Mwy o Newyddion
Plaid yn addo buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf gyda pholisi o ofal plant am ddim
Bydd ymgeiswyr Plaid Cymru yn etholiad y Cynulliad Helen Mary Jones (Llanelli) a Simon Thomas (Gorllewin Caerfyrddin) heddiw yn ymweld a meithrinfa’r Gamfa Wen yng Nghaerfyrddin i dynnu sylw at addewid y Blaid i gynnig gofal plant am ddim i bob plentyn teirblwydd oed yng Nghymru.
Mae Plaid Cymru wedi addo cynyddu nifer yr oriau o addysg blynyddoedd cynnal seiliedig ar chwarae fydd ar gael i blant tair oed o 10 awr i 30 awr bob wythnos os bydd yn ffurfio Llywodraeth Cymru nesaf wedi etholiadau’r Cynulliad ar Fai 5.
Meddai ymgeisydd Plaid Cymru am y Cynulliad dros Lanelli a’r Gweinidog cysgodol dros Blant a Phobl Ifanc, Helen Mary Jones: "Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ein plant a’n pobl ifanc o’r crud i’r yrfa. Dyna pam ein bod yn addo cynnig gofal plant am ddim i bob plentyn teirblwydd oed yng Nghymru.
"Mae meithrinfeydd fel yr un y byddwn ni’n ymweld â hi heddiw yn chwarae rhan hanfodol yn rhagolygon addysgol ein plant at y dyfodol, a’u datblygiad cymdeithasol.
"Yn ogystal â rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i’n plant, gallai ein polisi helpu rhieni sydd eisoes yn defnyddio gofal plant i arbed dros £100 yr wythnos. Mae rhieni ar draws Cymru yn talu mwy am ofal plant na rhieni yn y rhan fwyaf o’r DG. Cynyddodd costau gofal plant o 40% ers 2011 yng Nghymru, sy’n ei gwneud yn anodd i rieni ddychwelyd i waith."
Ychwanegodd Simon Thomas AC, ymgeisydd Plaid Cymru am y Cynulliad dros Orllewin Caerfyrddin a’r Gweinidog Addysg cysgodol: "Mae Cymru ar ôl cenhedloedd eraill y DG o ran safonau academaidd rhyngwladol PISA, a buddsoddi mewn system addysg gynhwysfawr yw un o’r dulliau mwyaf effeithiol o wella rhagolygon ein plant mewn bywyd.
"Dengys ymchwil y bydd plant o gefndiroedd difreintiedig yn elwa fwyaf o gynyddu’r ddarpariaeth hon, gan eu helpu i gyrraedd eu llawn botensial. Fe gaiff hyn effaith gadarnhaol ar yr economi ac ar ein cymdeithas gyfan.
"Gallai ein polisi ni helpu i godi teuluoedd allan o dlodi, galluogi rhieni i weithio a chael mwy o incwm i’w ddefnyddio, a chyfrannu hefyd at yr economi.
"Buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf a chreu Cymru addysgedig yw un o brif flaenoriaethau Plaid Cymru."