Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Mawrth 2016

S4C yn datgelu amserlen Etholiad 2016

Gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei ddiddymu'r wythnos hon, fe fydd cyfnod dwys o ymgyrchu'n dechrau ar gyfer Etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ar 5 Mai.

Dros yr wythnosau nesaf, fe fydd S4C yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni yn trafod y pynciau trafod llosg, yr etholaethau difyr a'r cymeriadau allweddol yn ymgyrch etholiad 2016.

A bydd digon o ddeunydd i'w drin a'i drafod gydag etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd yr Alban, Cynulliad a Maer Llundain, Llywodraeth Leol Lloegr ac Etholiadau Maer i gyd yn mynd rhagddynt, a chysgod anferth Refferendwm Ewrop dros y cyfan.

Fe fydd timau newyddion a materion cyfoes BBC Cymru ac ITV Cymru yn gohebu ar hyd a lled Cymru o  nawr tan noson y canlyniadau ar raglenni Etholiad Cymru 2016, Pawb a'i Farn, Newyddion (cynyrchiadau BBC Cymru) a'r gyfres pobol ifanc, Hacio (cynhyrchiad ITV Cymru).

Mae'r cyfan yn dechrau gyda'r rhaglen Y Ras i'r Senedd (ITV Cymru) nos Fawrth, 5 Ebrill pan fydd y gohebydd Catrin Haf Jones yn cyflwyno cyfres lle bydd yn cyfweld ag arweinydd y bum prif blaid yn eu tro ac yn bwrw tu ôl i'r llenni ar ymgyrchoedd y pleidiau gwahanol.

Mae'n dechrau trwy gyfweld â Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol gan ei holi'n fanwl am bolisïau a gweledigaeth ei phlaid. Ym mhob rhaglen, fe fydd sylwebydd gwahanol yn mesur gobeithion y blaid dan sylw, gyda'r ddarlledwraig dreiddgar Beti George yn bwrw golwg gogleisiol ar y Democratiaid Rhyddfrydol yn y rhaglen gyntaf.

Mae Catrin Haf Jones yn paratoi i gyfweld ag arweinwyr Cymreig y prif bleidiau yn eu tro: Leanne Wood (Plaid Cymru), Nathan Gill, (UKIP), Andrew R T Davies (Ceidwadwyr) a Carwyn Jones (Llafur).

Meddai Catrin Haf Jones: "Rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r pynciau llosg sy'n effeithio ar fywydau pobl gyffredin, gan holi'r arweinwyr gwleidyddol yn fanwl am eu polisïau.

"Fe fyddwn yn mynd tu ôl i'r llenni i fwrw golwg fanwl ar ymgyrchoedd y prif bleidiau. Fe fydd y rhain yn wythnosau tyngedfennol."

Ychwanega Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C, "Mae'n gyfnod diddorol yn y byd gwleidyddol yng Nghymru, gydag ad-drefnu llywodraeth leol, pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol ac Ewrop ymysg y pynciau trafod amlwg.

"Bydd ein timau newyddiadurol yn BBC Cymru ac ITV Cymru yn dangos sut mae'r pynciau yma, ynghyd ag Iechyd ac Addysg, yn berthnasol i fywydau bob dydd pobl Cymru."

 

Y Ras i'r Senedd

Nos Fawrth 5 Ebrill 9.30, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad ITV Cymru ar gyfer S4C

Rhannu |