Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Mawrth 2016

Prosiect yr UE i gefnogi'r diwydiant dŵr yng Nghymru ac Iwerddon

Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, wedi cyhoeddi (29 Mawrth) prosiect gwerth £2.5 miliwn, a ariennir gan yr UE, i wella cynaliadwyedd hirdymor y cyflenwad dŵr yng Nghymru ac Iwerddon.

Nod y prosiect Dŵr Uisce yw dosbarthu dŵr yn fwy effeithlon drwy ddatblygu technoleg carbon isel newydd i arbed ynni, gan gynnwys defnyddio microdyrbinau pŵer dŵr.

Bydd y dechnoleg yn cael ei threialu yn y ddwy wlad cyn cael ei lansio yn y farchnad fasnachol.

Nod arall y prosiect yw datblygu gallu'r diwydiant dŵr i arloesi drwy ymchwilio sut y gall arferion newydd ymateb i'r heriau yng Nghymru ac Iwerddon sy'n deillio o newidiadau yn yr amgylchedd a'r hinsawdd.

Dan arweiniad Coleg y Drindod Dulyn mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, mae'r prosiect pum mlynedd wedi cael £2 miliwn o gronfeydd yr EU drwy ei raglen gydweithredu Cymru-Iwerddon.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid: "Mae’r rhaglen Cymru-Iwerddon yn bartneriaeth unigryw rhwng ein dwy wlad sy'n darparu platfform gwych ar gyfer busnes ac i fynd i'r afael â'r heriau cyffredin a'r cyfleoedd sydd ar gael ar bob ochr i’n ffin môr."

“Mae'r rhaglen hefyd yn ffynhonnell werthfawr arall o fuddsoddiad gan yr EU, a dw i wrth fy modd y bydd £2 miliwn o gronfeydd yr UE yn galluogi Coleg y Drindod yn Nulyn a Phrifysgol Bangor i ddatblygu prosiect sydd â chymaint o botensial pwysig ar gyfer ein diwydiant dŵr."

Dywedodd Stephen Blair, Cyfarwyddwr Cynulliad Rhanbarth De Iwerddon: “Enghraifft ardderchog o brosiect cydweithredu trawsffiniol yw'r prosiect Dŵr Uisce a fydd yn dylanwadu'n gadarnhaol ar yr economi a'r amgylchedd yng Nghymru ac Iwerddon."

Nod y rhaglen gydweithredu gwerth £75 miliwn yw cryfhau cysylltiadau economaidd rhwng Cymru ac Iwerddon, a chefnogi mentrau trawsffiniol o ran newid yn yr hinsawdd, adnoddau naturiol, arloesi, treftadaeth a thwristiaeth.

Y prosiect Dŵr Uisce yw'r un cyntaf i gael ei ariannu o dan y rhaglen newydd Cymru-Iwerddon, a fydd o fudd i bobl a chymunedau yng Ngogledd a Gorllewin Cymru ac yn rhanbarth De-ddwyrain Iwerddon. Gair Gwyddeleg am ddŵr yw Uisce.

Dywedodd Dr Prysor Williams, o Brifysgol Bangor: "Bydd gwaith y prosiect Dŵr Uisce yn helpu i gyflawni'r canlyniadau amgylcheddol ac economaidd sydd mor bwysig os yw Cymru am gyrraedd ei thargedau uchelgeisiol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

“Mae sicrhau'r cyllid hwn gan yr UE yn newyddion ardderchog, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddefnyddio ein harbenigedd mewn prosiect a fydd yn dod â manteision sylweddol i ddiwydiannau Cymru, defnyddwyr, a'r amgylchedd ehangach."

Dywedodd Dr Aonghus McNabola o Goleg y Drindod Dulyn: "Y diwydiant dŵr yng Nghymru ac Iwerddon yw'r pedwerydd defnyddiwr mwyaf o ynni ac mae'n cyfrannu'n sylweddol at allyriadau carbon.

"Bydd y prosiect Dŵr Uisce yn gwneud cynnydd allweddol mewn defnyddio ynni'n fwy effeithlon yn y sector hwn a bydd yn dylanwadu'n gadarnhaol ar amgylchedd ac economi'r rhanbarth."
 

Rhannu |