Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Awst 2015

Dicter at gau canghennau Nat West

Mae Elin Jones, AC lleol Plaid Cymru dros Geredigion, wedi mynegi ei dicter at benderfyniad grwp bancio RBS i gau ei changhennau NatWest yn Aberaeron a Thregaron.

Heddiw, cyhoeddodd y banc ei fod am gau cangen Aberaeron ar 4 Tachwedd eleni, gyda Tregaron i ddilyn ar 24 Tachwedd. Y llynedd, penderfynodd y banc i gau canghennau Cei Newydd a Llandysul.

Mae Plaid Cymru yn lansio deiseb yn erbyn y newidiadau.

Dywedodd Elin Jones, AC lleol Ceredigion: “Bydd cwsmeriaid NatWest yn Aberaeron a Thregaron wedi eu siomi’n fawr gan y newyddino yma. Bydd pedair cangen yng Ngheredigion wedi eu cau mewn cwta flwyddyn. Maent yn honni eu bod yn buddsoddi mewn rhoi ‘mwy o ddewis’ i’w cwsmeriaid o ran mathau gwahanol o fancio, ond bydd hynny’n eiriau gwag i’w cwsmeriaid yn Aberaeron a Thregaron.

“Rwy’n gal war y banc i ailystyried ei phenderfyniad. Os yw’n mynnu bwrw mlaen gyda’r penderfyniad, mae angen gwybodaeth glir ar ddyfodol peiriannau arian, a gwasanaethau estyn-allan trwy’r Swyddfa Bost a bancio symudol.”

Dywedodd Catherine Hughes, Cynghorydd Sir Tregaron: “Daw’r newyddion yma’n fuan ar ôl colli Barclays o Dregaron, ac mae’n ergyd drom. Bydd yn sioc fawr yn enwedig i’r cwsmeriaid hynny symudodd eu busnes i NatWest.

“Dylai NatWest ailystyried hyn. Mae Tregaron yn ganolbwynt ar gyfer ardal wledig eang, ac mae traddodiad hir o bobl yn dod i wneud eu busnes bancio yma ar ddiwrnodau marchnad. Y trethdalwr sydd biau’r rhan fwya’ o’r banc yma. Mae gan RBS gyfrifoldeb i beidio ag anwybyddu ein cymunedau.

Rhannu |