Mwy o Newyddion
-
Rhybudd dros doriadau pellach i'r heddlu
10 Medi 2015Mae Liz Saville Roberts AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd wedi ymateb i ddatganiad Llywodraeth y DG ar wirfoddolwyr yr heddlu gan ddadlau y bydd creu'r rolau newydd hyn yn "esgus" i gyfiawnhau toriadau pellach, a chyhuddo San Steffan o geisio adfer problem ddyfnach gyda datrysiad dros-dro. Darllen Mwy -
Terfyn cyflymder 20 mya i ysgolion Cymru
10 Medi 2015MAE Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth wedi cyhoeddi rhaglen tair blynedd gwerth £4.5 miliwn i wella diogelwch dros 40 o ysgolion sydd wedi’u lleoli ar gefnffyrdd Cymru, yn bennaf trwy ddefnyddio terfyn cyflymder rhan-amser 20 mya. Darllen Mwy -
Addysg Gymraeg yn Sir Benfro: Pam cael ymgynghoriad o'r newydd?
10 Medi 2015Mae caredigion y Gymraeg wedi codi cwestiynau wrth i Gyngor Sir Penfro ymgynghori o'r newydd am ad-drefnu addysg Gymraeg yng Nghanol a Gogledd Orllewin y sir mewn cyfarfod arbennig o'r Cyngor heddiw.. Darllen Mwy -
Aur Dwbl i Gymru yng Ngwobrau'r Great Taste
09 Medi 2015Mae dau gwmni o Gymru yn dathlu heddiw ar ôl ennill un o brif wobrau bwyd y DU. Darllen Mwy -
Ni ddylid torri ar drael plismona cefn gwlad medd AS
09 Medi 2015Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts AS, yn galw ar y Llywodraeth i wneud eu gorau glas i warchod cyllideb plismona cefn gwlad, o flaen adolygiad gwariant a allai arwain at 22,000 o heddweision yn colli eu swyddi. Darllen Mwy -
Awyrennau di-beilot pedair gerbron llys barn
09 Medi 2015Ddydd Iau, 17 Medi, yn Llys Ynadon Caernarfon, am ddeg o'r gloch, bydd pedair merch, Sian ap Gwynfor, Anna Jane, Angharad Tomos ac Awel Irene, yn ymddangos ar gyhuddiad o beri difrod troseddol. Darllen Mwy -
Cefnogi gwaharddiad ar fwyd o anifeiliaid wedi’u clonio
09 Medi 2015Mae Senedd Ewrop wedi cymeradwyo cyfraith ddrafft UE fyddai’n gwahardd clonio anifeiliaid fferm a bwydydd a ddaeth ohonyn nhw a’u disgynyddion, gan gynnwys mewnforion hefyd. Darllen Mwy -
Llŷr Williams yn ôl ar ei domen ei hun
09 Medi 2015Ganol yr haf roedd Llŷr Williams yn cyfeilio fel arfer yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd. Darllen Mwy -
Prifysgol Aberystwyth yw’r Brifysgol fwyaf diogel yng Nghymru
08 Medi 2015Prifysgol Aberystwyth yw’r lleoliad mwyaf diogel yng Nghymru i fod yn fyfyriwr yn ôl The Complete University Guide 2015 sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, ddydd Llun 7 Medi. Darllen Mwy -
Rhaid peidio defnyddio'r argyfwng ffoaduriaid fel esgus i fomio Syria
08 Medi 2015Mae Leanne Wood AC Arweinydd Plaid Cymru wedi ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog ar yr argyfwng ffoaduriaid gan rybuddio na ddylid ei ddefnyddio fel esgus i lansio ymgyrch fomio yn Syria. Darllen Mwy -
Leanne Wood: “Gall Plaid Cymru wireddu potensial Cymru”
07 Medi 2015Wrth lansio ymgynghoriad polisi ei phlaid o flaen etholiad Cynulliad fis Mai'r flwyddyn nesaf, mae disgwyl y bydd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud fod Llafur wedi llywyddu dros “16 mlynedd sydd wedi eu gwastraffu” a bod yr amser wedi dod i roi terfyn ar eu harferiad o reoli dirywiad yn yr economi a gwasanaethau cyhoeddu Darllen Mwy -
Dylid dangos delweddau mwy graffig o ryfel a'i effeithiau
04 Medi 2015Mae arweinydd Cristnogol Cymreig a chyn-ddarlledwr gyda’r BBC yn dweud y dylid dangos delweddau mwy graffig o ryfel a'i effeithiau yn y wasg a'r cyfryngau, er mwyn i’r cyhoedd weld canlyniadau gweithredu milwrol a'i gost ddynol. Darllen Mwy -
Defnydd o fagiau plastig wedi gostwng 71%
04 Medi 2015Yn ôl adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, mae’r defnydd o fagiau siopa untro wedi gostwng 71% yng Nghymru ac mae rhwng £17 miliwn a £22 miliwn wedi’i gasglu ar gyfer achosion da. Darllen Mwy -
Cynlluniau ar gyfer cerdyn llyfrgell i Gymru gyfan i wella gwasanaethau ac arbed arian
04 Medi 2015Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun i gyhoeddi cerdyn llyfrgell i Gymru gyfan er mwyn i bobl gael defnyddio gwasanaethau llyfrgell ym mhob rhan o’r wlad a sicrhau arbedion o 70% i awdurdodau lleol ar eu gwariant. Darllen Mwy -
Galw ar y MoD i roi'r gorau i hedfan awyrennau isel dros Feirionnydd
04 Medi 2015Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Amddiffyn yn galw arnynt i gymryd camau brys i leihau’r nifer o awyrennau milwrol sy’n hedfan yn isel dros ardaloedd gwledig Cymru, yng nghanol pryder y gall eu presenoldeb parhaus arwain at ddamwain. Darllen Mwy -
Gŵyl Rhif 6 yn cynnig profiad o safon fyd-eang
03 Medi 2015Mae Gŵyl Rhif 6, yn lleoliad unigryw Portmeirion, yn un o’r profiadau o safon fyd-eang y mae Gogledd Cymru’n eu cynnig i ymwelwyr. Dyna a ddywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wrth ymweld â safle’r Ŵyl heddiw. Darllen Mwy -
Sacsoffonydd ifanc yn barod am y Proms
02 Medi 2015Enillydd Gwobr Jazz Cerddor Ifanc y BBC 2014, y sacsoffonydd Alexander Bone yw’r enw diweddaraf i gael ei ddatgelu ar gyfer Proms yn y Parc y BBC ddydd Sadwrn, Medi 12 ym Mharc Singleton. Darllen Mwy -
Leanne Wood yn condemnio “blaenoriaethau anfoesol” y Canghellor ar arfau niwclear
01 Medi 2015MAE Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru, wedi condemnio “blaenoriaethau anfoesol” y Canghellor George Osborne wrth iddo ymweld â Faslane yn yr Alban ddydd Llun ble mae system Trident y DG wedi ei lleoli. Darllen Mwy -
Mynd i'r afael â chwmniau ffonau symudol dros wasanaeth annibynadwy
01 Medi 2015Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams yn annog pobl etholaeth Arfon i leisio eu barn ynglŷn ag ansawdd signal ffonau symudol ar draws y rhanbarth, cyn iddo gyfarfod â rheolwyr y cwmniau sy’n darparu’r gwasanaeth yn Llundain o fewn y mis. Darllen Mwy -
Rasio ym Mae Caerdydd
28 Awst 2015Bydd dyfroedd Bae Caerdydd yn fwrlwm o weithgarwch y penwythnos hwn wrth i ŵyl y banc ola’r haf ddechrau gyda Grand Prix y Môr P1 Cymru. Darllen Mwy