Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Mawrth 2016

Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £10.3m mewn 94 ambiwlans newydd

Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru’n derbyn 94 cerbyd newydd diolch i £10.3m o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford heddiw.

Bydd y buddsoddiad yn caniatáu i’r gwasanaeth brynu:

  • 35 ambiwlans argyfwng newydd;
  • 13 cerbyd ymateb cyflym/cerbyd cludo cleifion brys;
  • 10 cerbyd gwasanaethau gofal cleifion, sy’n medru derbyn gwelyau cludo;
  • 32 cerbyd gwasanaethau gofal cleifion, sy’n medru derbyn cadeiriau olwyn;
  • Pedwar cerbyd arbenigol.

Ar hyn o bryd mae gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru 706 o gerbydau, sy’n gwasanaethu ardal dros 8,000 o filltiroedd sgwâr ar draws Cymru.

Neilltuodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt £10m i Wasanaeth Ambiwlans Cymru fel rhan o Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.

Er 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £45m mewn cerbydau newydd ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford: “Mae’r galw ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn cynyddu bob blwyddyn, felly mae’n hanfodol i ni fuddsoddi yn y cerbydau diweddaraf er mwyn i’r gwasanaeth fedru darparu’r gofal gorau posibl i bobl Cymru.

“Bydd y buddsoddiad o £10.3m rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn galluogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i uwchraddio’i gerbydau. Mae hyn ar ben y £34.3m rydyn ni eisoes wedi’i fuddsoddi mewn cerbydau newydd ers 2011.

“O ganlyniad bydd modd i’r gwasanaeth ambiwlans anfon y clinigwr mwyaf priodol yn y cerbyd mwyaf priodol, gan sicrhau bod pobl yn derbyn yr ymateb cyflymaf posib.”

Ychwanegodd Richard Lee, Cyfarwyddwr Gweithrediadau dros dro Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae ambiwlansiau a cherbydau ymateb Cymru gyda’r mwyaf modern yn y Deyrnas Unedig, ac yn cynnwys y cyfarpar gorau hefyd. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i ni barhau i gael cerbydau newydd yn lle’r hen rai wrth iddyn nhw ddod i ddiwedd eu hoes ymarferol.

“Mae ambiwlansiau modern yn hanfodol er mwyn i ni fedru parhau i ddarparu’r driniaeth orau bosib a’r profiad gorau i gleifion. Mae hyn hefyd yn bwysig iawn i’n staff sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u diwrnodau gwaith allan yn y gymuned.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cymorth parhaus.”

Rhannu |