Mwy o Newyddion
Rhaid i'r Llywodraeth wneud mwy i daclo cyflogau prif weithredwyr
Mae Jonathan Edwards AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, wedi beirniadu Llywodraeth y DU am fethu gwneud digon i daclo cyflogau prif weithredwyr wrth i ffigyrau newydd gan yr High Pay Centre ddangos fod cyflog prif weithredwr ar gyfartaledd 183 gwaith yn fwy na chyflog gweithwyr.
Galwodd Mr Edwards, sydd wedi dadlau'r achos dros reoleiddio cyflogau gweithwyr y Ddinas yn fwy effeithiol, y ffigyrau newydd yn "warthus" gan ddweud fod yr angen am gyflog byw go-iawn ac apwyntio gweithwyr i fyrddau cyflog yn fwy nag erioed er mwyn sicrhau mwy o atebolrwydd o fewn cwmniau.
Ychwanegodd y dylai'r DG ystyried mabwysiadu'r arfer fydd yn cael ei gyflwyno yn UDA yn 2017 fydd yn gorfodi cwmniau i gyhoeddi cyfraddau cyflog prif weithredwyr a chyfartaledd cyflog y gweithlu.
Dywedodd Jonathan Edwards AS: "Mae ffigyrau heddiw yn dangos fod prif weithredwyr cwmniau'r FTSE 100 yn parhau i gael eu talu symiau anferth o arian tra bod nifer o'i gweithwyr yn gweld dim cynnydd eu y cyflogau.
"Heb sôn am y ffaith nad oes unrhyw reswm yn y byd dros dalu 183 gwaith yn fwy i Brif Weithredwr nag i weithiwr cyffredin, mae'r ffigwr wedi codi o 148 gwaith y llynedd a 146 y flwydydn flaenorol.
"Yn 2013 rhoddais groeso i gynllun y llywodraeth i gadw llygad fwy manwl ar gyflogau prif weithredwyr. Yn anffodus, fel y dengys ymchwil pwysig yr High Pay Centre heddiw, nid oedd y cynlluniau hyn yn mynd hanner digon pell ac yn wir mae'r broblem yn gwaethygu.
"Mae Plaid Cymru wedi dadlau'r achos dros gyflog byw go-iawn ers blynyddoedd - nid yr ymdrech ail-frandio gafwyd gan y Canghellor yn ei Gyllideb - er mwyn sicrhau nad yw unrhyw weithiwr yn gorfod crafu byw ar gyflog isel.
"Rydym hefyd eisiau gweld gweithwyr cyffredin yn cael eu hapwyntio i bwyllgorau cyflog er mwyn gwneud cwmniau a phrif weithredwyr yn fwy atebol i'r rheiny sy'n rhan mor allweddol o'i llwyddiant.
"O 2017 ymlaen yn UDA, bydd disgwyl i gwmniau gyhoeddi'r gwahaniaeth rhwng cyflog y Prif Weithredwr a chyfartaledd cyflog y gweithlu. Bydd hyn yn sicrhau fod y cwmni yn gweithredu mewn modd mwy tryloyw ac rwy'n annog Llywodraeth y DG i roi ystyriaeth o ddifri i fabwysiadu'r arfer yma.
"Gydag anghyfartaledd y wladwriaeth Brydeinig yn tyfu - ar lefel unigol a daearyddol - allwn ni ddim anwybyddu'r mater hwn sydd eisoes allan o reolaeth. Rhaid i'r Ceidwadwyr gyflwyno newidiadau arwyddocaol yn y flwyddyn seneddol newydd - os ydynt yn methu gwneud hyn yna byddant ond yn rhoi hwb i'w delwedd fel plaid yr un y cant."