Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Awst 2015

Cais Cynllunio i ehangu Swyddfa Wylfa Newydd gwerth £1m

Mae Pŵer Niwclear Horizon wedi cyflwyno cais cynllunio i ymestyn swyddfa safle Wylfa Newydd i fod dair gwaith yn fwy nag y mae ar hyn o bryd, gan sicrhau lle i'r tîm sy'n tyfu yn Ynys Môn a buddsoddi miliwn o bunnau'n ychwanegol yn y safle.

Mae'r gwaith o ailddatblygu'r swyddfa'n adlewyrchu'r cynnydd gyda'r cynigion i ddatblygu Wylfa Newydd, gan gynnwys astudiaethau ychwanegol ar y safle ar y tir ac ar wely'r môr dros yr haf ac ail gam yr ymgynghori â'r gymuned yn ddiweddarach eleni, lle gall pobl leol ddweud eu dweud am y prosiect.

Dywedodd Charlie Tasker, Cyfarwyddwr Datblygu’r Safle ar gyfer Pŵer Niwclear Horizon: "Wrth i brosiect Wylfa Newydd ddatblygu, mae ein tîm yng Ngogledd Cymru'n dal i dyfu ac rydyn ni'n cynnal mwy a mwy o gyfarfodydd yn swyddfa'r safle. Mae dros 30 o bobl yn gweithio yma'n barhaol bellach, a bydd y cynlluniau newydd hyn yn ein galluogi i sicrhau lle ar gyfer tua 80 aelod o staff i gyd."

Mae'r cynigion yn cynnwys gofod swyddfa newydd yn ogystal ag ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau i staff. Mae cais cynllunio ar gyfer ymestyn swyddfa'r safle wedi'i gyflwyno i Gyngor Sir Ynys Môn a gallai'r gwaith adeiladu gychwyn cyn gynted ag y bydd y caniatadau angenrheidiol wedi cael eu rhoi.

 

Rhannu |