Mwy o Newyddion
Ymgyrchwyr Powys: "Hen bryd i ni gael addysg Gymraeg i bawb'
MAE angen brys am addysg Gymraeg ar drigolion sir Powys, dyna fydd neges ymgyrchwyr iaith wrth y cyngor sir mewn protest ar faes yr Eisteddfod heddiw.
Mae cangen leol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn sir Drefaldwyn, sy'n trefnu'r gwrthdystiad, wedi llwyddo i sicrhau bod cynghorwyr wedi sefydlu gweithgor er mwyn ystyried sefyllfa’r Gymraeg yn y sir. Un o brif alwadau’r mudiad yn lleol yw sicrhau rhagor o addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir.
Nid oes yr un ysgol uwchradd benodedig Gymraeg ym Mhowys gyda nifer o blant yn gorfod teithio allan o’r sir. Mae bygythiadau i’r ddarpariaeth Gymraeg yn ysgol uwchradd Aberhonddu yn ogystal.
Ymysg y siaradwyr yn y brotest mae'r cerddor a chyn-gadeirydd y Gymdeithas Dafydd Iwan ynghyd â’r bardd ac ymgyrchydd lleol Arwyn Groe.
Yn siarad cyn y brotest, dywedodd Elwyn Vaughan ar ran Cangen Maldwyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae gwir angen arweiniad gan y cyngor ar addysg.
“Yn y bôn, dyw’r system addysg ddim yn cynhyrchu digon o siaradwyr Cymraeg i sicrhau twf yr iaith yn yr ardal. Mae hynny wrth wraidd problemau’r iaith yn yr ardal a does dim gweithredu brys ar y mater.
“Mae angen ysgolion Cymraeg yn yr ardal, ac fel mae gweledigaeth miliwn o siaradwyr y Gymdeithas yn datgan mae sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bawb yn allweddol.
“Yr hyn sydd angen yw un continwwm statudol mae pob ysgol, gynradd ac uwchradd, yn mynd i fyny, sy’n golygu bod holl ddisgyblion y sir yn derbyn canran cynyddol o’u haddysg drwy’r Gymraeg.”
Mae aelodau lleol Cymdeithas yr Iaith hefyd yn pwyso am newidiadau i gynllun datblygu lleol y sir megis: dosbarthiad datblygiadau tai i adlewyrchu anghenion lleol, lleihau’r cyfanswm o 6,071 o dai, comisiynu ymchwil annibynnol i effaith datblygiadau diweddar yng nghadarnleoedd y Gymraeg yn y sir, ac asesiadau iaith ar ddatblygiadau newydd
Wrth sôn am faterion cynllunio, ychwanegodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau cynaliadwy’r mudiad, sy’n byw ym Machynlleth: “Mae profiad Powys yn debyg i nifer o ardaloedd – dyw’r cynlluniau ddim yn adlewyrchu anghenion lleol.
“Mae’r ffordd mae targedau tai yn cael eu gosod yn broblem ledled Cymru. Mae’n dda bod y sir yn cydnabod maint y bygythiad i gymunedau Cymraeg, ond, mae angen i gynllun datblygu’r cyngor sir adlewyrchu’r angen lleol, a bod yn arf i atgyfnerthu’r Gymraeg yn hytrach na’i thanseilio.
“Dyna pam ei fod yn bwysig bod pobl yn gyrru neges glir i’r cyngor bod rhaid cryfhau’r ffordd mae’n ystyried y Gymraeg.”
Llun: Tamsin Davies