Mwy o Newyddion
Cyflwynydd Chwaraeon Sky, Dave Clark, yn annog pobl yng Nghymru i Gerdded dros Glefyd Parkinson yn 2016
Mae Dave Clark, cyflwynydd Sky Sports ac un sy'n gefnogwr brwd i Parkinson's UK yn teimlo ei bod yn 'anrhydedd' lansio'r gyfres Cerdded dros Glefyd Parkinson 2016.
Ers iddo gael ei ddiagnosio â chlefyd Parkinson ei hun yn 2011 yn 44 oed, mae Dave wedi canfod bod cerdded yn ffordd wych o gadw'n ffit.
Mae Dave, sy'n Eiriolwr dros Gerdded i Parkinson’s UK yn 2016 yn egluro: "Fel ffanatig dros chwaraeon, mae derbyn diagnosis o glefyd Parkinson yn anochel wedi golygu bod rhai o'r pethau yr arferwn eu gwneud i gadw'n ffit gryn dipyn yn fwy anodd yn awr.
"Mae cerdded yn cael y galon i guro'n gyflymach a hefyd yn fy helpu gyda hyblygrwydd a chydbwysedd, felly mae'n anrhydedd i mi fod yn Eiriolwr dros Gerdded i Parkinson's UK yn 2016.
"Hoffwn wahodd pawb, beth bynnag yw lefel eu ffitrwydd, i gael eu noddi ac ymuno ag unrhyw un o ddigwyddiadau Cerdded dros Glefyd Parkinson, hyd yn oed i gerdded dim ond milltir. Gyda'n gilydd gallwn godi arian y mae ei wir angen i helpu i ddod o hyd i iachâd."
Mae'r gyfres Cerdded dros Glefyd Parkinson yn cynnwys 35 o deithiau i fyny ac i lawr y wlad gyda'r pellteroedd yn amrywio o 1 i 8 milltir. Maent i gyd yn digwydd rhwng mis Ebrill a mis Hydref ac mae lleoliadau yn amrywio o ganol dinasoedd i blastai urddasol.
Mae lleoliadau ar draws Cymru yn cynnwys yr Wyddfa (14 Mai), Bae Caerdydd (11 Mehefin) a Llyn Llanwddyn (10 Gorffennaf).
Fel rhan o'r rhaglen o deithiau i'w cerdded, mae Dave, (gyda chefnogaeth pobl adnabyddus o fyd chwaraeon) yn trefnu ei antur ei hun.
Bydd yn cerdded o un Arfordir i'r llall - o St Bees yn Cumbria, gan ddechrau ar Fedi 11, a gorffen 14 diwrnod yn ddiweddarach ar Fedi 23 ym Mae Robin Hood, o fewn Parc Cenedlaethol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog - 200 milltir o gerdded heriol.
Meddai Paul Jackson-Clark, Cyfarwyddwr Codi Arian yn Parkinson’s UK: "Rydym wrth ein bodd yn croesawu Dave i fod yn Eiriolwr dros Gerdded i ni yn 2016.
"Mae cymryd rhan mewn taith gerdded noddedig yn ffordd wych o gadw'n ffit ac yn iach, ac mae'n rhywbeth y gallai'r teulu cyfan gymryd rhan ynddo.
"Bydd yr arian a godir o'r gyfres o deithiau cerdded yn cael eu defnyddio i helpu i ddod o hyd i driniaethau gwell, ac iachâd yn y pen draw, yn ogystal â rhoi cefnogaeth a gwybodaeth i bobl a effeithir gan glefyd Parkinson."
I ganfod lle gallwch fynd i gerdded yn eich ardal chi, ewch i www.parkinsons.org.uk/walks
Yn ogystal â bod yn wyneb cerdded yn 2016, mae Dave wedi sicrhau partneriaeth elusen y flwyddyn rhwng Parkinson's UK a'r Gorfforaeth Dartiau Broffesiynol (PDC). Bydd gwirfoddolwyr yn bresennol yn nigwyddiadau dartiau PDC ledled y wlad i godi arian hanfodol ac ymwybyddiaeth o'r elusen a'r cymorth y mae'n gallu ei gynnig.