Mwy o Newyddion
Hwb £1 biliwn Plaid Cymru i fusnesau Cymru
Mae Plaid Cymru wedi galw eto am i fwy o gontractau’r sector cyhoeddus i fynd i gwmniau Cymreig, yn dweud y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau bod y sector cyhoeddus Cymreig yn gwella eu harferion pwrcasu ac yn anelu at sicrhau bod £1 biliwn ymhellach yn cael ei bwmpio i gwmniau Cymreig.
Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario rhyw £4.3 biliwn bob blwyddyn yn prynu nwyddau a gwasanaethau o’r sector preifat, ond dim ond 55% o hynny sy’n cael ei wario ar hyn o bryd ar gyntundebau gyda chwmniau Cymreig.
Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth AC, y byddai codi’r canran i 75% yn golygu cadw £1 biliwn ymhellach yn mynd i gwmniau Cymreig a byddai’n creu 40,000 o swyddi newydd yn y sector preifat, gan dorri diweithdra o 40%.
Pwysleisiodd Rhun ap Iorwerth bwysigrwydd caffael ar lefel awdurdodau lleol i economïau lleol, gan amlygu ffigyrau lleol sydd yn dangos cryn amrywiaeth ar draws awdurdodau lleol Cymru.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Yr ydym yn aml yn teimlo’n rhwystredig yng Nghymru gyda phrinder y mecanweithiau economaidd sydd gennym, ond mae caffael yn un maes sydd yn gyfan gwbl dan reolaeth Llywodraeth Cymru a chyda £4.3 biliwn yn cael ei wario bob blwyddyn gan y sector cyhoeddus, mae’n erfyn grymus y dylai Gweinidogion fod yn ddefnyddio.
“Mae’n erfyn arwyddocaol hefyd sydd ar gael i awdurdodau lleol. Yng Nghastell Nedd Porth Talbot, er enghraifft, dim ond 14% o’u gwariant blynyddol o £26 miliwn sy’n cael ei wario o fewn ei ffiniau ei hun. Petai’r cyngor yn llwyddo i wneud yr un fath â Gwynedd, er enghraifft, sydd yn cadw 37% o’u gwariant y tu mewn i Wynedd, byddai’n pwmpio £10 miliwn ymhellach i Gastell Nedd Porth Talbot bob blwyddyn.
“Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn 2016 yn deddfu i’w wneud yn orfodol i gyrff y sector cyhoeddus ddilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael. Byddai cadw 75% o wariant Cymreig y tu mewn i Gymru yn creu 40,000 o swyddi newydd yn y sector preifat ac yn torri diweithdra o 40%, a’r peth pwysig yw na fyddai’n costio ceiniog.”