Mwy o Newyddion
-
Caerdydd ar drywydd tyfu’n gartref i Wasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
23 Mehefin 2015Mae Prif-ddinas Ranbarth Caerdydd ar y trywydd i fod un o gartrefi mwyaf cystadleuol y DU ar gyfer y Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol y tu allan i Lundain, meddai Gweinidog yr Economi, Edwina Hart wrth gyfarfod o bobl fusnes heddiw. Darllen Mwy -
Gwariant ar wasanaethau canser yng Nghymru ar ei uchaf erioed
23 Mehefin 2015MAE ffigurau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth yn dangos bod yr arian y mae GIG Cymru yn ei wario ar ganser wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed. Darllen Mwy -
Dem Rhydd Cymru yn lansio ymgyrch i achub S4C
23 Mehefin 2015Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynnal dadl yn y Cynulliad ar ddydd Mercher yn galw ar Lywodraeth Cymru i gysylltu â Llywodraeth y DU ar bwysigrwydd amddiffyn annibyniaeth olygyddol, reolaethol a gweithredol S4C. Darllen Mwy -
Cadwch y momentwm - gwnewch M4 gwell yn flaenoriaeth
23 Mehefin 2015Bydd newid llywodraeth ym Mai 2016 yn gyfle i gael dewis rhatach, cyflymach a gwell i gynlluniau’r Llywodraeth Lafur i afradu £1 biliwn ar ddarn newydd o’r M4 o gwmpas Casnewydd, mynnodd Plaid Cymru. Darllen Mwy -
Prif Weinidog yn dechrau arfer o gosbi gweithwyr ar gyflogau isel
22 Mehefin 2015Mae llefarydd Plaid Cymru ar faterion lles, Hywel Williams AS, wedi rhybuddio y bydd ‘diwylliant o doriadau’ y Prif Weinidog yn profi’n drychinebus i filoedd o bobl di-waith a rhai ar gyflogau isel fydd yn debygol o ddioddef toriadau i’w credydau treth a thaliadau eraill. Darllen Mwy -
Dim tystiolaeth gymhellol bod y Fyddin yn targedu ysgolion mewn ardaloedd tlawd
19 Mehefin 2015Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol wedi adrodd ynghylch deiseb a gyflwynwyd gan Gymdeithas y Cymod, a oedd yn galw am beidio â chaniatáu i’r lluoedd arfog fynd i ysgolion i recriwtio. Darllen Mwy -
Bugail wedi ei benodi ar gyfer prosiect Eryri
19 Mehefin 2015Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru wedi penodi bugail arall i gefnogi ei phrosiect cadwraeth arloesol ar odre’r Wyddfa yng Ngogledd Cymru. Darllen Mwy -
Mynd ag ymgyrch achub Pantycelyn i San Steffan
19 Mehefin 2015Mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards AS, wedi mynd ag ymgyrch achub neuadd preswyl Pantycelyn yn Aberystwyth i Senedd San Steffan drwy osod Cynnig Bore Cynnar yn y Tŷ Cyffredin. Darllen Mwy -
Lansio apêl i roi cymorth i Ghana
19 Mehefin 2015Yng nghynhadledd flynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru a gynhaliwyd yr wythnos hon ym Môn (14-17 Mehefin), cyhoeddwyd cynlluniau’r undeb ar gyfer ei hapêl flynyddol i godi arian i Cymorth Cristnogol. Cynllun Hyrwyddo Iechyd Mamolaeth yn Ghana fydd yn elwa wrth i nod ariannol gael ei osod i’r gronfa o £40,000. Darllen Mwy -
Bydd addewid Lloegr am recriwtio meddygon teulu yn gadael Cymru ar ei hôl hi
19 Mehefin 2015Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio y bydd ymrwymiadau i recriwtio mwy o feddygon teulu yn Lloegr yn gadael Cymru ar ei hôl hi. Darllen Mwy -
Pantycelyn: ffordd ymlaen
19 Mehefin 2015Yn dilyn trafodaethau hir a dwys, mae Syr Emyr Jones Parry, Canghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd y Cyngor wedi cytuno i gyflwyno cynnig sydd wedi ei gytuno ag UMCA ac Undeb y Myfyrwyr, i gyfarfod y Cyngor ddydd Llun 22 Mehefin, sydd yn cynnig ffordd ymlaen ar ddyfodol Pantycelyn. Darllen Mwy -
Sector Annibynnol yn galw am ddatrusiad tymor hir ar gyfer S4C
18 Mehefin 2015Mae TAC, y corff masnach ar gyfer y sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru, wedi anfon llythyr agored at y Canghellor a'r Ysgrifenyddion Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac ar gyfer Cymru, yn gofyn am gyflwyno mesurau i fod o gymorth i’r Sector gan gynnwys strategaeth tymor hir i S4C. Darllen Mwy -
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn penodi cyfarwyddwr artisitig newydd
18 Mehefin 2015Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi mai Caroline Finn sydd wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Artistig newydd y Cwmni. Darllen Mwy -
Dirprwy Weinidog yn amlygu rôl menywod mewn amaeth
18 Mehefin 2015Heddiw, bydd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, yn siarad mewn digwyddiad a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru i annog menywod i gyflawni eu llawn botensial o fewn diwydiant amaeth Cymru. Darllen Mwy -
Iechyd a gofal cymdeithasol yn rhan hanfodol o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus
18 Mehefin 2015Mae cynigion Plaid Cymru ar gyfer ffurf llywodraeth leol yn y dyfodol wedi eu seilio ar yr angen i wella atebolrwydd a chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus, meddai arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood. Darllen Mwy -
Mudiadau iaith yn galw am achub neuadd Pantycelyn
18 Mehefin 2015Mae dros ugain mudiad iaith wedi ysgrifennu at bennaeth Prifysgol Aberystwyth gan bwysleisio gwerth a phwysigrwydd neuaddau preswyl Cymraeg fel pwerdai iaith sy’n atgyfnerthu’r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru, yn sgil y bygythiadau diweddar i neuadd Pantycelyn. Darllen Mwy -
Pobl ifanc yn gofyn i aelodau seneddol weithredu ar newid hinsawdd
18 Mehefin 2015Roedd grŵp o gefnogwyr Cymorth Cristnogol o ogledd Cymru ymysg miloedd o bobl o bob cwr o’r DU fu yn San Steffan wythnos hon (17 Mehefin) yn gofyn i’r Llywodraeth weithredu ym maes newid hinsawdd. Darllen Mwy -
Cyflwyno Coron Eisteddfod Genedlaethol
18 Mehefin 2015Neithiwr cyflwynwyd Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau i Bwyllgor Gwaith lleol yr Eisteddfod. Darllen Mwy -
Prifysgol yn cloi llywydd allan
17 Mehefin 2015Wrth i Y Cymro fynd i'r wasg ddydd Mercher yr wythnos hon, roedd rhai o fyfyrwyr Cymraeg, Prifysgol Aberystwyth, yn dal i feddiannu rhannau o neuadd Gymraeg Pantycelyn. Darllen Mwy -
Y côr-feistr teledu, Gareth Malone yn cyflwyno côr newydd yn Llangollen
12 Mehefin 2015Bydd côr-feistr mwyaf poblogaidd Prydain yn arddangos ei gôr newydd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni. Darllen Mwy