Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Mawrth 2016

Trafodaethau’n tanio yng Nghaffi Ymgeiswyr Oxfam Cymru ym Mangor

Neithiwr trawsnewidwyd siop Oxfam ar Stryd Fawr Bangor i fod yn Gaffi Ymgeiswyr cyn Etholiad Cymru.

Wedi diwrnod prysur o werthu trawsnewidwyd y siop yn gaffi, gyda thrafodaethau a chwestiynau ar y fwydlen wrth i Oxfam Cymru uno darpar ymgeiswyr lleol o bob un o’r prif bleidiau sy’n sefyll yn y rhanbarth etholiadol â chynulleidfa wahoddedig o rai sydd â phrofiad o dlodi, darparwyr gwasanaethau ac unigolion sy’n gweithio i daclo tlodi yn lleol.

Yng Nghymru, mae 16% o’r boblogaeth yn berchen ar yr un cyfoeth a phawb arall gyda’i gilydd, a dyw cyfraddau cyflog isel heb newid mewn degawd.

Erbyn heddiw mae 23% o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi cymharol ac mae gan hanner o’r rheiny un cyflog yn dod mewn yn barod, tra bod bod i chwarter y gweithlu yng Nghymru yn ennill llai na’r cyflog byw.

Er enghraifft, yng Ngwynedd mae 33.3% o swyddi cyflogedig yn talu llai na’r Cyflog Byw.

Roedd Caffi Ymgeiswyr Oxfam Cymru yn rhoi cyfle i bobl sy’n byw ac yn gweithio ym Mangor a’r cyffiniau i drafod y lefelau tlodi lleol a cenedlaethol hyn, anghydraddoldeb economaidd ac unrhyw faterion eraill sydd yn eu poeni gyda’r darpar ymgeiswyr.

Yr ymgeiswyr lleol yn barod i rannu barn a syniadau ar y noson oedd Aled Roberts, Aelod Cynulliad Gogledd Cymru ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol, Sion Jones, Ymgeisydd Arfon ar gyfer Llafur Cymru a Sian Gwenllian, Ymgeisydd Arfon ar gyfer Plaid Cymru.

Meddai Alison Blott-Asare, Rheolwr Siop Oxfam ym Mangor: “Siopau Oxfam yw wyneb Oxfam yn y gymuned felly roeddem ni wrth ein boddau yn cynnal Caffi Ymgeiswyr cyntaf Oxfam Cymru yn ein siop yma ym Mangor.

"Roedd yn gyfle da i bobl leol ddod draw i leoliad cyfarwydd i rannu eu profiadau, eu barn a’u syniadau a chael cyfle i gael trafodaeth iawn gyda’u hymgeiswyr lleol am yr hyn all gael ei wneud am y tlodi sydd ar ein stepen drws ni.”

Meddai Carys Mair Thomas, Pennaeth Oxfam Cymru: “Mae Etholiad Cymru yn prysur agosau ac rydym eisiau sicrhau bod darpar ymgeiswr wedi cael cyfle i glywed yn uniongyrchol gan bobl sy’n byw yn y cymunedau maen nhw’n eu cynrychioli; pobl sydd â phrofiad o dlodi a chaledi, neu bobl sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi yn y gymuned.

"Dyna pam rydym ni’n cynnal cyfres o bum Caffi Ymgeiswyr, gan ymweld a phob rhanbarth etholiadol yng Nghymru.

“Rydym ni’n gwybod na all Llywodraeth Cymru wneud popeth, ond mi all wneud mwy.

"Mae bron i chwarter teuluoedd Cymru yn ei chael hi’n anodd cael dau pen llinyn ynghyd erbyn hyn; yn ei chael hi’n anodd rhoi pryd poeth ar y bwrdd.

"Sut bynnag mae Llywodraeth nesaf Cymru yn edrych, mae angen iddi weithio i Unioni’r Glorian i bobl Cymru.

“Yn ein Glaslun i Gymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar rydym yn amlinellu nifer o alwadau polisi allai helpu Llywodraeth nesaf Cymru i wneud hyn.

"Mae’r rhain yn cynnwys gwneud Cymru yn Genedl Cyflog Byw wrth sicrhau bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn gyflogwyr Cyflog Byw, a phenodi Dirprwy Weinidog yn Adran Gyllid Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod mynd i’r afael â thlodi yn ystyriaeth ac yn flaenoriaeth i bob adran o fewn y Llywodraeth.”  

Bydd y Caffi Ymgeiswyr nesaf yn cael ei gynnal yn siop Oxfam ar Heol y Castell, Abertawe heno. 

Llun: Aled Roberts, Sian Gwenllian, Alison Blott-Asare, Carys Thomas a Sion Jones

Rhannu |