Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Mawrth 2016

Rondo Media yn penodi Sion Clwyd Roberts yn gyfarwyddwr masnachol

Mae Rondo Media wedi cyhoeddi penodiad Sion Clwyd Roberts i swydd newydd Cyfarwyddwr Masnachol.  Bydd Sion yn ymuno â bwrdd cyfarwyddwyr Rondo a bydd yn dechrau yn ei swydd ar y 4ydd o Ebrill.

Fe fydd Sion yn gweithio’n agos gyda chyfarwyddwyr a chynhyrchwyr Rondo er mwyn adnabod cyfleoedd newydd masnachol i’r busnes, gan weithio ar ehangu’r cynnyrch, cynyddu’r prosiectau rhyngwladol a chryfhau’r berthynas gyda phartneriaid dosbarthu’r cwmni.

Daw Sion â phrofiad helaeth o fod wedi ymdrin ag agweddau masnachol y diwydiant creadigol yn dilyn gyrfa lwyddiannus gyda S4C, ITV ac, yn ystod y 6 blynedd ddiwethaf, fel Pennaeth Adran Gyfryngau cwmni cyfreithiol masnachol Capital Law.

Yn gyn is-gadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru, yn aelod o Gyngor TAC, yn gyn-gyfarwyddwr Sefydliad Cerddoriaeth Cymreig, yn gyn is-gadeirydd Pwyllgor Bafta Cymru ac yn aelod cyfredol o gyfarwyddwyr Music Theatre Wales mae profiad Sion ar draws y diwydiannau creadigol yn helaeth tu hwnt.

Yn ystod ei gyfnod gyda Capital Law fe ddatblygodd adran Gyfryngau lwyddiannus yn cynghori cwmniau ac unigolion ar ystod eang o faterion cytundebol, iechyd a diogelwch, amddiffyn plant, hawlfreintiau ac arwain trafodaethau undebol.  Bu hefyd yn cynghori ar ddatblygu, cynhyrchu a dosbarthu ffilmiau theatrig gan gynnwys City Slacker, Being Frank; the Chris Sievey Story ac yn fwyaf diweddar B&B - ffilm a ariannwyd gan Ffilm Cymru, Creative England, buddsoddwyr EIS, buddsoddwr preifat a chredyd treth ffilm.

Cydnabyddwyd Sion gan Legal 500 2015 fel Unigolyn Blaengar ym maes Adloniant a’r Cyfryngau.   Cyn ymuno â Capital Law bu Sion yn Rheolwr Materion Busnes yn ITV gyda chyfrifoldeb elfennau cytundebol dros holl gynnwys rhaglenni Cymru a Gorllewin Lloegr.

Dywedodd Sion Clwyd Roberts:   “Rwy’n hynod falch o’r cyfle i ymuno â Rondo yn ystod y cyfnod allweddol yma. 

"Tra yn Capital Law mae wedi bod yn bleser cyd-weithio gyda’r tim ar sawl prosiect dros y blynddoedd diweddar.  

"Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at ddatblygiad pellach y cwmni ac, yn arbennig at un o is gwmniau Rondo, Yeti Media, wrth ddatblygu cynyrchiadau ar gyfer sianeli rhwydwaith, cyd-gynyrchiadau a dosbarthu rhaglenni’n rhyngwladol.  Mae amrywiaeth y rhaglenni a safon y cynhyrchu o’r radd flaenaf.”

Meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media: “Mae penodiad Sion yn newyddion ardderchog i Rondo. 

"Mi fydd ei arbenigedd ym meysydd masnachol, cyd-gynhyrchu a dosbarthu o fantais sylweddol wrth i ni ddatblygu ac ail-strwythuro’r cwmni ymhellach.

"Mae cyd-gynyrchiadau rhyngwladol a’r gallu i’w dosbarthu yn fyd-eang yn tyfu’n bwysicach ac yn dod â chynnyrch o Gymru at sylw miliynau o wylwyr a defnyddwyr ledled y byd.

"Mae’n gyfle hefyd i ni gyd-weithio gyda dosbarthwyr fel BBC Worldwide, Content Media a Sony. 

"Yn ddiweddar rydym wedi cynhyrchu rhaglenni ar y cyd gyda chwmniau yn Iwerddon a De Corea, a chafwyd ymateb arbennig i’n rhaglen ddogfen ar S4C am hanes y ffotograffydd Philip Jones Griffiths.

"Mae’r cyd-gynhyrchiad hwn, gyda chwmni JTV o Dde Corea, yn cael ei ddosbarthu gan BBC Worldwide.

"Mae ein is-gwmni, Yeti Media yn prysur gwneud marc fel cyflenwr cyfresi a rhaglenni i Channel 4 ac mae Galactig yn ennill gwaith newydd digidol a rhyngweithiol gwerthfawr.  

"Mi fydd Sion yn ased gwerthfawr i’r cwmni wrth i ni weithio ‘mhellach yn y meysydd cyffrous hyn ac yn wyneb y cyfleoedd byd-eang sydd o’n blaenau fel un o’r prif gwmniau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru.” 

Rhannu |