Mwy o Newyddion
Y Dreth Gyngor yng Nghymru yn parhau'n is o lawer na'r Dreth Gyngor yn Lloegr
Mae'r Dreth Gyngor yng Nghymru yn parhau i fod yn is o lawer nag ydyw yn Lloegr yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw [24 Mawrth 2016].
Mae datganiad Llywodraeth Cymru yn dangos y bydd treth gyngor Band D yng Nghymru yn 2016-17 yn £1,374 ar gyfartaledd, sy'n is o lawer na'r cyfartaledd o £1,530 yn Lloegr.
Mae'r cynnydd cyffredinol yn y dreth gyngor ar gyfer band D yng Nghymru yn is na'r ffigur ar gyfer Lloegr, ac eithrio Llundain, yn seiliedig ar amcangyfrifon a gyhoeddwyd gan CIPFA.
Bydd trethdalwyr Cymru yn gweld cynnydd o £47 (3.5%) ar gyfartaledd ar gyfer band D. Mae hyn yn llai o gynnydd nag yn 2015/16, pan roedd y cynnydd yn £52 (4.1%) ar gyfartaledd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi parhau i roi cymorth i'r dros 300,000 o aelwydydd sydd angen help i dalu eu biliau treth gyngor. O'r rhain, nid yw 200,000 ohonynt yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.
Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: "Rydyn ni wedi amddiffyn llywodraeth leol yng Nghymru rhag toriadau gwaethaf Llywodraeth San Steffan am y 5 mlynedd ddiwethaf.
"Eleni, rydyn ni'n cyflwyno setliad llawer iawn gwell na'r disgwyl i Lywodraeth Leol. Er gwaetha'r pwysau ar wasanaethau cynghorau, mae'r Dreth Gyngor yng Nghymru yn parhau i fod £156 y flwyddyn yn is nag yn Lloegr ar gyfartaledd."
Ceir hyd i’r adroddiad llawn ar wefan Llywodraeth Cymru: http://gov.wales/statistics-and-research/council-tax-levels/?skip=1&lang=cy