Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Tachwedd 2015

Ymlaen a'r lagŵn - Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru wedi lansio deiseb i sicrhau bod Lagŵn Llanw Bae Abertawe yn mynd yn ei flaen.

Dywedodd Dr Dai Lloyd darpar ymgeisydd y Blaid yng Ngorllewin Abertawe y byddai'r Lagŵn Llanw'n dod â manteision sylweddol i Gymru - gyda swyddi newydd, ynni glanach ac adnewyddadwy ac atyniad i dwristiaid.

"Ond mae'r prosiect bellach mewn perygl gan nad yw'r llywodraeth Dorïaidd yn Llundain yn gwneud digon i'w gefnogi", meddai'r Dr Lloyd, sy'n feddyg teulu yn Abertawe.

"Ar ben hynny, dyw'r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn methu gwneud ei dyletswydd i ddatrys y broblem.

"Rydyn ni'n galw ar y ddwy lywodraeth, Llafur a Cheidwadol, i wneud mwy i sicrhau bod Lagŵn Llanw Bae Abertawe yn mynd ymlaen yn ôl ei amserlen."

Gwelir y ddeiseb i'r Prif Weinidog David Cameron ar safle we Change.org site ar:

https://www.change.org/p/david-cameron-ensure-the-swansea-bay-tidal-lagoon-goes-ahead?source_location=petitions

Rhannu |