Mwy o Newyddion
Ffilm gyffrous newydd yn un o 300 o gynyrchiadau a ffilmiwyd yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf
MAE ffilm gyffrous newydd a fydd yn cael ei rhyddhau y mis nesaf yn un o 300 o gynyrchiadau a ffilmiwyd yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Bydd y ffilm ymladd gyffrous, Criminal, sydd ag un o sêr mwyaf golygus Hollywood, Ryan Reynolds, yn chwarae’r brif ran, yn agor mewn sinemâu ledled y DU ym mis Ebrill.
Dyma’r diweddaraf o dros 300 o gynyrchiadau i gael eu ffilmio yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf gyda chefnogaeth Sgrîn Cymru.
Mae’r ffilm, sy’n cynnwys y sêr Kevin Costner, Tommy Lee Jones, Gary Oldman a Ryan Reynolds, yn stori bwerus am asiant CIA marw (Reynolds) y mae ei atgofion a’i sgiliau yn cael eu mewnblannu i droseddwr anwadal a pheryglus (Costner).
Cafodd un olygfa, gyda Kevin Costner a Tommy Lee Jones, ei ffilmio yn Sain Tathan, lle cafodd tîm cynhyrchu Millennium Films ddefnydd llwyr o’r Awyrendy Enfawr a’r rhedfa, a oedd yn cael ei ddefnyddio hefyd fel Canolfan Awyr yn yr Unol Daleithiau.
Mae’r Awyrendy Enfawr wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer nifer o ffilmiau a, chyn bo hir, bydd ganddo rôl bwysig arall fel canolfan weithgynhyrchu newydd Aston Martin ar gyfer ei gerbyd DBX trawsgroes.
Roedd criw cynhyrchu Criminal yno am gyfanswm o ddau ddiwrnod, ac yn ffilmio dros un noson, sef tua 12 awr pan nad oedd angen i’r maes awyr yn Sain Tathan fod yn weithredol.
Er gwaethaf gorfod gweithio o fewn cyfyngiadau safle a ddiogelir yn filwrol, aeth popeth yn hwylus ac fel wats.
A dweud y gwir, cafodd ei gynllunio fel ymgyrch filwrol, gyda Sgrîn Cymru – rhan o dîm Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cymru, sy’n darparu gwasanaeth arbenigol i’r diwydiant ffilm – yn cysylltu â grŵp amrywiol o sefydliadau.
Roedd y rhain yn cynnwys ExeFler, a ddarparodd yr Airbus 400 Atlas, y cwmni sy’n ffilmio o hofrenyddion, perchenogion y Gofod Awyr (National Air Traffic Services ym Maes Awyr Caerdydd), Gweithredwyr y Maes Awyr (Serco) a Rheoleiddwyr y Maes Awyr (y Weinyddiaeth Amddiffyn).
Gyda’i gilydd, aethant ati i gydlynu a mireinio’r trefniadau, yn cynnwys dyfodiad yr A400, symudiad y gwahanol awyrennau cymorth a oedd yn cludo’r cast a’r criw o gwmpas, cytuno ar leoliadau ar gyfer y camerâu, a chael gafael ar amrywiaeth o eitemau; ymhlith yr eitemau hyn roedd grisiau awyrennau, certi ocsigen a thygiau awyrennau.
Meddai Nick Oliver, Rheolwr Lleoliadau Millenium Films: “Aeth popeth yn llyfn iawn. Cafodd yr holl griw amser anhygoel yn Sain Tathan.
“Roedd ein cyfarwyddwr ar ben ei ddigon pan welodd sut olwg gwych oedd ar bopeth, gyda’r awyrennau a’r holl bropiau ychwanegol wedi’u gosod er mwyn iddo edrych fel Canolfan Awyr yn yr Unol Daleithiau.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i dîm Llywodraeth Cymru am yr holl help o ran rhoi ein prosiect uchelgeisiol at ei gilydd.”
Bydd y ffilm Criminal yn cael ei rhyddhau mewn sinemâu yn y DU ar 15 Ebrill.
Dyma un o’r cynyrchiadau diweddaraf i gael ei gefnogi gan Sgrîn Cymru, sydd wedi cael 1,728 o ymholiadau cynhyrchu dros y pum mlynedd diwethaf.
Cafodd tua 300 o’r rheini eu ffilmio yng Nghymru, gan ddod â dros £111 miliwn i’r economi leol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Mae Sgrîn Cymru wedi cronni tipyn o arbenigedd, ac mae’n darparu cymorth amhrisiadwy i gynyrchiadau sy’n ffilmio yng Nghymru.
“Mae’n cynorthwyo mewnfuddsoddi a chynyrchiadau cynhenid, fel ei gilydd, mewn modd ymarferol, ac yn sicrhau eu bod yn gwario cymaint â phosibl o fewn economi Cymru.
“Mae’n llunio elfen allweddol o’r pecyn cymorth ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ddenu cynyrchiadau ffilm a theledu i Gymru.
“Mae Cymru bellach yn brif leoliad ar gyfer cynyrchiadau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n gwario miliynau o bunnoedd yn y wlad bob blwyddyn.”