Mwy o Newyddion
Galw am sicrwydd o ddiogelwch cefnogwyr pêl-droed Cymru yn dilyn ymosodiad terfysgol Brwsel
Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cartref i wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu cefnogwyr pêl-droed Cymru sy’n teithio i Bencampwriaeth Euro 2016 yr haf hwn yn Ffrainc, yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ym Mrwsel.
Wrth ymateb i Ddatganiad yn Nhŷ'r Cyffredin gan yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May, galwodd Liz Saville Roberts AS am sicrwydd fod mesurau yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu cefnogwyr pêl-droed Cymru trwy gydol y twrnament yn Ffrainc.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Hoffwn gydymdeimlo, ynghyd â fy mhlaid, gyda phawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiadau erchyll ym Mrwsel yr wythnos yma.
“Yr haf yma, bydd miloedd o gefnogwyr pêl-droed yn heidio i Ffrainc i gefnogi eu timau yn Ewro 2016, gan gynnwys nifer fawr o Gymru.”
“Mae pryder eisoes wedi ei godi ynglŷn â lefel y risg ar gyfer y twrnament, ac mae digwyddiadau diweddar yn gwasanaethu i'n hatgoffa o’r lefel uchel iawn o ddiogelwch sy'n angenrheidiol i sicrhau fod Ewro 2016 yn llwyddiannus ac yn pasio heb unrhyw anghydfod.
“Erfynaf ar yr Ysgrifennydd Cartref i roi sicrwydd i gefnogwyr pêl-droed sy’n teithio o Gymru, y bydd pob cam yn cael ei gymryd i sicrhau eu diogelwch ar gyfer yr holl gemau yn ystod y twrnament.”