Telerau defnyddio

Y Cymro – Termau ac Amodau

Endid masnachol o fewn Tindle Newspapers Ltd., ydi www.y-cymro.com. Mae Tindle Newspapers Ltd. yn is-gwmni sydd dan berchnogaeth lawn Tindle Newspapers Ltd., The Old Courthouse, Union Road, Farnham, Surrey, GU9 7PT. Rhif cofrestru'r cwmni 3622931 Lloegr a Chymru. Rhif TAW 713 6835 32.

I ddibenion y polisi hwn, mae unrhyw gyfeiriad at www.y-cymro.com yn cynnwys pob papur newydd, gwefan ac unrhyw gyfrwng arall sy'n cael ei gynhyrchu gan www.y-cymro.com. Mae cyfeiriadau at wefan www.y-cymro.com hefyd yn cynnwys pob gwefan arall o fewn portffolio ar-lein www.y-cymro.com .

Mae mynediad i, a defnydd o www.y-cymro.com o fewn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, yn cael ei ddarparu gan Tindle Newspapers Ltd. (Fe all defnyddwyr y wefan weld rhai hysbysebion ar ambell dudalen sy'n cael eu darparu gan Tindle Newspapers Ltd. ar y telerau canlynol:

  1. O ddefnyddio www.y-cymro.com, rydych chi'n cael eich clymu gan y termau hyn, sy'n dod yn weithredol yn syth y tro cyntaf y defnyddiwch chi www.y-cymro.com .
     
  2. Fe all Tindle Newspapers Ltd. newid y termau hyn o dro i dro, ac fe ddylech chi ail-ddarllen y telerau hyn yn rheolaidd. Fe fydd eich defnydd cyson o www.y-cymro.com yn cael ei weld fel derbyniad o'r termau diwygiedig. Os nad ydych yn cytuno â'r newidiadau, fe ddylech roi'r gorau i ddefnyddio'r wefan. Os oes yna unrhyw wrthdaro rhwng y termau hyn ac unrhyw dermau lleol sy'n ymddangos yn rhywle arall ar www.y-cymro.com (yn cynnwys y rheolau golygyddol), yna yr olaf sy'n cario'r dydd.

    Defnyddio www.y-cymro.com
  3. Rydych chi'n cytuno i ddefnyddio www.y-cymro.com at ddefnydd cyfreithlon yn unig ac mewn modd sydd ddim yn amharu ar, yn rhwystro nac yn gwahardd defnydd a mwynhad rhywun arall o www.y-cymro.com. Mae ymddygiad annerbyniol yn cynnwys harasio, achosio anesmwythyd neu anghyfleustra i unrhyw unigolyn, cyhoeddi cynnwys anweddus neu gynnwys sy'n amharu ar ddeialog naturiol o fewn www.y-cymro.com .

    Eiddo Deallusol
  4. Mae pob hawlfraint, nod masnachu, hawliau dylunio, patentau a hawliau eiddo deallusol eraill (cofrestredig ac anghofrestredig) yn ac ar www.y-cymro.com a holl gynnwys (yn cynnwys pob cymhwysiad) ar y safle yn aros yn rhan o Tindle Newspapers Ltd. neu unrhyw un sy'n drwyddedig ganddo (yn cynnwys defnyddwyr eraill). Nid oes hawl copïo, atgynhyrchu, ail-gyhoeddi, datgymalu, lawrlwytho, postio, darlledu na gwneud ar gael i'r cyhoedd, na fel arall ddefnyddio cynnwys www.y-cymro.com mewn unrhyw fodd, oni bai am ddefnydd personol, anfasnachol. Rydych hefyd yn cytuno i beidio ag addasu, altro na chreu gwaith sy'n deillio o unrhyw gynnwys ar www.y-cymro.com oni bai ei fod at ddefnydd personol, anfasnachol. Mae angen caniatad ysgrifenedig gan Tindle Newspapers Ltd. cyn gwneud unrhyw ddefnydd arall o gynnwys www.y-cymro.com .
     
  5. Mae enwau, delweddau a logos Tindle Newspapers Ltd. neu eraill a'u cynnyrch a'u gwasanaethau yn ddaryngostyngedig i hawlfraint, hawlio dylunio a nodau masnachu Tindle Newspapers Ltd a/neu drydydd parti. Ni ddylid cymryd unrhyw gymal o'r termau hyn i olygu bod trwydded i ddefnyddio unrhyw un o nodau masnachu, hawl dylunio na hawlfraint Tindle Newspapers Ltd nac unrhyw drydydd parti.

    Cyfraniadau i Tindle Newspapers Ltd.
  6. Gan rannu unrhyw gyfraniad (yn cynnwys unrhyw neges destun, ffotograffau, graffeg, fideo neu glywedol) gyda Tindle Newspapers Ltd., rydych chi'n cytuno i roi'r caniatad i Tindle Newspapers Ltd., yn rhad ac am ddim, ddefnyddio'r cyfraniad hwnnw mewn unrhyw fodd (gan gynnwys ei addasu a'i ddiweddaru ar gyfer pwrpas gweithredol a golygyddol) i wasanaethau Tindle Newspapers Ltd. mewn unrhyw gyfrwng dros y byd (yn cynnwys ar wefannau Tindle Newspapers Ltd. sy'n cael eu defnyddio gan ddefnyddwyr rhyngwladol). Mewn ambell sefyllfa, fe allai Tindle Newspapers Ltd. hefyd rannu eich cyfraniad gyda thrydydd parti fyddai â diddordeb ynddo.
     
  7. Mae'r hawlfraint ar eich cyfraniad yn aros gyda chi, ac nid yw caniatau'r hawl hwn yn golygu na allwch barhau i ddefnyddio'r deunydd mewn unrhyw fodd, yn cynnwys caniatau i bobl eraill ei ddefnddio.
     
  8. Er mwyn i Tindle Newspapers Ltd. allu defnyddio eich cyfraniad, rydych chi'n cadarnhau mai eich gwaith gwreiddiol chi ydi'r cyfraniad; ac nad ydyw'n sarhau neb arall nac yn torri unrhyw gyfreithiau'r Deyrnas Unedig; bod ganddoch chi yr hawl i roi caniatad i Tindle Newspapers Ltd. ei ddefnyddio ar gyfer y pwrpasau uchod; a'ch bod wedi sicrhau caniatad unrhyw berson sy'n cael ei enwi neu ei adnabod yn eich cyfraniad, neu ganiatad rhiant/gwarchodwr os ydyn nhw dan 16 oed.
     
  9. Mae'n arferol i ni roi eich enw gyda'r cyfraniad, os nad ydych chi'n gofyn i ni beidio, ond nid ydi hyn bob amser yn bosibl oherwydd rhesymau gweithredol. Fe all Tindle Newspapers Ltd. fod angen cysylltu â chi er mwyn cadarnhau ffeithiau neu am resymau gweinyddol yn ymwneud â'ch cyfraniad, neu mewn perthynas â phrosiectau penodol. Am fanylion llawn ynglŷn â phryd a sut y gallwn ni gysylltu â chi, darllenwch Bolisi Preifatrwydd Tindle Newspapers Ltd. neu unrhyw dermau lleol, lle mae'r rheiny'n berthnasol.
     
  10. Os gwelwch yn dda, peidiwch â rhoi eich hunan nac eraill mewn perygl, na thorri unrhyw gyfreithiau, wrth greu cynnwys y gallech chi ei rannu â Tindle Newspapers Ltd.
     
  11. Os nad ydych chi eisiau rhoi'r hawl sy'n cael ei hamlinellu uchod i Tindle Newspapers Ltd., os gwelwch yn dda, peidiwch â chyfrannu na rhannu eich cyfraniad â www.y-cymro.com .
     
  12. Os oes ganddoch chi unrhyw gwestiynau yn ymwneud â chyfrannu cynnwys i Tindle Newspapers Ltd., yna anfonwch e-bost gan ddefnyddio y rhan Cysylltu â Ni ar y safle.


Amodau Derbyn Hysbysebion

Nid yw cyhoedddwyr Y Cymro Ar-lein a chyhoeddiadau cysylltiedig yn gwarantu cyhoeddi unrhyw hysbyseb ar ddyddiad penodol, er bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i ateb anghenion hysbysebwyr. Fodd bynnag, mae cyhoeddwyr Y Cymro Ar-lein a chyhoeddiadau cysylltiedig yn cadw'r hawl i wrthod cyhoeddi unrhyw hysbyseb, a hynny heb roi rheswm pam.

Tra bod pob gofal yn cael ei gymryd wrth drin gwaith celf hysbysebwyr a deunydd tebyg, nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod na cholled gwaith celf neu ddeunydd tebyg, sut bynnag y digwyddodd hynny.

Mae cyhoeddwyr Y Cymro Ar-lein a chyhoeddiadau cysylltiedig yn argymell maint teip 10 pwynt o leiaf, ac nid ydynt yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am atgynhyrchiad gwael o ganlyniad i faint teip llai y gofynnodd y cwsmer amdano.

Ni fydd cyhoeddwyr Y Cymro Ar-lein a chyhoeddiadau cysylltiedig yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled ariannol a allai ddigwydd oherwydd i hysbyseb beidio ag ymddangos, nac ychwaith am unrhyw golled neu ddifrod sy'n cael ei achosi gan gamgymeriad neu wall yn argraffu'r hysbyseb. Mewn achos lle mae gwall, hepgor darn o'r hysbyseb neu gambrintio, mae cyhoeddwyr Y Cymro Ar-lein a chyhoeddiadau cysylltiedig yn fodlon ail-gyhoeddi'r hysbyseb neu'r rhan berthnasol o'r hysbyseb, neu gynnig ad-daliad, neu addasu cost yr hysbyseb. Ni fydd ail-gyhoeddi, ad-dalu nac addasu pan nad ydi'r gwall, y cambrintio neu'r hepgor yn tynnu'n faterol oddi ar yr hysbyseb. Nid oes yr un amgylchiad lle bydd y cost y gyfrifoldeb ar y cyhoeddwyr am unrhyw wall, cambrintio neu hepgoriad yn fwy nag ad-daliad llawn o'r pris a dalwyd i'r cyhoeddwyr am yr hysbyseb penodol.

Mae termau'r cytundeb rhwng y Newspaper Society a/neu'r Newspaper Proprietors Association ac asiantaethau hysbysebu cydnabyddedig yn cael eu hystyried yn rhan o'r amodau hyn wrth dderbyn archebion hysbysebion ar gyfer eu cyhoeddi gan asiantaethau hysbysebu cydnabyddedig.

Mae'r hysbysebwr yn gwarantu i'r cyhoeddwr fod ei hysbyseb yn cydymffurfio â phob angen deddfwriaethol.

Tra bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i basio ymlaen unrhyw ymatebion i rifau bocs hysbysebwyr cyn gynted â phosibl, nid yw'r cyhoeddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod honedig sy'n codi o ganlyniad i oedi wrth ddelio ag ymatebion, sut bynnag mae hynny'n digwydd.