Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Mawrth 2016

Yr Eglwys yng Nghymru yn annog pobl i bleidleisio

Bydd yr etholiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol a Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu trafod mewn cyfarfod allweddol o aelodau’r eglwys yr wythnos nesaf.

Caiff pwysigrwydd yr etholiadau i ddyfodol Cymru a’r Deyrnas Unedig eu tanlinellu  mewn cyfarfod deuddydd o Gorff Llywodraethu yr Eglwys yng Nghymru.

Gofynnir i aelodau dderbyn cynnig i annog pobl i bleidleisio ac i bleidleisio mewn ffordd wybodus.

Dywedodd y Canon Carol Wardman, cynghorydd yr esgobion ar yr eglwys a chymdeithas: “Mae’r penderfyniadau a gymerwn eleni mor neilltuol o bellgyrhaeddol fel y credwn ei bod yn bwysig cydnabod eu harwyddocâd yng Nghorff Llywodraethu yr Eglwys yng Nghymru, ac anogwn bob aelod o’r Eglwys i gymryd rhan yn y broses benderfynu ddemocrataidd.

“Gyda Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, fel gydag etholiadau, ni fwriedir i’r Corff Llywodraethu gynnig argymhellion am sut i bleidleisio; ond dylai aelodau’r Eglwys, ynghyd â phob Cristion, sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth am y materion, myfyrio amdanynt a gweddïo.”

Mae 144 o bobl o bob rhan o Gymru – lleygwyr ac ordeiniedig – yn aelodau o’r Corff Llywodraethu. Byddant yn cwrdd yn Venue Cymru, Llandudno, ar 6-7 Ebrill. Bydd y cyfarfod yn cychwyn gydag anerchiad gan y Llywydd, Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan.

Bydd wyneb cyfarwydd yn ymuno ag aelodau yn y cyfarfod, sef Dr Rowan Williams a oedd, fel cyn Archesgob Cymru, yn llywydd y Corff Llywodraethu.

Bellach yn gadeirydd Cymorth Cristnogol, bydd Dr Williams yn rhoi cyflwyniad am waith yr elusen a bydd hefyd yn bregethwr gwadd yn y gwasanaeth o Weddi Hwyrol yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, ar ddiwedd cyfarfod y diwrnod cyntaf.

Mae’r eitemau eraill ar yr agenda yn cynnwys:

  • Cynnig i ddiwygio polisi buddsoddiad moesegol yr Eglwys i gyfyngu buddsoddiadau mewn cwmnïau tanwydd ffosil;
  • Cynnig yn dathlu gwaith coleg diwinyddol yr Eglwys, Coleg Sant Mihangel, Llandaf, a chroesawu creu sefydliad newydd, Padarn Sant, a lansir ym mis Gorffennaf i arwain hyfforddiant yn y dyfodol;
  • Trafodaethau grŵp ar strategaeth twf Golwg 2020 yr Eglwys;
  • Diweddariad ar waith amgylcheddol yr Eglwys gan ei grŵp CHASE;
  • Cyflwyniad ar adnoddau newydd ar gyfer cerddorion eglwysig gan Ysgol Frenhinol Cerddoriaeth Eglwysig;
  • Cyflwyniad ar undebau credyd gan Undeb Credyd Cydfuddiannol yr Eglwysi;
  • Adroddiad ar derfyn oedran ar gyfer apwyntiadau eglwysig.

Mae’r agenda llawn a chopïau o’r papurau ar gael ar-lein yn http://www.churchinwales.org.uk/structure/governing-body/meetings/6-7-april-2016/

Bydd anerchiad yr Archesgob ar gael ar-lein yn www.churchinwales.org.uk ar ôl ei chyflwyno fore Mercher.

Llun: Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan

Rhannu |