Mwy o Newyddion
Nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn
Heddiw bydd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, yn pwysleisio ei ymrwymiad i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod mewn tri digwyddiad gwahanol.
25 Tachwedd yw Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod a Diwrnod y Rhuban Gwyn.
Bydd yn goleuo cannwyll coffa mewn gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, mewn digwyddiad aml-ffydd sy'n cael ei gynnal bob blwyddyn i gefnogi'r rheini sy'n dioddef yn dawel bach o gam-drin domestig.
Bawso sy'n trefnu'r gwasanaeth, ac mae'n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chymorth i Ferched Cymru, Cymorth i Fenywod Caerdydd, Llwybrau Newydd, Unite, Cymru Ddiogelach a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
Yn dilyn y gwasanaeth, bydd Leighton Andrews yn siarad yn nigwyddiad ymgyrch Rhuban Gwyn 'Nid yn fy enw i' sy'n cael ei gynnal yn y Senedd.
Mae'r ymgyrch ryngwladol hon yn cynnwys dynion a bechgyn wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Trwy wisgo rhuban gwyn, mae dynion yn gwneud addewid i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais yn erbyn menywod.
Bydd y digwyddiad 'Nid yn fy enw i' yn galw ar gynghorau, ysgolion, colegau, sefydliadau iechyd ac eraill i ddefnyddio'u dylanwad i hyrwyddo neges y Rhuban Gwyn – i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais yn erbyn menywod.
Cafodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddelio â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ei gydnabod yn ffurfiol trwy achrediad y Rhuban Gwyn a gafwyd ym mis Mehefin 2014.
Cafodd Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Gydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill. Y ddeddfwriaeth bwysig hon yw'r cyntaf o'i math yn y DU. Mae'n gosod y weledigaeth a'r cyfeiriad ar gyfer Cymru ac mae'r Ddeddf ar waith ers tro.
Bydd y Gweinidog yn dod â'r diwrnod i ben mewn gwylnos ganhwyllau, o adeilad y Pierhead i risiau'r Senedd, a fydd wedi'u goleuo gan ruban gwyn i nodi'r diwrnod.
Dywedodd Leighton Andrews: "Mae pawb wedi dod ynghyd heddiw i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod. Rydyn ni'n falch iawn o'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf wedi i'r Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod sy'n torri tir newydd gael ei basio. Ond mae yn dal angen gwneud llawer mwy. Erbyn hyn mae gennym y momentwm sydd ei angen i gydweithio er mwyn effeithio'n sylweddol ar fywydau pobl sy'n agored i niwed yn y blynyddoedd i ddod.