Mwy o Newyddion
Trawsnewidiad gwerth £50,000 i Dŷ Newydd ym mlwyddyn dathlu ei chwarter canrif
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd yn adnoddau Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd.
Derbyniwyd Grant Cyfalaf Loteri hael iawn o £30,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gydag arian cyfatebol o £10,000 gan yr Academi Gymreig a £10,000 pellach gan Sefydliad Teulu Ashley drwy’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.
Mae’n addas fod y sefydliadau hyn yn rhoi cefnogaeth i Dŷ Newydd eleni, gan i’r tri ohonynt chwarae rhan yn agor y Ganolfan chwarter canrif yn ôl.
Bydd y gyllideb yn cael ei gwario ar ddodrefn, gosodiadau ac arwyddion i wella’r ystafelloedd, mannau cymunedol ac ystafelloedd ymolchi, yn ogystal â gweithiau artistig i’w gosod ar y safle. Bydd pensaer yn cael ei gyflogi i lunio cynllun cadwraeth ar gyfer y gwaith adnewyddu ac adfer rhai o nodweddion unigryw yn yr adeilad rhestredig Gradd II* hwn.
Mae hanes hen a difyr i Dŷ Newydd. Wedi ei adeiladu yn yr unfed ganrif ar bymtheg, diweddarwyd y tŷ yn y cyfnod Sioraidd, cyn dod yn gartref olaf i’r Prif Weinidog David Lloyd George, a gomisiynodd pensaer enwog Portmeirion, Clough Williams-Ellis, i’w addasu yn ôl ei fympwy.
Mae cornel wedi ei chlustnodi yn Llyfrgell Clough Williams-Ellis yn y tŷ bellach i arddangos lluniau gwreiddiol o Lloyd George a llyfrau yn ei gylch, gan roi gwybodaeth i ymwelwyr ac ail-gysylltu Tŷ Newydd â’r cyfnod nodedig hwn yn ei hanes. Bydd paneli newydd yn rhoi gwybodaeth am hanes y tŷ a’r Ganolfan yn cael eu gosod yn y cyntedd, a bydd y tŷ haul yn cael ei drawsnewid mewn i dderbynfa gyda siop anrhegion llenyddol Cymreig a llyfrgell cyfnodolion.
Fel rhan o’r trawsnewidiad, comisiynwyd map newydd o’r ardal o amgylch Tŷ Newydd gan yr artist Sarah Edmonds sy’n dangos llefydd o ddiddordeb hanesyddol, diwylliannol a chelfyddydol yn ardal Dwyfor ac Eifionydd. Mae’r darlun ar gael i’w brynu fel posteri a chardiau post.
Mae Tŷ Newydd hefyd yn gweithio yn agos â phartneriaid lleol yn cynnwys Amgueddfa Lloyd George a Phortmeirion, gyda’r bwriad o gydweithio ar fentrau ar y cyd yn cynnwys digwyddiadau i nodi canmlwyddiant penodi Lloyd George fel Prif Weinidog yn 2017.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru: “Ers 25 mlynedd bellach, mae Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd wedi cael ei gwerthfawrogi yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel safle o bwysigrwydd diwylliannol.
"Dan arweiniad Llenyddiaeth Cymru, ein asiant llenyddol cenedlaethol, bydd y cynlluniau cadwraethol a’r gwelliannau hyn i’r ganolfan yn helpu i adeiladu dyfodol cynaliadwy i Tŷ Newydd er budd awduron ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gefnogi’r fenter drwy ein rhaglen Cyfalaf y Loteri Genedlaethol.”
Dywedodd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn: “Rydym yn croesawu’r buddsoddiad hwn fydd yn peri i Dŷ Newydd ddisgleirio’n fwy llachar nac erioed. Yn ogystal â chwarae rhan bwysig yn datblygu awduron o bob math, mae Tŷ Newydd yn dod â buddsoddiad i Wynedd. Bydd y grantiau hyn yn cael eu gwario’n lleol ac yn sicrhau twf mewn llenyddiaeth yng Nghymru ac yn yr economi leol.”
Bydd y Ganolfan Ysgrifennu yn cymryd rhan yn niwrnod drysau agored Cadw ar 12 Medi, sef dathliad o bensaernïaeth a threftadaeth Cymru, gyda diwrnod agored i’r cyhoedd ddod i weld Tŷ Newydd ar ei newydd wedd. Ac am brofiad ehangach o Dŷ Newydd, mae llefydd yn dal i fod ar gael ar ein cyrsiau preswyl hyd nes diwedd y flwyddyn. Mae’r cyrsiau yn cynnwys cychwyn eich nofel gyda Manon Steffan Ros, archwilio’r mesurau rhydd gyda Myrddin ap Dafydd, troi hanes mewn i ffuglen gyda Haf Llewelyn ac ysgrifennu i blant gydag Angharad Tomos.
I nodi pen-blwydd Tŷ Newydd yn 25, mae Llenyddiaeth Cymru wedi lansio ymgyrch codi arian £25/25. Mae’r ymgyrch yn gwahodd y cyhoedd i gyfrannu £25; £1 am bob blwyddyn mae’r ganolfan wedi bod ar agor. Bydd cyfraniadau yn helpu i gyllido: gweithgareddau addysgol ac allgyrsiol ar gyfer ysgolion a grwpiau ieuenctid; gwaith estyn allan i’r gymuned leol; ysgoloriaethau i bobl o bob oed, gallu a chefndir i fynychu cyrsiau yn Nhŷ Newydd; a gwaith cadwraeth i amddiffyn dyfodol yr adeilad rhestredig Gradd II* hanesyddol a diwylliannol hollbwysig hwn. Gallwch ddod o hyd i fanylion am sut i gyfrannu ar wefan Tŷ Newydd: www.tynewydd.org
Caiff Tŷ Newydd ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol sy’n datblygu llenyddiaeth yng Nghymru. Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen gofrestredig.