Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/Cynulliad.jpg)
30 Mawrth 2016
Y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei alw yn ôl i drafod diwydiant dur Cymru
Mae’r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi galw’r Cynulliad yn ôl ar gyfer cyfarfod arbennig i drafod sefyllfa bresennol y diwydiant dur yng Nghymru.
Cynhelir y cyfarfod am 13.30 ddydd Llun 4 Ebrill. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad i’r Cynulliad cyn ateb cwestiynau gan Aelodau.
Dywedodd y Fonesig Rosemary: “Yn dilyn cais gan y Prif Weinidog, credaf fod sefyllfa bresennol y diwydiant dur yng Nghymru yn fater o bwysigrwydd cyhoeddus y dylid ei drafod ar fyrder.
"Felly, rwyf wedi penderfynu galw’r Cynulliad yn ôl i gyfarfod ddydd Llun 4 Ebrill.”