Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Awst 2015

Twristiaeth yn werth dros £390 miliwn y flwyddyn i economi Bae Abertawe

Mae ffigurau newydd hynod gadarnhaol yn dangos y bu twristiaeth yn werth mwy na £390 miliwn i economi Bae Abertawe y llynedd.

Mae'r ffigurau ar gyfer 2014 sydd newydd gael eu rhyddhau gan STEAM (Model Gweithgareddau Economaidd Twristiaeth Scarborough) yn dangos cynnydd o 5.35% o ran gwariant ymwelwyr o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd nifer yr ymwelwyr a ddaeth i Fae Abertawe hefyd wedi cynyddu i 4.47 miliwn - cynnydd o 2.8% ar 2013. Arhosai mwy na 1.5 miliwn o'r ymwelwyr hyn yn yr ardal am wyliau neu seibiant byr - cynnydd o 9.4% ar y flwyddyn flaenorol.

O ganlyniad i hyn, cefnogir 5,910 o swyddi gan y diwydiant twristiaeth bellach - mae hynny'n gynnydd calonogol iawn o 5.2% ers 2013.

Dangosodd arolwg diweddar, a gynhaliwyd ym Mae Abertawe hefyd, fod boddhad ymwelwyr yn 97%, ac mae'r raddfa llenwi llety ar ei gorau ers degawd.

Mae Cyngor Abertawe wedi arwain nifer o ymgyrchoedd i ddenu cynifer o ymwelwyr sy'n gwario mwy i Fae Abertawe â phosib. Mae'r ymgyrchoedd hyn wedi cynnwys gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant twristiaeth lleol i ddenu a derbyn newyddiadurwyr a blogwyr o nifer o gyhoeddiadau a rhaglenni adnabyddus fel Coast Magazine, Countryfile, y Radio Times, y Daily Mail, y Daily Star, cylchgrawn Grazia a'r Daily Express.

Rhoddwyd sylw i nifer o fusnesau lleol o ganlyniad i gynnal ymweliadau, gan gynnwys y Grape and Olive, Caffi TwoCann, Surf GSD, Canolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360, Gwesty Morgans a man geni Dylan Thomas.

Meddai Catherine Cann, o Gaffi TwoCann yn ardal SA1 y ddinas, "Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â thîm twristiaeth y cyngor wrth gynnal ymweliadau amrywiol gan newyddiadurwyr ac, o ganlyniad, bu sylw gwych i'n busnes mewn amrywiaeth eang o gyhoeddiadau - ar-lein ac oddi ar-lein. Mae'r ymweliadau'n ffordd wych o arddangos Caffi TwoCann a'r lleoliad yn gyffredinol i gynulleidfa ehangach, felly rydym wrth ein boddau i fod yn rhan o'r ymgyrch. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at barhau i helpu i hyrwyddo Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr i ymwelwyr posib yn y dyfodol."

Mae ymgyrch gyfryngau awyr agored greadigol o'r enw Eiliadau Bae Abertawe hefyd wedi defnyddio posteri trawiadol yn dangos mannau prydferth fel Bae Rhosili mewn lleoliadau allweddol, fel Rheilffordd Danddaearol Llundain, gorsaf drenau Victoria ym Manceinion a gorsaf drenau Parkway Lerpwl.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, "Rydym mor ffodus yma yn Abertawe i fyw ar arfordir gyda nifer o draethau arobryn, cefn gwlad godidog a golygfeydd o'r radd flaenaf. Mae Bae Abertawe'n amffitheatr naturiol i dwristiaeth, ond nid yw ymwelwyr yn dod yma ar hap yn unig. Dyna pam rydym mor greadigol â phosib wrth greu syniadau am ymgyrchoedd newydd a fydd yn sicrhau bod Abertawe'n ddewis amlwg pan fydd pobl yn trefnu eu gwyliau. 

"Mae Cynllun Rheoli Cyrchfannau ar waith sy'n sicrhau ein bod ni'n gweithio'n agosach nag erioed gyda busnesau twristiaeth lleol a sefydliadau twristiaeth eraill i barhau i wella profiad ymwelwyr yma ac annog cynifer o ymwelwyr, hen a newydd, â phosib i ddod i Fae Abertawe. Lluniwyd hyn ar ôl ymchwil helaeth ymysg twristiaid a phobl sy'n gweithio yn niwydiant twristiaeth cynyddol Bae Abertawe.  Er gwaethaf y ffigurau hynod galonogol, mae hyn yn dangos ein bod ni'n benderfynol o barhau i wella wrth i ni geisio estyn amlygrwydd byd-eang Bae Abertawe.

"Byddwn yn parhau i fanteisio ar bopeth y mae ein hamgylchedd naturiol ac adeiledig yn ei gynnig, ynghyd â chyfleoedd i godi ein proffil fel cysylltiad Abertawe â brand byd-eang yr Uwch-gynghrair, sydd wedi'i hen sefydlu bellach.  Dyma pam y cyflwynir ymgyrchoedd i annog pobl i ymweld â Bae Abertawe yng nghadarnleoedd pêl-droed y DU. Rydym hefyd yn ymdrechu i sicrhau bod gennym nifer o ddigwyddiadau angori blynyddol mawr a fydd yn denu pobl flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yna gallwn weithio o gwmpas y digwyddiadau mawr hyn gyda threfnwyr digwyddiadau eraill i gyflwyno rhaglen ddigwyddiadau hynod amrywiol drwy gydol y flwyddyn.

Mae ymgyrchoedd Eiliadau Bae Abertawe eraill wedi cynnwys cyfres o fideos sy'n canolbwyntio ar themâu fel bwyd a diod, diwylliant, profiadau a rennir, darganfyddiadau anhygoel ac anturiaethau awyr agored ym Mae Abertawe. Mae rhai o'r fideos yn dangos ymateb pobl i brofiadau ym Mae Abertawe, boed hynny'n tynnu eu llaw drwy'r dŵr oddi ar Benrhyn Gŵyr, gweld Bae'r Tri Chlogwyn am y tro cyntaf, cerdded i'w sedd yn Stadiwm Liberty cyn gêm Uwch-gynghrair neu flasu cocos ym Marchnad Abertawe.

Rhannu |