Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Awst 2015

Camau gweithredu yn erbyn gwylanod niwsans yn Abertawe

Mae preswylwyr yn Abertawe wedi croesawu camau gweithredu gan y cyngor a busnesau lleol i helpu i leihau nifer y gwylanod yng nghanol y ddinas.

Lansiodd Cyngor Abertawe ymgyrch sbwriel yn ddiweddar i annog siopwyr yng nghanol y ddinas i beidio â bwydo gwylanod a cholomennod niwsans.

Mae'r cam yn dilyn cwynion gan fusnesau lleol a siopwyr am nifer mawr yr adar trwm sy'n heidio o gwmpas siopwyr ac yn bwydo ar dameidiau o fwyd a deflir i'r llawr.

Mae posteri mawr wedi'u gosod ar finiau ar draws canol y ddinas yn gofyn i'r cyhoedd 'fwydo'r biniau ac nid yr adar'.

Bydd swyddogion gorfodi sbwriel hefyd yn rhoi cosb benodol o £75 i unrhyw un a ddelir yn taflu bwyd ar y llawr.

Meddai Emily Pickard o Ddyfnant: "Cymerodd gwylan fwyd o law fy ffrind gan dorri croen ei llaw wrth wneud hynny. Rwy'n meddwl ei fod yn syniad da i geisio eu hatal rhag dod i ganol y ddinas lle mae pobl yn bwyta." 

Meddai Chris Parsons, masnachwr stryd yng nghanol y ddinas: "Rwy'n gwerthu bwyd yng nghanol y ddinas ac rwy'n gofyn yn aml i'm cwsmeriaid beidio â thaflu bwyd ar y llawr i'r adar. Maent yn niwsans.

"Ni ddaethant yn agos atom pan oeddwn yn blentyn ond nid ydynt yn ein hofni bellach ac maent yn barod iawn i blymfomio pobl am ba fwyd bynnag sydd ganddynt yn eu dwylo. Cyhyd ag y bydd pobl yn parhau i'w bwydo, ni fydd angen iddynt fynd i rywle arall."

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant: "Ein nod yw mynd i'r afael â phroblemau sbwriel yng nghanol y ddinas ac mae hyn yn cynnwys taflu bwyd ar y llawr.

"Rydym wedi cael peth llwyddiant gyda'n tîm gorfodi sbwriel wrth annog siopwyr i ddefnyddio'r biniau a ddarperir.

"Rydym yn gwybod bod bwyd yn denu'r adar i ganol y ddinas, felly rydym am i siopwyr wneud y peth iawn a chael gwared ar eu bwyd dieisiau'n briodol.

"Gobeithio y bydd hyn yn helpu i leihau nifer yr adar yng nghanol y ddinas sy'n achosi niwsans."

Rhannu |