Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Awst 2015

Protest addysg – Hen gar wedi’i adael wrth uned Llywodraeth Cymru

Wrth gynnal protest wrth uned Llywodraeth Cymru heddiw mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi gadael hen gar gyda’r geiriau “Cymraeg Ail Iaith” arno o flaen stondin llywodraeth Cymru.

Esboniad y Gymdeithas yw fod dysgu Cymraeg Ail Iaith yn “write-off” ac yn fethiant addysgol.

Dywed y Gymdeithas na ellid trwsio na gwella model methedig Cymraeg Ail Iaith a bod angen i’r llywodraeth yn hytrach gyflwyno yn y cwricwlwm newydd Cymraeg i bawb ar hyd continwwm iaith  gan sicrhau bod pob disgybl yn codi trwy wahanol lefelau o hyfedredd. 

Yn ogystal mae’r Gymdeithas yn galw ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno rhywfaint o addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn yng Nghymru fel y daw pob disgybl i fedru cyfathrebu’n Gymraeg a defnyddio’r iaith.

Mae'r mudiad wedi bod yn arwain ymgyrch dros “Addysg Gymraeg i Bawb” fel rhan o ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad a ddangosodd cwymp yn nifer siaradwyr y Gymraeg.    

Cefnogir safbwynt y Gymdeithas gan nifer o arbenigwyr addysgol sydd wedi rhybuddio na ddylid oedi rhag gweithredu argymhellion adroddiad gan yr Athro Sioned Davies a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ol.

Yn siarad wedi'r brotest, meddai Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith: “Go brin fod unrhyw sefyllfa erioed wedi bod yn gliriach.

"Mae holl syniad Cymraeg Ail Iaith yn fethiant - yn fethiant addysgol ac yn bradychu’r disgyblion.

"Petai Cymraeg ail iaith yn gerbyd, byddai'n “write-off”! Wedi'r cwbl, nid ‘ail’ iaith yw’r Gymraeg gan ei bod yn perthyn i bawb yng Nghymru, ac arwydd o fethiant addysgol yw i unrhyw ddisgybl ymadael a’r ysgol heb fedru byw a gweithio’n Gymraeg mewn gwlad fodern ddwyieithog."

“Rhaid i ni symud at drefn lle bydd pob disgybl yn derbyn o leiaf ran o’i addysg yn Gymraeg fel y dysgant sut i ddefnyddio’r iaith.

"Does dim modd cyflawni’r fath newid dros nos, ond mae nifer o fudiadau ac arbenigwyr yn galw ar Carwyn Jones i symud ymlaen ar fyrder â'r agenda yma wedi dwy flynedd o oedi.

"Gall wneud datganiad o fwriad yfory a sefydlu panel o arbenigwyr i weithredu’r newid.   

"Nid oes modd gwadu nad yw’r status quo yn aneffeithiol ac annerbyniol.

"Mae gennym gyfundrefn sydd yn anelu at nod clodwiw iawn, ond nid yw hi’n gweithio. Dyna pam mae consensws ymysg addysgwyr ac yn drawsbleidiol dros newidiadau sylweddol i’r system."  
 

Llun: Ffred Ffransis

Rhannu |