Mwy o Newyddion
-
ASau Plaid Cymru i bleidleisio yn erbyn cyrchoedd awyr yn Syria
02 Rhagfyr 2015Mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams AS, wedi cadarnhau y bydd ef a'i gyd-Aelodau Jonathan Edwards AS a Liz Saville Roberts AS yn gwrthwynebu cyrchoedd awyr gan y DU yn Syria yn ystod dadl y Tŷ Cyffredin heno. Darllen Mwy -
Gweinidog yn esbonio’r rhan arloesol y mae Cymru’n ei chwarae i daclo hinsawdd sy’n newid
02 Rhagfyr 2015Wrth iddo adael ar gyfer ei daith i Baris ar gyfer cynhadledd COP21 ar yr hinsawdd, mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant wedi esbonio’r rôl bwysig y mae Llywodraeth Cymru a llywodraethau taleithiol a rhanbarthol eraill yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â hinsawdd sy’n newid. Darllen Mwy -
Plaid Cymru yn galw am gyflymu trydaneiddio’r rheilffyrdd
01 Rhagfyr 2015Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cynnig yn gresynnu at yr oedi pellach cyn trydaneiddio’r brif reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe. Darllen Mwy -
Cyfraith chwyldroadol newydd i gynyddu cyfraddau rhoi organau yn dod i rym yng Nghymru
01 Rhagfyr 2015Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system chwyldroadol newydd i gynyddu nifer y rhai sy’n rhoi organau, wrth i’r system honno ddod i rym heddiw (Dydd Mawrth, Rhagfyr 1). Darllen Mwy -
Mentrau Iaith Cymru yn galw i ddiogelu cyllid S4C
01 Rhagfyr 2015Mae Mentrau Iaith Cymru, mudiad cenedlaethol sy'n cefnogi gwaith y 23 Menter Iaith ar draws Cymru, yn datgan eu gwrthwynebiad i fwriad Llywodraeth San Steffan i dorri grant S4C o 26% erbyn 2020. Darllen Mwy -
Syria - 'Sefyllfa Herod' arall?
01 Rhagfyr 2015Mae rhyfel Syria yn adlais o’r hanes am Herod yn lladd y plant, meddai Cadeirydd Rhwydwaith Heddwch Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Darllen Mwy -
BBC Cymru yn cadarnhau gwerthu safleoedd Llandaf
01 Rhagfyr 2015Mae BBC Cymru wedi cadarnhau bod ei safleoedd yn Llandaf wedi eu gwerthu i Taylor Wimpey, un o ddatblygwyr preswyl mwya’r DU Darllen Mwy -
Y pleidleisio ar gyfer personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn agor heddiw
30 Tachwedd 2015Mae’r pleidleisio ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2015 yn agor heddiw. Darllen Mwy -
Ymlaen a'r lagŵn - Plaid Cymru
30 Tachwedd 2015Mae Plaid Cymru wedi lansio deiseb i sicrhau bod Lagŵn Llanw Bae Abertawe yn mynd yn ei flaen. Darllen Mwy -
Mae ffliw wedi cyrraedd Cymru – ond mae LLAI o bobl wedi cael eu brechiad ffliw
30 Tachwedd 2015Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru wedi galw ar y cyhoedd i ddiogelu eu hunain rhag ffliw cyn gynted â phosib, gan fod adroddiadau am yr achosion cyntaf o ffliw yn dechrau cyrraedd. Darllen Mwy -
Cefnogaeth i’r stryd fawr ar Sadwrn y Busnesau Bach
30 Tachwedd 2015Wrth i lai a llai o bobl siopa ar y stryd fawr yng Nghymru, mae Plaid Cymru wedi gosod allan eu cynlluniau i gefnogi’r stryd fawr yn lleol yng Nghymru. Darllen Mwy -
Castell Caernarfon yn croesawu pabis Tŵr Llundain
30 Tachwedd 2015Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd un o’r cerfluniau eiconig o babis yn dod i Gymru, i’w arddangos yng Nghastell Caernarfon y flwyddyn nesaf. Darllen Mwy -
Cofio dau o fawrion Cymru
30 Tachwedd 2015Trefnir noson i gofio bywydau dau o sylfaenwyr Plaid Cymru yng Ngwaelod y Garth am 7.30pm, Nos Iau 3 Rhagfyr yng nghapel Bethlehem Darllen Mwy -
Diwedd cyfnod i Cyfle
30 Tachwedd 2015Wedi 30 mlynedd o wasanaeth darparu hyfforddiant i unigolion a chwmniau ym maes y diwydiannau creadigol a digidol, penderfynodd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cyfle ddirwyn y cwmni i ben ddiwedd Ddydd Llun, Tachwedd 30. Darllen Mwy -
Toriad i S4C yn torri addewid maniffesto'r Ceidwadwyr
26 Tachwedd 2015Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o ddweud 'celwyddau' wedi iddyn nhw gyhoeddi toriad o 26% i grant S4C er gwaethaf addewid ym maniffesto'r Ceidwadwyr i 'ddiogelu' cyllideb y sianel. Darllen Mwy -
Apêl am atgofion o’r hen ysbyty oedd ar yr un safle hanesyddol â’r ganolfan dementia
26 Tachwedd 2015Cafodd apêl ei lansio am eitemau cofiadwy ac atgofion am ysbyty cymunedol yng Nghaernarfon roedd pobl yn hoff iawn ohono. Darllen Mwy -
Tro-pedol y Ceidwadwyr ar S4C yn sarhad i Gymru
26 Tachwedd 2015Mae Liz Saville Roberts AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd wedi rhoi beirniadaeth hallt o benderfyniad Llywodraeth y DG i dorri cyllideb S4C yn sgil yr Adolygiad Gwariant. Darllen Mwy -
Oedi cyn trydaneiddio rheilffordd
26 Tachwedd 2015Wrth ymateb i'r newyddion y bydd oedi cyn trydaneiddio rheilfordd y Great Western hyd at rhywbryd rhwng 2019 a 2024, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys Jonathan Edwards AS: "Mae'r cyhoeddiad hwn yn cadarnhau ofnau mae Plaid Cymru wedi eu lleisio ers sbel bellach. Darllen Mwy -
Nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn
25 Tachwedd 2015Heddiw bydd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, yn pwysleisio ei ymrwymiad i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod mewn tri digwyddiad gwahanol. Darllen Mwy -
Cau swyddfa treth Port yn ergyd i’r economi leol
25 Tachwedd 2015MAE Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried cynlluniau i gau pob swyddfa treth yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys unig ganolfan alwadau Cymraeg HMRC ym Mhorthmadog. Darllen Mwy