Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Awst 2015

Perchnogion cŵn yn wynebu dirwyon ar draethau lle na chaniateir cŵn

Gallai swyddogion gorfodi sydd ar batrol yr wythnos hon roi eu hysbysiadau cyntaf o gosb benodol o £60 i berchnogion cŵn sy'n caniatáu i'w hanifeiliaid anwes grwydro ar draethau lle na chaniateir cŵn.

Daeth cyfnod rhybudd o wythnos i ben dros y penwythnos a bydd unrhyw un a ddelir â'u hanifeiliaid anwes ar un o nifer o draethau lle na chaniateir cŵn bellach yn wynebu dirwy.

Bydd traethau lle na chaniateir cŵn ar waith yn Abertawe ac mewn ardaloedd yng Ngŵyr rhwng mis Mai a diwedd mis Medi er mwyn rhoi'r cyfle i deuluoedd fwynhau amser ar y traeth heb i gŵn darfu arnynt.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant: "Rydym am i bawb sy'n byw yn Abertawe, neu sy'n ymweld â hi, fwynhau ein traethau rhyfeddol.

"Mae llawer o arwyddion ar fannau mynediad i draethau a meysydd parcio i roi gwybod i berchnogion cŵn yn y traethau yr effeithir arnynt. Ond mae digon o draethau lle gall cŵn redeg yn rhydd a gall perchnogion sy'n defnyddio'r traethau hynny ac sy'n codi baw eu hanifeiliaid anwes fod yn hyderus na fyddant yn wynebu hysbysiad o gosb benodol."

Bydd perchnogion nad ydynt yn codi baw eu hanifeiliaid anwes yn wynebu dirwy o £70.

Bu'r is-ddeddf sy'n gwahardd cŵn o rai ardaloedd o draethau ym Mae Abertawe, Bracelet, Limeslade, Rotherslade, Langland, Caswell a Phorth Einon ar waith ers mwy nag 20 mlynedd ac mae llawer o ymwelwyr rheolaidd â thraethau'n gyfarwydd â hi.

Mae arwyddion sy'n amlygu lleoliadau'r traethau lle na chaniateir cŵn i'w gweld ger pob un ohonynt, gan gynnwys y meysydd parcio agosaf.

Mae taflenni wedi'u dosbarthu i fusnesau ac maent ar gael yn y Ganolfan Croeso yn ogystal ag yn adeiladau'r cyngor, gan gynnwys y Ganolfan Ddinesig. Hefyd, mae mwy o wybodaeth ar y wefan hon: www.abertawe.gov.uk/article/3988/Cwn-ar-y-Traeth  

Rhannu |