Mwy o Newyddion
Gostyngiad yn nifer y derbyniadau brys ac arosiadau yn yr ysbyty i gleifion diabetes
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod nifer y bobl â diabetes sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty mewn achosion brys wedi gostwng 5% yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
Mae hyd yr arhosiad mewn ysbyty ar gyfer pobl sydd â diabetes hefyd wedi gostwng ar gyfartaledd, o naw diwrnod i 6.8 diwrnod yn ystod yr un cyfnod.
Mae Adroddiad Blynyddol Cymru gyfan ar Ddiabetes 2015 yn dangos bod mwy o bobl yn gallu rheoli lefel y glwcos yn eu gwaed o ganlyniad i well cyngor gan dimau gofal diabetes.
Gwelwyd cynnydd sylweddol o ran gwella gofal ar gyfer pobl sydd â diabetes yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf. Rhwng 2009-10 a 2014-15, roedd mwy na 30,000 o bobl ychwanegol yng Nghymru wedi cofrestru gyda’u meddyg teulu fel rhai sydd â diabetes. Roedd hwn yn gynnydd o bron i 20%.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos:
- Bod llai o bobl yn marw o glefyd cardiofasgwlaidd, er bod nifer yr achosion yn uchel ymysg pobl â diabetes;
- Bod mwy na 98% o blant a phobl ifanc wedi cael mesur eu HbA1c yn 2013-14;
- Bod rhaglen ThinkGlucose wedi gwella gofal cleifion mewnol sydd â diabetes, gan gynnwys y posibilrwydd o atal eilaidd;
- Bod rhwydwaith diabetes i blant a phobl ifanc wedi cael ei sefydlu yng Nghymru;
- Y buddsoddiad mwyaf erioed mewn seilwaith clinigol diabetes.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi cyfres o gamau gweithredu i sicrhau bod y cynnydd yn parhau. Mae hyn yn cynnwys:
- Lleihau mynychder a nifer yr achosion o ddiabetes math 2;
- Parhau i fynd i’r afael â risgiau o ran ffordd o fyw;
- Cymryd camau i osgoi risgiau ychwanegol cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â diabetes;
- Parhau i gynyddu nifer y plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n cael addysg strwythuredig.
Dywedodd Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd: “Yr hyn sydd bwysicaf i’r bobl yw bod y Gwasanaeth Iechyd yna iddyn nhw pan maen nhw ei angen - gwasanaeth sy’n gwrando, deall ac yn rhoi’r canlyniadau gorau posibl.
"Y canlyniad gorau, wrth gwrs, yw bod pobl yn gallu aros mor iach â phosibl drwy gael y gefnogaeth i reoli eu gofal eu hunain.
"Y canlyniad gorau ar gyfer llawer o bobl sydd â chlefydau hirdymor yw lleihau effaith eu symptomau a, lle bo hynny’n bosibl, eu cadw o’r ysbyty. Mae hi’n wych felly gweld y cynnydd positif y mae GIG Cymru wedi ei wneud yn y maes hwn.”
Dywedodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru: “Mae yna enghreifftiau ardderchog o wasanaethau diabetes yn gwella ledled GIG Cymru tra eu bod yn ymateb i’r galw cynyddol am ofal ar yr un pryd.
“Er hynny, rydyn ni’n parhau i fynd ati i geisio rhoi diagnosis cyflymach a mwy cywir, i rannu’r penderfyniadau ynghylch triniaeth ac i gefnogi hunanreolaeth yn barhaus.”
Llun: Dr Andrew Goodall