Mwy o Newyddion
"Gwasanaeth Iechyd Cymru'n helpu pobl i fyw bywydau iachach" - Vaughan Gething
Mae llai o bobl Cymru'n marw a mwy yn goroesi cyflyrau fel canser, diabetes, strôc a chlefyd y galon, diolch i gamau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i wella gwasanaethau, yn ôl y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog bod GIG Cymru'n helpu pobl i fyw bywydau iachach drwy’r gwasanaethau newydd sy'n cael eu datblygu a'r lefelau uwch nag erioed o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn canmol y gofal o ansawdd uchel sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid, nyrsys a staff y GIG ar draws y wlad.
Roedd strategaeth iechyd Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd, a gyhoeddwyd yn 2011, yn gosod gweledigaeth dros bum mlynedd ar gyfer GIG Cymru a'i bartneriaid, gan gynnwys creu cynlluniau cyflawni ar gyfer afiechydon difrifol.
Datblygwyd y cynlluniau cyflawni gan glinigwyr, cleifion ac eiriolwyr dros ofal rhagorol. Maent yn amlinellu camau gweithredu i wella gwasanaethau, gan ganolbwyntio'n benodol ar atal a diagnosis cynnar, gofal integredig ac effeithiol, gwell gwybodaeth ac ymchwil wedi'i dargedu.
Ym mis Mehefin 2015, cyhoeddodd y Gweinidogion y byddai £10m yn cael ei fuddsoddi yn uniongyrchol yn y cynlluniau - £1m ar gyfer pob un o'r 10 cynllun - sydd wedi'i ddefnyddio i wella gwasanaethau ar gyfer pobl Cymru.
Ymhlith y prif lwyddiannau mae:
- Llai o bobl yn marw o ganser - rhwng 2004 a 2014 gwelwyd gostyngiad o tua 10% yn y bobl sy'n marw o ganser yng Nghymru. Am y tro cyntaf, mae'r nifer sy'n goroesi am bum mlynedd wedi cyrraedd 50%, a'r nifer sy'n goroesi am flwyddyn wedi cyrraedd 70%;
- Mae nifer y marwolaethau sy'n ymwneud â diabetes yn gostwng a gwelwyd gostyngiad yn nifer y derbyniadau brys sy'n ymwneud â diabetes;
- Mae'r nifer sy'n goroesi strôc yn gwella – bu cynnydd o bron 500 yn y nifer sy'n goroesi strôc dros y pum mlynedd diwethaf;
- Mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i gyflyrau niwrolegol yn is o gymharu â gwledydd eraill y DU;
- Mae llai o bobl yn marw o glefyd y galon - mae dros 8,000 yn llai o gleifion wedi'u trin am glefyd coronaidd y galon dros y pum mlynedd diwethaf wrth i gyfraddau'r achosion leihau;
- Mae'r cyfraddau goroesi ar gyfer pobl sy'n cael eu trin mewn unedau gofal critigol yn gwella – roedd 83% o gleifion wedi'u rhyddhau i fynd i ward arall yn 2014-15, sy'n uwch o'i gymharu â'r 79% a gafodd eu rhyddhau yn 2011-12;
- Roedd 93% o'r bobl a ymatebodd i'r arolwg adborth iWantGreatCare (2014-15) am ofal lliniarol arbenigol ar ddiwedd oes yng Nghymru yn gadarnhaol. Y sgôr gyfartalog ar gyfer Cymru oedd 9.5 allan o 10;
- Mae dros 88,000 o bobl wedi cael eu hasesu a bron 48,000 wedi dechrau ar ymyrraeth therapiwtig gyda gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol rhwng mis Ebrill 2013 a mis Rhagfyr 2015.
Dywedodd Vaughan Gething: "Yn 2011, fe wnaethom ymrwymiad i bobl Cymru y byddem yn gwella ansawdd y gofal iechyd y mae pobl yn ei dderbyn, gan ddarparu gofal o'r ansawdd gorau yn y man cywir, ar yr adeg gywir, gan y person cywir.
"Diolch i lefelau uwch nag erioed o fuddsoddiad yn ein gwasanaeth iechyd ac ymroddiad a phroffesiynoldeb ein doctoriaid, nyrsys a staff eraill y gwasanaeth iechyd, mae mwy o bobl yn goroesi cyflyrau fel canser, strôc, clefyd y galon a diabetes.
"Rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy i'w wneud o hyd i wella amseroedd aros i gleifion, ond mae un peth yn glir - mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn helpu pobl i fyw bywydau hirach, iachach."