Mwy o Newyddion
Buddsoddi £3.5m mewn gwasanaethau iechyd lleol i ddod â gofal yn nes at gartrefi pobl
Heddiw, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford, wedi dweud bod buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru mewn gwasanaethau iechyd lleol ledled y wlad yn helpu'r GIG i ddarparu mwy o ofal yn nes at gartrefi pobl a lleihau pwysau ar wasanaethau ysbyty.
Ym mis Tachwedd y llynedd, creodd Llywodraeth Cymru ei chronfa gofal sylfaenol gyntaf gwerth £3.5m, a oedd yn cynnwys £2m i wella a datblygu sgiliau staff y GIG sy'n gweithio yn y gymuned ac mewn meddygfeydd.
Roedd y gronfa hefyd yn darparu mwy o wasanaethau gofal llygaid mewn cymunedau lleol, gyda £600,000 yn cael ei ddyrannu i bob un o saith bwrdd iechyd Cymru i gynnig apwyntiadau gofal llygaid ychwanegol yn nes at gartrefi pobl yn hytrach nag mewn ysbytai.
Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu cynyddu maint y gronfa gofal sylfaenol i £40m, gan fuddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol a'r gweithlu gofal sylfaenol i ddarparu mwy o ofal o ansawdd uwch yn nes at gartrefi pobl ac arbed pobl rhag gorfod teithio i'r ysbyty i gael eu gofal.
Hyd yma, mae'r gronfa wedi helpu i wella sgiliau gweithlu ehangach y maes gofal sylfaenol:
* Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, sefydlwyd partneriaeth wrth i dri practis bach uno yn ardal Abertawe a dyffryn Aman i greu cam cyntaf system gweithlu gofal sylfaenol aml-ddisgyblaethol, â gwasanaeth brysbennu, gan arwain at gynnydd yn nifer ymgynghoriadau cleifion gydag ymarferydd nyrsio, fferyllydd, neu uwch-barafeddyg, a rhyddhau amser meddygon teulu a lleihau nifer yr apwyntiadau a gollwyd;
* Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae uwch-ymarferwyr ffisiotherapi cyhyrysgerbydol yn gweithio mewn practisau meddygon teulu, ac mae 671 o apwyntiadau ychwanegol ar gael yn ystod y cyfnod treialu o ganlyniad i hyn. Mae tua un rhan o dair o ymgynghoriadau meddygon teulu yn ymwneud â phroblemau cyhyrysgerbydol; mae galluogi ffisiotherapyddion i weld cleifion wedi gadael mwy o amser i feddygon teulu ganolbwyntio ar gleifion eraill ac achosion mwy cymhleth;
* Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, mae pum meddyg teulu cyflogedig wedi'u penodi i gefnogi, a lleoliadau gwaith wedi'u sicrhau, a bydd dau arall yn cael eu penodi yn fuan;
* Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae hyfforddiant wedi'i gomisiynu ar gyfer rhagnodi annibynnol sy'n canolbwyntio ar ofal sylfaenol, ar gyfer wyth ymgeisydd llwyddiannus ac mae pecyn hyfforddi ar gyfer anawsterau llyncu wedi'i ddatblygu i staff cartrefi gofal er mwyn helpu i leihau'r nifer sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd niwmonia.
* Ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, bydd meddyg teulu yn cael hyfforddiant ym maes dermatoleg fel rhan o gynllun i sefydlu gwasanaeth newydd ar gyfer De Powys a bydd un arall yn cwblhau hyfforddiant arbenigol mewn gofal lliniarol. Mae dau wasanaeth fflebotomi plant wedi cael eu sefydlu yn Aberhonddu a'r Drenewydd, sy'n cael eu harwain gan nyrs gymwysedig, eu rhedeg gan weithwyr cymorth a'u cefnogi gan therapydd chwarae.
Mae'r buddsoddiad hefyd wedi sicrhau mwy o apwyntiadau gofal llygaid yn nes at gartrefi cleifion yn hytrach nag mewn ysbytai.
* Hyd yma, yn adran Cwm Taf yn unig, mae mwy na 1,000 o bobl wedi cael eu gweld yn eu cymuned leol yn hytrach nag yng ngwasanaeth llygaid ysbytai, gan leihau amser aros ar gyfer triniaeth dirywiad macwlaidd gwlyb sy'n gysylltiedig â henaint a rhyddhau staff i ymdrin â'r cleifion mwyaf brys;
* Ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, mae'r galw am wasanaethau llygaid mewn ysbytai wedi lleihau oherwydd bod cleifion yn cael eu hailgyfeirio at optometryddion cymunedol. Ymdriniwyd ag un o bob pum atgyfeiriad (19%) mewn lleoliad gofal sylfaenol, gan leihau amseroedd aros a gwneud yn siŵr y gallai pobl gael eu trin yn eu cymuned;
* Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cyflogi optometryddion cymunedol i weithio yn y maes argyfyngau llygaid. Mae hyn wedi gwella sgiliau ymarferwyr gofal sylfaenol ac wedi cryfhau'r cydweithio sy'n digwydd rhwng y sector gofal sylfaenol a'r sector eilaidd.
Mae byrddau iechyd prifysgol Aneurin Bevan a Chwm Taf hefyd wedi defnyddio rhan o'r gronfa gofal sylfaenol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ym maes iechyd.
* Defnyddiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ei ddyraniad o £300,000 i helpu i ariannu'r broses o gyflwyno rhaglen Byw'n Dda, Byw'n Hirach ym Mlaenau Gwent, yn sgil y niferoedd mawr sy'n dioddef o afiechyd cardiofasgwlaidd yn yr ardal. Nododd y rhaglen 221 o bobl oedd mewn perygl o gael afiechyd cardiofasgwlaidd, ac sydd bellach wedi cael eu hatgyfeirio at eu meddygon teulu i gael archwiliad pellach ac i reoli'r risg. Mae'r cynllun hefyd yn hyrwyddo rhaglenni sgrinio cenedlaethol - mae achosion o ganser yn uwch mewn ardaloedd o amddifaded economaidd-gymdeithasol;
* Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, mae gwaith wedi cael ei wneud mewn wyth practis meddygon teulu. Mae tri cynorthwyydd gofal iechyd wedi'u recriwtio i ddarparu archwiliadau wyneb yn wyneb ac mae practisau wedi cael pecyn hyfforddi a ddatblygwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd mwy na 600 o bobl eu hasesu am y tro cyntaf rhwng mis Ionawr a mis Mawrth. Mae cyngor wedi cael ei roi ar ffordd o fyw, a chafwyd diagnosis ar gyfer achosion newydd o bwysedd gwaed uchel, diabetes math 2 a hyperlipidaemia.
Dywedodd yr Athro Drakeford: “Mae gwella gofal iechyd lleol, wedi'i dargedu, yn parhau yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae'r cynlluniau hyn wedi gwella ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i gleifion gan feddygon teulu, nyrsys, ffisiotherapyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
“Mae'r gronfa gofal sylfaenol sy'n werth £3.5m wedi rhoi GIG Cymru ar y llwybr cywir i greu gweithlu gofal sylfaenol cryfach sydd wedi'i hyfforddi'n dda, ac sy'n gallu darparu ystod eang o wasanaethau mewn cymunedau lleol. Drwy wneud hynny, byddwn ni'n lleihau ein dibyniaeth ar ofal mewn ysbytai.
“Mae hefyd wedi rhoi llwyfan da fel y gallwn ni eleni, gyda'r gronfa gofal sylfaenol gwerth £40m, gyflawni'r cynllun gofal sylfaenol a pharhau i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gofal yng Nghymru.”