Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Awst 2015

Llywodraeth Cymru am barhau i gyllido Rali Cymru GB tan 2018

Mae’r International Motor Sports (IMS) Ltd wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cefnogaeth ar gyfer Rali Cymru tan ddiwedd 2018.
 
Rali Cymru GB ydy’r enw ar gyfer rownd hon Pencampwriaeth Rali’r Byd FIA ers i Lywodraeth Cymru ddod yn un o’r prif bartneriaid ariannol yn 2003. Rŵan, fe fydd y cytundeb diweddar yn parhau’r bartneriaeth lwyddiannus am dair blynedd eto; fe fydd y berthynas ar gyfer y bencampwriaeth hon yn un o rai hiraf yn hanes chwaraeon ym Mhrydain.
 
Dywedodd Ben Taylor, Cyfarwyddwr Rheoli IMS: “Rydym ni wrth ein boddau ein bod ni wedi dod i gytundeb newydd â Llywodraeth Cymru.

"Mae cefnogaeth y Llywodraeth wedi bod yn elfen hanfodol o lwyddiant hir Rali Cymru GB.

"Mae strategaeth y Llywodraeth, sy’n edrych tua’r dyfodol, yn galluogi i’n digwyddiad ni ddod â gwerth economaidd o tua £10m i economi Cymru, yn ogystal â bod yn ddigwyddiad rhyngwladol sy’n dod â busnes, twristiaeth a llawer o fanteision masnachol eraill i’r wlad.

"Bu symud i ogledd Cymru yn llwyddiant mawr a rŵan fe allwn ni edrych ymlaen at ddatblygu ar hynny a rhoi cynlluniau newydd cyffrous ar waith er mwyn datblygu’r digwyddiad ymhellach. Mae’r newyddion am gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru yn newyddion gwych i ralïo yng Nghymru ac ar gyfer y sector campau modur ym Mhrydain."
 
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Rydw i’n falch o gyhoeddi y bydd ein partneriaeth lwyddiannus ag International Motor Sports er mwyn cefnogi Rali Cymru GB yn parhau eto am dair blynedd. Mae’r digwyddiad rhyngwladol yma’n mynd o nerth i nerth ac mae wedi ennill lle amlwg ar galendr Pencampwriaeth Rali’r Byd.
 
"Mae datblygiadau megis cymalau’r Ŵyl Rali wedi bod yn elfen  amhrisiadwy wrth sicrhau bod y gamp yn apelio at gynulleidfa ehangach; mae hyn wedi gwneud y gamp yn agored ac  ar gael i bawb ei mwynhau. Mae felly wedi denu mwy o ymwelwyr a chyda hynny, mwy o fanteision economaidd.
 
“Mae’r Rali’n llwyfan delfrydol i Gymru ddangos ei rhinweddau, yn cynnwys ein tirwedd hardd, y diwydiant Cynhyrchu a Deunyddiau Datblygedig a gallu’r wlad i gynnal digwyddiadau mawr rhyngwladol fel hyn. Gyda'r cyllid bellach wedi ei gadarnhau, fe allwn ni edrych ymlaen at ddigwyddiad hyd yn oed gwell yn 2016.”
 
Rali Cymru GB ydy uchafbwynt calendr ralïo Prydain, ac mae ganddo enw ledled y byd fel un o’r ralïau mwyaf enwog a heriol Pencampwriaeth Rali’r Byd. Dyma un o ddau le yn unig sydd wedi sicrhau lle parhaol ar y calendr ers dechrau Pencampwriaeth Rali’r Byd yn 1973, ac mae’r cymalau mesur amser drwy goedwigoedd godidog Cymru yn rhai o’r goreuon yn y byd.
 
Mae cyn enillwyr Rali Cymru GB yn cynnwys nifer o Bencampwyr y Byd, megis: Petter Solberg (2003, 2004 & 2005), Marcus Gronholm (2006), Sébastien Loeb (2008, 2009 & 2010) ac y diweddaraf, pencampwr presennol y byd Sébastien Ogier (2013 & 2014).
 
O 2003 tan 2012, roedd Rali Cymru GB yn y de, ac yna bu iddo symud tua’r gogledd yn 2013.
 
Eleni, fe fydd Rali Cymru GB rhwng y 12fed a’r 15fed o Dachwedd. Mae tocynnau buan, sy’n cynnig prisiau rhatach, ar gael eisoes. Fe gewch chi wybodaeth pellach am y tocynnau ac am lwybrau rali 2015 ar y wefan swyddogol: www.walesrallygb.com.  
 
Dywedodd Elfyn Evans, Tîm Rali’r Byd M-Sport: “Dyma newyddion pwysig iawn, yn enwedig ar gyfer yr economi leol. Rydw i’n un o’r ardal felly rydw i’n deall yn iawn yr effaith digwyddiad mawr fel hyn ar y rhanbarth.

"Dim mewn un lle yn unig – mae’r digwyddiad yn effeithio ar ogledd a chanolbarth Cymru i gyd; felly mae’n wych bod y Llywodraeth wedi penderfynu ail-fuddsoddi. Wrth gwrs, mi fuaswn i wrth fy modd yn camu ar y llwyfan, efallai hyd yn oed ar y blwch uchaf fel enillwr Rali Cymru GB cyn 2018!”

Llun: Elfyn Evans

Rhannu |