Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Mawrth 2016

Tocynnau bargen gynnar yr Eisteddfod Genedlaethol ar werth ddydd Gwener

GYDA phedwar mis yn unig i fynd, gallwch archebu tocynnau bargen gynnar ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau o fore Gwener 1 Ebrill ymlaen, naill ai drwy fynd ar-lein, www.eisteddfod.cymru, neu drwy ffonio’r llinell docynnau ar 0845 4090 800.

Bydd y cynllun bargen gynnar, sy’n cynnig arbediad o 25% ar bris tocyn oedolyn i’r Maes, ar gael tan 30 Mehefin eleni.

Mae arbedion gwirioneddol ar bob un o’r tocynnau Maes sydd ar gael, a cheir y rhestr yn llawn ar wefan yr Eisteddfod. 

Wrth drafod y cynllun dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: “Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn cynnig cynllun bargen gynnar unwaith eto eleni.

“Bu’r cynllun yn llwyddiannus iawn y llynedd gyda miloedd o Eisteddfodwyr yn cymryd mantais o brisiau gostyngol ar docynnau ac yn eu prynu ymlaen llaw. 

“Mae’r un cynllun mewn lle eto eleni, a gobeithio y bydd rhagor o bobl hyd yn oed yn manteisio eleni.

“Mae’r cynllun hwn yn cynnig arbediad gwirioneddol ar bris tocynnau, yn enwedig i’r rheiny sy’n bwriadu dod am ran helaeth o’r wythnos neu am yr wythnos gyfan. 

“Ond mae’n bwysig eich bod yn cynllunio’ch wythnos ymlaen llaw ac yn archebu’ch tocynnau cyn 30 Mehefin, sef dyddiad cau’r cynllun. 

“Bydd rhaid talu’r pris llawn o 1 Gorffennaf ymlaen.”

Cyhoeddwyd manylion y rhaglen nos yr wythnos ddiwethaf, gyda chyngherddau amrywiol, ynghyd â chyfle i weld perfformwyr ac artistiaid enwocaf Cymru ar Lwyfan y Maes yn ystod yr ŵyl.

Bydd tocynnau’r cyngherddau hefyd ar werth o ddydd Gwener 1 Ebrill ymlaen, a gellir prynu’r rhain drwy’r wefan neu drwy ffonio’r llinell docynnau hefyd.

Bydd rhaglenni dyddiol drafft yn cael eu rhyddhau ar-lein yn ystod mis Mai gyda’r rhaglen derfynol ar gael ar-lein erbyn dechrau Mehefin, ac i’w phrynu o ddiwedd Mehefin ymlaen.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar Ddolydd y Castell, Y Fenni o 29 Gorffennaf – 6 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.

 

Rhannu |