Mwy o Newyddion
Cyflwyno ceisiadau amcanol ar gyfer safleoedd datblygu canol y ddinas
Mae dyluniadau cychwynnol a lluniadau technegol bellach wedi'u cyflwyno gan arbenigwyr adfywio sy'n cystadlu am y cyfle i drawsnewid canol dinas Abertawe.
Mae'r dogfennau manwl cyfrinachol sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn rhan o geisiadau amcanol y mae pob datblygwr ar y rhestr fer wedi'u rhoi ynghyd ar gyfer safleoedd y Ganolfan Ddinesig a Dewi Sant
Bydd Cyngor Abertawe nawr yn cynnal mwy o drafodaethau gyda phob datblygwr ar y rhestr fer i gyfeirio cyflwyno ceisiadau terfynol ym mis Medi.
Yna, caiff ceisiadau terfynol eu hystyried yn fanwl cyn penodi un neu fwy o bartneriaid datblygu erbyn diwedd y flwyddyn.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rwy'n gwybod bod pobl yn awyddus i weld y cynigion newydd ar gyfer canol y ddinas, ond mae'r hyn sydd wedi'i gyflwyno'n gyfrinachol ar y cam hwn oherwydd ein bod mewn trafodaethau o hyd gyda'r datblygwyr sydd ar y rhestr fer, ac ni wnaed unrhyw benderfyniadau. Ond rydym yn gwneud cynnydd sylweddol ac yn dal i fod ar y trywydd iawn i benodi un neu fwy o bartneriaid datblygu erbyn diwedd mis Tachwedd, y mae eu syniadau'n diwallu ein dyheadau orau yn ein tyb ni, ac yn adeiladu ar gymeriad unigryw Abertawe.
"Nid y cynlluniau sy'n cael eu cynnig yn unig sy'n drawiadol ac yn gyffrous. Nid yw rhai o'r manwerthwyr a'r brandiau adnabyddus a allai o bosib symud i ganol dinas Abertawe dan y cynigion a gynigir i'w cael yn unman y tu allan i Lundain ar hyn o bryd. Mae hyn yn arbennig o galonogol oherwydd gallai gryfhau enw da Abertawe am unigrywiaeth a helpu i greu canol dinas unigryw.
"Y flwyddyn nesaf, ar ôl cwblhau'r broses penodi datblygwr, byddwn mewn sefyllfa i ddechrau rhannu cynlluniau gyda'r cyhoedd a bydd yn caniatáu digon o gyfleoedd ar gyfer adborth. Mae cael canol dinas ffyniannus yn Abertawe nid yn unig yn bwysig i Abertawe - mae ganddo rôl allweddol i'w chwarae o ran economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe hefyd."
Mae datblygiad defnydd cymysg yn cael ei gynnig ar gyfer safle Dewi Sant a allai gynnwys lleoedd manwerthu, hamdden a swyddfeydd. Mae cynigion amlinellol ar gyfer safle'r Ganolfan Ddinesig, sydd wedi'i argymell fel y prif safle o statws blaenoriaeth cenedlaethol yng Nghymru mewn adroddiad a luniwyd ar gyfer Bwrdd Dinas-ranbarth Bae Abertawe, yn cynnwys datblygiadau twristiaid a mannau cyhoeddus o safon.
Gofynnir i ddatblygwyr hefyd sut byddent yn mynd ati i gysylltu'r ddau safle mewn modd blaengar.
Mae'r cynigion ar y rhestr fer y bydd Cyngor Abertawe yn eu hystyried yn cynnwys cyflwyniad gan Bellerophon, sy'n arwain cais consortiwm sy'n cynnwys M&G (Prudential), Dawnus Construction ac SSE & Apollo (IMAX). Caiff ceisiadau gan Queensberry Real Estate, Rightacre/Exemplar, Rivington Land ac Acme, a Trebor Developments eu hystyried hefyd.