Mwy o Newyddion
Steve Coogan, Mark Ronson a James Morrison yng Ngŵyl Rhif 6
MAE trefnwyr Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion wedi cyhoeddi y bydd y comedïwr poblogaidd Steve Coogan yn ymddangos yn yr ŵyl fis nesaf.
Bydd Coogan yn trafod ei fywyd a'i yrfa gyda'r newyddiadurwr Amy Raphael ar y Piazza bnawn Sadwrn, 5 Medi.
Hefyd, cyhoeddwyd y bore 'ma y bydd Mark Ronson yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda Asif Kapadia, cyfarwyddwr y ffilm newydd Amy.
Stori anhygoel Amy Winehouse sy'n cael ei adrodd yn y ffilm a bydd cyfle arbennig i'w gweld hi cyn y sesiwn holi ac ateb.
Yn ogystal, mae James Morrison yn ychwanegiad hwyr i'r rhestr o berfformwyr, yn perfformio ar y prif lwyfan am 2.30 ar ddiwrnod olaf yr ŵyl.
Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ym mhentref hudol Portmeirion ar 4-6 Medi.
Mwy o wybodaeth www.festivalnumber6.com
Llun: Mark Ronson