Mwy o Newyddion
Galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu asesiad diogelwch brys ar ffordd Penrhyndeudraeth
Mae Cynghorydd Plaid Cymru Penrhyndeudraeth, Gareth Thomas yn galw unwaith eto ar y Gweinidog dros Drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru i gynnal asesiad diogelwch brys o gyffordd yr A487 ger Garej Deudraeth ym Mhenrhyndeudraeth yn dilyn digwyddiad ger y safle am yr ail dro.
Mae’r Cynghorydd Thomas wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru yn holi all swyddogion edrych ar ddiogelwch cerddwyr wrth groesi'r ffordd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng bachgen lleol â cherbyd nôl ym mis Mawrth 2015. Fe’i hedfanwyd i'r ysbyty gan Ambiwlans Awyr.
Yn ôl y Cynghorydd Sir lleol, Gareth Thomas: "Yn ffodus iawn, yn y digwyddiad diweddar yma ni fu gwrthdrawiad, ond dim ond trwch blewyn fuo hi i ddisgybl ysgol gynradd arall fod mewn gwrthdrawiad â fan wrth gerdded i'r ysgol gynradd leol.
"Yn lleol mae pawb ar binnau. Ar un llaw, mae rhyddhad nad oes neb wedi ei anafu, ond ar y llaw arall, mae pawb yn parhau’n bryderus iawn am y rhan yma o'r ffordd.
"Mae plant o dair stâd dai lleol yn croesi’r ffordd ar y gyffordd yma wrth gerdded i’r ysgol, ac mae pobl oedrannus hefyd yn defnyddio'r un gyffordd i gyrraedd y feddygfa a fferyllfa’r dref.
Aed â Hayden Roberts, sydd bellach yn 10 oed, i'r ysbyty mewn Ambiwlans Awyr llynedd yn dilyn gwrthdrawiad ar gyffordd yr A487.
Dywedodd ei fam Rachel Owen o Adwy Ddu ym Mhenrhyndeudraeth: "Roedd hi’n sioc lwyr pan gyrhaeddon ni'r safle i weld ein mab wedi bod mewn damwain ffordd y diwrnod hwnnw - hunllef waethaf pob rhiant,
"Diolch byth, roedd Hayden yn ffodus iawn na chafodd o ddim anafiadau parhaol.
"Roeddem mor ddiolchgar i'r gymuned leol, yr ysgol ac yn enwedig y staff Ambiwlans Awyr a'r ysbyty am eu cefnogaeth.
"Rydym yn llwyr gefnogi galwad ein Cynghorydd lleol ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i sicrhau gwell diogelwch ar y ffordd, yn enwedig gan fod plentyn arall bron â bod mewn gwrthdrawiad arall ychydig wythnosau yn ôl."
Yn ôl y Cynghorydd Thomas: "Fel cymuned rydym eisoes yn teimlo'n ffodus na chafodd Hayden unrhyw anafiadau difrifol llynedd.
"Mae'r digwyddiad diweddaraf yn pwysleisio’r pryder sydd gennym, ac rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i symud ar frys i baratoi asesiad diogelwch cymunedol ar y safle.
"Rwy'n galw ar Edwina Hart, y Gweinidog a'i thîm i flaenoriaethu diogelwch ar y rhan hwn o'r ffordd yn enwedig gan fod Cyngor Gwynedd yn cynnal adolygiad o'r llwybrau diogel i'r ysgol yn y dref a bod y safle yma’n rhan annatod o'r llwybrau yna wrth groesi’r ffordd.
"Mae'r Cyngor eisoes wedi cyflwyno cais at Gronfa 'Llwybrau Diogel mewn Cymunedau' Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau.
"Yn lleol, rydym erfyn yn daer am gynnal asesiad ar frys, gan sicrhau bod unrhyw gamau yn cael eu blaenoriaethu a'u cydlynu trwy'r Llwybrau Diogel yn y gymuned
"Ni allwn fforddio aros am ddigwyddiad arall ar y rhan yma o'r ffordd,” meddai’r Cynghorydd Thomas.