Mwy o Newyddion
Galw am ddatrysiad brys i helpu ffermwyr sy'n dioddef yn sgil prisiau llaeth ansefydlog
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi galw am bob cymorth posib i ffermwyr llaeth yng Nghymru oherwydd y gwahaniaeth yn y prisiau llaeth a delir i ffermwyr o’i gymharu â’r pris ar y silff yn yr archfarchnadoedd.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Disgynnodd y pris a delir i ffermwyr am eu llaeth 30% tros y flwyddyn ddiwethaf tra nad oes prin ddim newid ym mhris llaeth ar y silff yn ein harchfarchnadoedd. Mae hyn oll yn cael ei feio ar gwymp rhyngwladol ym mhrisiau cynnyrch llaeth.
"Hefyd gwelsom fod y prisiau a delir i gynhyrchwyr caws wedi disgyn £1,000 y dunnell, ac eto erys y gost i gwsmeriaid bron yr un peth. Golyga’r anghysondeb yma fod yr archfarchnadoedd yn gwneud cryn elw o werthiant cynnyrch llaeth.
"Mae ffermwyr cynnyrch llaeth Cymru mewn sefyllfa fregus, gan dderbyn llawer llai na chost cynhyrchu’r llaeth a ddefnyddir i gynhyrchu caws a’i ddosbarthu i archfarchnadoedd. Mae’r sefyllfa yma yn anghynaliadwy i gynhyrchwyr llaeth yng Nghymru fel y rhai sy’n cyflenwi Hufenfa De Arfon yn fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionnydd.”
Ychwanegodd: “Mae’r diwydiant llaeth yn rhan annatod o economi wledig ar lawr gwlad Cymru. Mae’r sefyllfa bresenol yn anghynaliadwy. Os yw’r sector llaeth am ffynnu a thyfu yng Nghymru, yna rhaid i’r gadwyn gyflenwi weithio i’r cynhyrchwyr, nid yn unig i’r archfarchnadoedd.
"Galwaf ar y GCA (Grocery Code Adjudicator) i edrych ar frys ar y sefyllfa anghynaliadwy yma a chysidro sut i ddylanwadu ar rôl yr archfarchnadoedd i ddatrys y sefyllfa anodd yma.”