Mwy o Newyddion
-
Cynlluniau i fynd i'r afael â chlefyd cardiofasgwlaidd mewn cymunedau difreintiedig i'w hymestyn ledled Cymru
04 Ebrill 2016Bydd cynlluniau i leihau nifer y bobl sy'n marw cyn pryd o ganlyniad i glefyd cardiofasgwlaidd yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig y De yn cael eu hymestyn ledled Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw. Darllen Mwy -
Dyfodol dur Cymru mewn perygl - “Rhowch arweiniad,” Leanne Wood yn annog Llywodraeth Cymru
04 Ebrill 2016Mae angen i Lywodraeth Cymru roi arweiniad strategol wrth i’r argyfwng dur barhau i wasgu yng Nghymru, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood. Darllen Mwy -
Lansio menter gymunedol uchelgeisiol newydd ar Ynys Môn
04 Ebrill 2016Lansiwyd y ganolfan gyntaf sy’n eiddo i’r gymuned ar Ynys Môn yn Llanfechell ddydd Gwener, 1 Ebrill. Darllen Mwy -
Gemau'r Gymanwlad Cymru yn cyhoeddi Chef de Mission ar gyfer Gemau 2018 yn Awstralia
04 Ebrill 2016Gydag union ddwy flynedd i'r diwrnod i fynd tan Gemau'r Gymanwlad 2018, mae Gemau'r Gymanwlad Cymru wedi cyhoeddi penodiad yr Athro Nicola Phillips yn Chef de Mission ar gyfer Cymru. Darllen Mwy -
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi nawdd ar gyfer gwyliau a digwyddiadau mawrion fel rhan o ddathliadau Roald Dahl 100
04 Ebrill 2016Bydd dathliadau canmlwyddiant geni Roald Dahl – un o hoff storïwyr y byd – yn lledaenu i bob cwr o Gymru eleni gyda diolch i Dyfeisio Digwyddiad, cynllun nawdd newydd gan Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Darllen Mwy -
'Rhowch wisg wen i'r Frenhines' - Ai dyma'r ffrae fydd yn rhwygo Gorsedd y Beirdd ym mlwyddyn pen-blwydd Elizabeth o Windsor yn 90?
01 Ebrill 2016 | Gan KAREN OWENMae cynllun ar droed i "uwchraddio" gwisg werdd y Frenhines er mwyn nodi ei phen-blwydd yn 90 oed eleni - ac fe allai'r ffrae ynglyn â'r mater rwygo Gorsedd y Beirdd reit i lawr y canol. Darllen Mwy -
Dadorchuddio erflun 20 troedfedd o Shirley Bassey yn bloeddio dros Faes Caernarfon o'r castell
01 Ebrill 2016Heddiw, mae’r artist o Gymru, Marc Rees, wedi dadorchuddio darn cerfluniol newydd a elwir yn ‘Bassey’s Cry/Bloedd Bassey’, sef cerflun aur, 20 troedfedd o uchder sy’n ymdebygu i’r Fonesig Shirley Bassey mewn osgo rhyfelgar tebyg i Buddug, y Frenhines a’r Rhyfelwraig Geltaidd. Darllen Mwy -
Chwe chynllun trafnidiaeth leol i gael arian ychwanegol
01 Ebrill 2016Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, wedi cyhoeddi y bydd pedwar prosiect trafnidiaeth leol yn cael eu cwblhau'n gynt na'r disgwyl a bydd dau gynllun newydd yn cael £510,000 o arian ychwanegol. Darllen Mwy -
Cymru'n arwain y ffordd drwy gofrestru gweithwyr cymorth dysgu
01 Ebrill 2016Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gynnwys gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion a cholegau addysg bellach ar ei chofrestr genedlaethol o ymarferwyr addysg. Darllen Mwy -
Comisiynydd yn cynnal ymchwiliadau safonau i gwmnïau trên a bws
01 Ebrill 2016Mae Comisiynydd y Gymraeg yn casglu barn y cyhoedd a sefydliadau ar gyfer ymchwiliadau safonau i gwmnïau trên a bws. Darllen Mwy -
Cynllun trethi busnes Plaid Cymru yn ymestyn cymorth i 90,000 o fusnesau Cymreig
31 Mawrth 2016Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn torri trethi busnes i 80% o fusnesi Cymreig, dywedodd Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru a Siân Gwenllian Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Fusnesau Bach heddiw. Darllen Mwy -
Corff Gwarchod Iechyd yn gofyn barn am y Gwasanaeth Nyrsio Ardal yng ngogledd Cymru
31 Mawrth 2016Mae Corff Gwarchod Iechyd Gogledd Cymru – CICGC, yn annog pobl i roi eu barn am eu profiadau o’r gwasanaeth Nyrsio Ardal ar draws gogledd Cymru. Darllen Mwy -
Gweledigaeth newydd o arfordir Gogledd Cymru fyddai'n harneisio pŵer, amddiffyn yr arfordir a hyrwyddo twristiaeth
31 Mawrth 2016Dychmygwch wal fawr oddi ar arfordir Gogledd Cymru yn estyn o Landudno allan i'r môr ac yna'n ôl i'r tir ger Prestatyn: hwylwyr dingi a tonfyrddwyr yn mwynhau'r dyfroedd llonydd o'i mewn, twristiaeth a diwydiannau cefnogi yn ffynnu a'r cymunedau lleol yn ddiogel o fygythiad llifogydd o'r môr. Darllen Mwy -
Canlyniadau Gwylio Adar yr Ardd RSPB Cymru
31 Mawrth 2016Gaeaf mwyn yn hybu gweld adar bach yr ardd Darllen Mwy -
Andrew y cogydd Michelin yn addo hybu cynnyrch Cymreig yng Nghanolfan Bodnant
31 Mawrth 2016Mae disgybl i’r cogydd Michelin enwog Michael Caines ar fin chwarae rhan flaenllaw mewn canolfan ragoriaeth ar gyfer bwyd Cymru. Darllen Mwy -
Ymweld eto â Llangollen yn gwireddu breuddwyd i seren Collabro Thomas Redgrave
31 Mawrth 2016Mae band bechgyn theatr gerdd a enillodd Britain’s Got Talent gan adael y beirniad Amanda Holden yn ei dagrau ar eu ffordd i Ogledd Cymru. Darllen Mwy -
Cyflwyno achos dros drydaneiddio prif lein rheilffordd y Gogledd
31 Mawrth 2016Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, wedi nodi'r achos dros drydaneiddio prif lein rheilffordd arfordir y Gogledd erbyn 2024. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn gwireddu potensial economaidd y rhanbarth. Darllen Mwy -
Croesawu hawl newydd i wersi nofio Cymraeg
30 Mawrth 2016Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r ffaith fod awdurdodau lleol bellach yn gorfod cydnabod hawl pobl i wersi nofio a chyrsiau eraill yn Gymraeg, wrth i reoliadau newydd ddod i rym. Darllen Mwy -
Leanne Wood yn galw am gamau cadarn i leihau'r effaith ar weithwyr dur
30 Mawrth 2016Mae Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddangos uchelgais a gweithredu'n rhagweithiol i leihau'r effaith niweidiol yn sgil penderfyniad Tata i werthu ei safleoedd yn y DU. Darllen Mwy -
Hawliau newydd i ddefnyddio’r Gymraeg
30 Mawrth 2016Mae gan bobl Cymru hawliau newydd i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’r hawliau’n deillo o safonau’r Gymraeg sy’n dod i rym heddiw. Darllen Mwy