Mwy o Newyddion
S4C yn gwahodd pobl Cymru i fwynhau cystadleuaeth Band Cymru yn Aberystwyth
Mae cyfle i bobl Cymru fwynhau rhai o fandiau chwyth, pres, a jazz gorau'r wlad yn Aberystwyth - a hynny heb orfod talu ceiniog o'ch 'pres' neu ddarn 'arian' i wneud hynny.
Bydd pedair rownd gynderfynol cystadleuaeth Band Cymru 2016 yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddydd Sadwrn a Sul, 9 a 10 Ebrill.
Mae'r tocynnau i fod yn rhan o'r gynulleidfa yn Aberystwyth yn rhad ac am ddim. I archebu tocynnau, cysylltwch â Rondo Media ar 029 2022 3456 neu bandcymru@rondomedia.co.uk
Yn dilyn llwyddiant cynnal cystadleuaeth gyntaf Band Cymru yn 2014, mae S4C a threfnwyr y gystadleuaeth Rondo Media, wedi cyhoeddi'r 12 band sydd wedi ennill eu lle yn rowndiau cynderfynol Band Cymru eleni.
Y dwsin disglair sy'n gobeithio cyrraedd y rownd derfynol a brwydro am y teitl a'r wobr ariannol yw: Band BTM, Band Pres Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Band Dinas Caerdydd 1 (Melingruffydd), Band Llaneurgain, Band Llwydcoed, Band Tref Porth Tywyn, Band Temperance Tongwynlais, Band Tref Tredegar, Band Tylorstown, Brass Beaumaris, Cerddorfa Jas y Brifddinas a Chwythbrennau Siambr Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru.
Bydd rownd derfynol Band Cymru yn cael ei chynnal yn Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci, un o gadarnleoedd traddodiadol Bandiau Cymreig ddydd Sul 22 Mai.
Bydd cystadleuaeth newydd i fandiau dan 18 oed yn cael ei chynnal yn Nhreorci hefyd y diwrnod cynt, ddydd Sadwrn, 21 Mai.
Y bandiau sy'n brwydro am deitl Band Ieuenctid Cymru 2016, gyda'r cyfle i ennill £1,000, yw Band Pres Ieuenctid Gwent, Band Jazz Tryfan, Cerddorfa Chwyth Ieuenctid Gwent a Cerddorfa Ieuenctid Jazz Gwasanaeth Cerdd Caerdydd a'r Fro.
Bydd y ddwy gystadleuaeth yn cael eu dangos ar S4C ac mae'n gyfle unigryw i fandiau Cymru ddangos eu doniau disglair ar y teledu.
Meddai Gwawr Owen, cynhychydd Band Cymru 2016: "Dyma gyfle gwych I fwynhau seiniau godidog a chyfoethog byd y bandiau, a'r cyfan am ddim. Mynnwch eich sedd yn Aberystwyth am benwythnos o gystadlu brwd ac adloniant."
Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C: "Yn sicr fe gydiodd cystadleuaeth Band Cymru 2014 yn nychymyg y gynulleidfa sy'n profi nad gwlad y gân yn unig yw Cymru ond hefyd gwlad yr offerynwyr. Mae S4C yn hynod falch o gael ymestyn y gystadleuaeth y tro hwn i gynnwys rownd derfynol byw a chystadleuaeth newydd sbon i fandiau ieuenctid Cymru.
"Byddwn yn dathlu synau'r seindorf mewn cystadleuaeth sydd ag addewid i fod yn un gyffrous tu hwnt."