Mwy o Newyddion
Hwb o £31m gan yr UE ar gyfer cyfleuster cyfrifiadureg o'r radd flaenaf yn Abertawe
Heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones fuddsoddiad gwerth £31m gyda chefnogaeth yr UE ar gyfer cyfleuster cyfrifiadureg o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe.
Bydd y Ffowndri Gyfrifiadurol, sydd wedi'i lleoli ar Gampws Bae Abertawe, yn cael cefnogaeth ariannol o £17m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a bydd yn ysgogi ymchwil i gyfrifiadureg ac yn gwneud Cymru'n lleoliad byd-eang i gyfrifiadurwyr a phartneriaid y diwydiant.
Dywedodd Carwyn Jones: "Mae datblygu economi ddigidol lewyrchus yn hanfodol er mwyn llwyddo'n fyd-eang ac mae'n nod allweddol i Lywodraeth Cymru.
"Bydd yr arian hwn yn helpu i ddatblygu cyfleuster o safon fyd-eang a fydd yn hwb ar gyfer cydweithio'n arloesol ag ymchwilwyr a'r diwydiant, gan ddenu rhagor o gyllid ymchwil a sefydlu Cymru fel canolfan o'r radd flaenaf ar gyfer cyfrifiadureg ac arloesi."
Bydd y Ffowndri Gyfrifiadurol yn gartref i ganolfan fodern ac arloesol gan alluogi i ymchwilwyr o safon fyd-eang gynnal ymchwil penodol. Bydd y cyfleuster yn adeiladu ar lwyddiannau presennol Abertawe, sydd wedi'i gosod yn y safle 1af ar restr Cymru ac yn yr 11eg safle ar restr y DU am ansawdd ei ymchwil cyfrifiadureg gan y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, sef y corff sy'n asesu ansawdd ymchwil prifysgolion.
Bydd yn cynnwys labordai ymchwil a datblygu, mannau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr, yn ogystal â mannau i rwydweithio ac ysbrydoli. Yno, bydd systemau arbrofi, offer, dyfeisiau a phrototeipiau o'r radd flaenaf a fydd yn ysgogi arloesi.
Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Richard B Davies: "Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gefnogi'r Ffowndri Gyfrifiadurol gyda chyllid yr UE. Mae hyn yn dangos hyder mawr ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn arwydd o'n huchelgais. Ein hadran gyfrifiadureg yw'r gorau yng Nghymru, a'r seithfed yn y DU yn ôl y Good University Guide gan y Times. Bydd y Ffowndri yn adeiladu ar ein cryfderau ac yn cefnogi ein nod strategol o gael ein graddio yn y 200 uchaf ymysg prifysgolion y byd.
"Bydd y prosiect hwn yn trawsnewid Abertawe, y Gorllewin, y Cymoedd a'r genedl i fod yn gyrchfan ar gyfer cyfrifiadurwyr o bob cwr o'r byd. Bydd hefyd yn cryfhau Dinas-ranbarth y Bae ymhellach."
Dywedodd yr Athro Matt Jones, Pennaeth y Coleg Gwyddoniaeth ac arweinydd y Ffowndri: "Pwrpas y buddsoddiad hwn yw newid y rhanbarth, Cymru a'r byd er gwell trwy ganolfan a fydd yn cynnal ymchwil ac arloesi o'r safon uchaf, gan helpu i ddiffinio'r technolegau digidol, y gwasanaethau a'r offer a fydd yn llywio sut y bydd biliynau o bobl yn byw eu bywydau dros y byd."
Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Tachwedd.