Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Awst 2015

Lansio CD emynau karaoke

Wrth i gynulleidfaoedd fynd yn llai, mae capeli ac eglwysi yn aml yn cael eu hunain heb organydd i gyfeilio gwasanaethau.

Bydd CD newydd sy’n cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod heddiw yn adnodd gwerthfawr ar eu cyfer hwy.

Mae'n cynnwys 50 o emyn-donau adnabyddus yn cael eu chwarae gan un o organyddion amlycaf Cymru, a llawlyfr sy’n rhestru cannoedd o emynau i’w canu gyda’r gerddoriaeth.

Mae’n siŵr y byddai sawl un yn mwynhau canu gyda’r gerddoriaeth yn y cartref neu yn y car - rhyw fath o karaoke Cristnogol!

Chwaraewyd yr emynau gan Rob Nicholls ar yr organ yng nghapel y Bedyddwyr Cymraeg, Y Tabernacl, Yr Aes, Caerdydd.

Cafodd y prosiect ei wireddu gan Gwawr Owen, ar sail syniad gan y Parch Carys Ann a'i gŵr Maldwyn.

Bydd y CD a’r llawlyfr ar gael ym Mhabell yr Eglwysi ar Faes y Brifwyl ac wedi hynny o swyddfa Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Abertawe.

"Mae hwn yn adnodd cyffrous a defnyddiol dros ben," meddai Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb.

"Yn ogystal â bod yn adnodd gwerthfawr ar gyfer oedfaon, gellir defnyddio’r CD yn y cartref ac yn y car, mewn ysgolion a chartrefi preswyl. Mae'n briodas wych o dechnoleg a thraddodiad. Rwy'n edmygu’r syniad, y gwaith a'r brwdfrydedd y tu ôl i'r prosiect hwn."

Rhannu |