaen y bydd y ffurfwedd newydd yn llai sefydlog nag yr oedd cyn yr hollt, ac mae’n bosib y bydd Larsen C, yn y pen draw, yn dilyn enghraifft ei chymydog, Larsen B, a chwalodd yn llwyr yn 2002 yn dilyn digwyddiad ymrannu tebyg o ganlyniad i hollti.”

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5245/
2017-05-08T00:00:00+1:00Ysgoloriaethau i ddysgwyr o’r Wladfa
MAE tair ysgoloriaeth, gwerth £2,000 yr un, ar gael i ddysgwyr o Batagonia astudio’r Gymraeg yng Nghymru dros yr haf.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n ariannu’r ysgoloriaethau, fydd yn galluogi tri pherson o’r Wladfa i dreulio mis yn dilyn cwrs gyda Phrifysgol Caerdydd neu Brifysgol Aberystwyth, dau o ddarparwyr y Ganolfan.

Mae gofyn i’r dysgwyr sy’n gwneud cais am ysgoloriaeth fod ar lefel Canolradd o leiaf a’u bod wedi gwneud ymrwymiad pendant eisoes i ddysgu’r iaith. Gweinyddir yr ysgoloriaethau gan y Cyngor Prydeinig.

Yn dilyn cyfnod yng Nghymru yn gwella’u sgiliau iaith, bydd disgwyl i’r dysgwyr fynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl dychwelyd adref, gan gyfrannu at fywyd Cymraeg y Wladfa, yn weithgareddau a dosbarthiadau.

Un sydd wedi elwa yn y gorffennol o ysgoloriaeth fel hon yw Grisel Roberts o Esquel, yng ngorllewin Patagonia.

Mynychodd Grisel, sydd â’i gwreiddiau yng Nghymru, gwrs dwys am fis gyda Phrifysgol Caerdydd yn ystod haf 2016.

Meddai Grisel: “Dw i wedi elwa o’r Cynllun yn aruthrol, a dw i’n ddiolchgar dros ben.

“Roedd y cwrs yn wych, roedd yr athrawon yn amyneddgar ac yn angerddol am yr iaith.

“Yn y grŵp, cwrddais â llawer o bobl gyfeillgar iawn ac ro’n ni’n defnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu trwy’r amser.”

Wrth annog eraill i ymgeisio am yr ysgoloriaeth, ychwanegodd: “Mae’r ysgoloriaeth wedi fy helpu i fod yn athrawes well ac roedd yn caniatáu i mi deithio a dod i wybod mwy am y diwylliant Cymreig, hyrwyddo diwylliant Patagonia yng Nghymru, a chryfhau’r rhwymau rhwng Cymru a’r Ariannin.

“Dw i’n dal i astudio yn galed achos dw i’n edrych ymlaen at sefyll arholiad lefel Uwch eleni!”

Meddai Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Ry’n ni’n gyffrous iawn i gynnig y tair ysgoloriaeth yma i bobl o’r Wladfa sy’n awyddus i ddod i Gymru i ddysgu ac i wella’u Cymraeg.

“Ry’n ni’n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a’r Ariannin, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn rhan o fywyd cymunedau ym Mhatagonia.”

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hawys Roberts, Prif Swyddog Cyfathrebu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar 01970 621565 neu hawys.roberts@dysgucymraeg.cymru

Llun: Grisel Roberts o Esquel

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5246/
2017-05-08T00:00:00+1:00