Mwy o Newyddion
Mae’n “hen bryd” gosod isafbris alcohol yng Nghymru, yn ôl astudiaeth newydd
Mae adroddiad newydd gan Alcohol Concern Cymru yn dangos i ba raddau mae diodydd rhad ar gael ar y stryd fawr yng Nghymru, ac yn pwysleisio’r angen am isafbris am bob uned o alcohol.
Mae’r adroddiad yn crynhoi canlyniadau arolwg o archfarchnadoedd a siopau diodydd mewn chwe thref a dinas ledled Cymru.
Gwelodd yr ymchwilwyr fod alcohol ar werth am gyn lleied â 15½c yr uned, sy’n golygu bod modd prynu 14 uned – yr uchafswm y mae Prif Swyddogion Meddygol Prydain yn argymell y dylai unrhyw un ohonom ei yfed mewn wythnos – am ychydig mwy na £2.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau’n ddiweddar i rwystro gwerthu alcohol yn rhad iawn drwy gyflwyno isafbris o 50c am uned o alcohol. Er mai arolwg fach oedd hon, cofnododd Alcohol Concern Cymru 113 o ddiodydd alcoholaidd gwahanol, gan gynnwys seidr, cwrw, gwinoedd a gwirodydd, ar werth am lai na 50c yr uned.
Yn ôl yr elusen, mae y canlyniadau’r arolwg yn tanlinellu’r angen am isafbris am alcohol yng Nghymru, er mwyn helpu lleihau’r niwed i iechyd sy’n dod o oryfed.
Dywedodd Mark Leyshon o Alcohol Concern Cymru: “Mae ein hastudiaeth ni yn dangos bod isafbris am alcohol mor berthnasol ag erioed.
"Mae’r afiechydon ac anafiadau sy’n deillio o oryfed yn dal i fod yn un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu Cymru.
"Mae staff ein hysbytai’n ymdrin â hyd at fil o achosion sy’n ymwneud ag alcohol bob wythnos. Mae modd olrhain llawer o’r problemau hyn yn ôl at yr alcohol rhad sydd ar werth mewn siopau, a hynny am brisiau llawer is nag a welwch yn y tafarndai.
“Fel arfer, pobl sy’n yfed yn drymach sy’n ffafrio alcohol rhad.
"Oherwydd hyn, yr alcohol rhataf yn y farchnad sy’n cael ei brynu a’i yfed yn y symiau mwyaf, ac sydd felly’n achosi’r niwed mwyaf.
"Byddai cyflwyno isafbris am bob uned yn lleihau’r niwed sy’n dod o alcohol yn sylweddol, drwy newid ymddygiad y rhai sy’n yfed yn drwm, heb gosbi yfwyr cymedrol. Mae’n hen bryd rhoi isafbris am alcohol ar y llyfr statud er lles pob un ohonon ni.”