Mwy o Newyddion
Datgan fod modrwyau canoloesol a diweddarach a ddarganfuwyd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn drysor
CAFODD modrwyau aur ac arian o ddiwedd y cyfnod canoloesol a’r Dadeni eu datgan yn drysor ddydd Iau diwethaf gan Grwner E.M. Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Cafodd modrwy aur ganoloesol ei darganfod yng Nghymuned Penfro, Sir Benfro, ym mis Chwefror 2014 gan Kevin Higgs tra’r oedd yn defnyddio datgelydd metel.
Mae’r fodrwy aur addurnol yn rhannol wag, gyda blaen hecsagonol a saffir glas heb ei dorri.
Yn ôl Mark Redknap o Amgueddfa Cymru, fu’n rhoi tystiolaeth arbenigol ar y darganfyddiad hwn ac eraill, mae’n dyddio o’r 14eg ganrif.
Mae Amgueddfa Aberdaugleddau wedi mynegi diddordeb mewn caffael yr eitem ar gyfer eu casgliadau.
Cafodd modrwy fede (ffydd) eurwaith arian ei darganfod yng nghymuned Llandyfái, Sir Benfro, gan P. Jenkins tra’r oedd yn defnyddio datgelydd metel ar 12 Hydref 2013.
Mae’n debyg i rai modrwyau aur addurnol o’r 14/15fed ganrif (rhwng tua 1350 a 1480).
Ar du allan y fodrwy mae arysgrif o ddiwedd y canol oesoedd yn darllen: jaspar : melchior : baltazar mewn cymysgedd o lythrennau mawr a bach mewn ysgrifen ddu, fras.
Enwau’r tri gŵr doeth sydd yma, a’r gred oedd eu bod yn amddiffyn rhag epilepsi a’r dwymyn. Mae Amgueddfa Dinbych-y-pysgod yn dymuno caffael yr eitem hon.
Cafodd modrwy aur grefyddol ei darganfod yng nghymuned Llandysilio, Sir Benfro, ym mis Rhagfyr 2014 gan Philip Jenkins.
Mae’r fodrwy wedi’i engrafu gyda delweddau o’r Santes Catherine yn dal cleddyf yn ei llaw dde, ac olwyn (symbol o’i merthyrdod) y tu ôl iddi ar yr ochr chwith.
Mae’r fodrwy wedi’i addurno ar yr ochrau gyda brigau.
Ar du fewn y fodrwy mae’r geiriau ·en·boen·eure (mewn blwyddyn dda) mewn ysgrifen ddu o ddiwedd y canol oesoedd.
Yn ôl Dr Redknap, gall modrwyau o’r fath fod ag un neu fwy o ffigyrau neu olygfeydd Cristnogol wedi’u hengrafu ar y blaen, megis Cyfarchiad yr Angel ar un panel a Mair ar banel arall.
Ymysg y negeseuon cyffredin mae de bon cuer (bydded dy galon yn dda) ac en boen an.
Mae’r Santes Catherine yn ymddangos gyda’r Santes Barbara a Sant Christopher a’r neges en bon cor ar fodrwy o ddiwedd y canol oesoedd a ddarganfuwyd ger St Gennys, Bude, Cernyw.
Gallai’r gair olaf fod yn amrywiad o cor (calon, sydd wedi’i sillafu mewn ffyrdd gwahanol eto ar fodrwy arall o’r cyfnod).
Mae Amgueddfa Arberth yn dymuno caffael yr eitem hon.
Cafodd modrwy bwysi eurwaith arian ei darganfod yng nghymuned Caeriw, Sir Benfro, gan Kevin Higgs tra’r oedd yn defnyddio datgelydd metel ar 17 Mehefin 2013.
Mae gan yr arwyneb allanol batrwm o gelloedd a dotiau bychan, tra mae’r geiriau FEARE·GOD·ONLI ar y tu mewn.
Yn ôl Dr Redknap, mae hyn yn adlewyrchu negeseuon a welir ar fodrwyau eraill, megis Feare God o Drawsfynydd, a + FEARE GOD o Lanilltud Fawr.
Mae’r llythrennu, yr addurn a’r ffurf yn awgrymu ei bod yn dyddio o ddiwedd y 16eg ganrif.
Mae gan Amgueddfa Dinbych-y-pysgod ddiddordeb mewn caffael yr eitem hon.
Cafodd Mark Lodwick, Cydlynydd y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru), wybod am y darganfyddiadau hyn, ac yn ddiweddarach daeth i sylw Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil yn adran Hanes ac Archaeoleg, Amgueddfa Cymru.
Dywedodd: “Mae’r modrwyau hyn yn rhoi golwg fanwl ar ffasiynau ac ymroddiad personol yng Nghymru yn y cyfnod hwn.
“Maent yn ychwanegiadau arwyddocaol i’r casgliad sylweddol o drysorau o Gymru, a byddant yn cyfoethogi casgliadau amgueddfeydd yn Ninbych-y-pysgod, Arberth ac Aberdaugleddau, sy’n gallu caffael arteffactau drwy gyfrwng y project Saving Treasures, Telling Stories, gaiff ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
“Mae cyfle i ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd weld trysorau gwych o Gymru eleni ochr yn ochr â thrysorau o bedwar ban byd yn ein harddangosfa newydd gyffrous Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol sydd i’w gweld tan fis Hydref.”
Mae mwy o wybodaeth am yr arddangosfa i’w gweld yma: www.amgueddfacymru.ac.uk/caerdydd/digwyddiadau/8641/Trysorau-Anturiaethau-Archaeolegol/