Mwy o Newyddion
-
Plaid yn addo buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf gyda pholisi o ofal plant am ddim
30 Mawrth 2016Bydd ymgeiswyr Plaid Cymru yn etholiad y Cynulliad Helen Mary Jones (Llanelli) a Simon Thomas (Gorllewin Caerfyrddin) heddiw yn ymweld a meithrinfa’r Gamfa Wen yng Nghaerfyrddin i dynnu sylw at addewid y Blaid i gynnig gofal plant am ddim i bob plentyn teirblwydd oed yng Nghymru. Darllen Mwy -
Tocynnau bargen gynnar yr Eisteddfod Genedlaethol ar werth ddydd Gwener
30 Mawrth 2016GYDA phedwar mis yn unig i fynd, gallwch archebu tocynnau bargen gynnar ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau o heddiw ymlaen Darllen Mwy -
Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £10.3m mewn 94 ambiwlans newydd
30 Mawrth 2016Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru’n derbyn 94 cerbyd newydd diolch i £10.3m o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford heddiw. Darllen Mwy -
Yr Eglwys yng Nghymru yn annog pobl i bleidleisio
30 Mawrth 2016Bydd yr etholiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol a Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu trafod mewn cyfarfod allweddol o aelodau’r eglwys yr wythnos nesaf. Darllen Mwy -
Y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei alw yn ôl i drafod diwydiant dur Cymru
30 Mawrth 2016Mae’r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi galw’r Cynulliad yn ôl ar gyfer cyfarfod arbennig i drafod sefyllfa bresennol y diwydiant dur yng Nghymru. Darllen Mwy -
Cyflwynydd Chwaraeon Sky, Dave Clark, yn annog pobl yng Nghymru i Gerdded dros Glefyd Parkinson yn 2016
29 Mawrth 2016Mae Dave Clark, cyflwynydd Sky Sports ac un sy'n gefnogwr brwd i Parkinson's UK yn teimlo ei bod yn 'anrhydedd' lansio'r gyfres Cerdded dros Glefyd Parkinson 2016. Darllen Mwy -
Gostyngiad yn nifer y derbyniadau brys ac arosiadau yn yr ysbyty i gleifion diabetes
29 Mawrth 2016Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod nifer y bobl â diabetes sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty mewn achosion brys wedi gostwng 5% yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf. Darllen Mwy -
Rondo Media yn penodi Sion Clwyd Roberts yn gyfarwyddwr masnachol
29 Mawrth 2016Mae Rondo Media wedi cyhoeddi penodiad Sion Clwyd Roberts i swydd newydd Cyfarwyddwr Masnachol. Bydd Sion yn ymuno â bwrdd cyfarwyddwyr Rondo a bydd yn dechrau yn ei swydd ar y 4ydd o Ebrill. Darllen Mwy -
Prosiect yr UE i gefnogi'r diwydiant dŵr yng Nghymru ac Iwerddon
29 Mawrth 2016Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, wedi cyhoeddi (29 Mawrth) prosiect gwerth £2.5 miliwn, a ariennir gan yr UE, i wella cynaliadwyedd hirdymor y cyflenwad dŵr yng Nghymru ac Iwerddon. Darllen Mwy -
Ffilm gyffrous newydd yn un o 300 o gynyrchiadau a ffilmiwyd yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf
29 Mawrth 2016MAE ffilm gyffrous newydd a fydd yn cael ei rhyddhau y mis nesaf yn un o 300 o gynyrchiadau a ffilmiwyd yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Darllen Mwy -
Galw am sicrwydd o ddiogelwch cefnogwyr pêl-droed Cymru yn dilyn ymosodiad terfysgol Brwsel
24 Mawrth 2016Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cartref i wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu cefnogwyr pêl-droed Cymru sy’n teithio i Bencampwriaeth Euro 2016 yr haf hwn yn Ffrainc, yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ym Mrwsel. Darllen Mwy -
"Gwasanaeth Iechyd Cymru'n helpu pobl i fyw bywydau iachach" - Vaughan Gething
24 Mawrth 2016Mae llai o bobl Cymru'n marw a mwy yn goroesi cyflyrau fel canser, diabetes, strôc a chlefyd y galon, diolch i gamau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i wella gwasanaethau, yn ôl y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething. Darllen Mwy -
Mae’n “hen bryd” gosod isafbris alcohol yng Nghymru, yn ôl astudiaeth newydd
24 Mawrth 2016Mae adroddiad newydd gan Alcohol Concern Cymru yn dangos i ba raddau mae diodydd rhad ar gael ar y stryd fawr yng Nghymru, ac yn pwysleisio’r angen am isafbris am bob uned o alcohol. Darllen Mwy -
Y Dreth Gyngor yng Nghymru yn parhau'n is o lawer na'r Dreth Gyngor yn Lloegr
24 Mawrth 2016Mae'r Dreth Gyngor yng Nghymru yn parhau i fod yn is o lawer nag ydyw yn Lloegr yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw [24 Mawrth 2016]. Darllen Mwy -
Datgan fod modrwyau canoloesol a diweddarach a ddarganfuwyd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn drysor
24 Mawrth 2016CAFODD modrwyau aur ac arian o ddiwedd y cyfnod canoloesol a’r Dadeni eu datgan yn drysor ddydd Iau diwethaf gan Grwner E.M. Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Darllen Mwy -
Trafodaethau’n tanio yng Nghaffi Ymgeiswyr Oxfam Cymru ym Mangor
24 Mawrth 2016Neithiwr trawsnewidwyd siop Oxfam ar Stryd Fawr Bangor i fod yn Gaffi Ymgeiswyr cyn Etholiad Cymru. Darllen Mwy -
S4C yn datgelu amserlen Etholiad 2016
24 Mawrth 2016Gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei ddiddymu'r wythnos hon, fe fydd cyfnod dwys o ymgyrchu'n dechrau ar gyfer Etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ar 5 Mai. Darllen Mwy -
Hwb o £31m gan yr UE ar gyfer cyfleuster cyfrifiadureg o'r radd flaenaf yn Abertawe
24 Mawrth 2016Heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones fuddsoddiad gwerth £31m gyda chefnogaeth yr UE ar gyfer cyfleuster cyfrifiadureg o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe. Darllen Mwy -
S4C yn gwahodd pobl Cymru i fwynhau cystadleuaeth Band Cymru yn Aberystwyth
24 Mawrth 2016Mae cyfle i bobl Cymru fwynhau rhai o fandiau chwyth, pres, a jazz gorau'r wlad yn Aberystwyth - a hynny heb orfod talu ceiniog o'ch 'pres' neu ddarn 'arian' i wneud hynny. Darllen Mwy -
Galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu asesiad diogelwch brys ar ffordd Penrhyndeudraeth
23 Mawrth 2016Mae Cynghorydd Plaid Cymru Penrhyndeudraeth, Gareth Thomas yn galw unwaith eto ar y Gweinidog dros Drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru i gynnal asesiad diogelwch brys o gyffordd yr A487 ger Garej Deudraeth ym Mhenrhyndeudraeth yn dilyn digwyddiad ger y safle am yr ail dro. Darllen Mwy